Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn rhoi cyngor ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl y Nadolig hwn
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn galw ar bobl ar draws Gogledd Cymru i gymryd camau syml i ofalu am eu hiechyd meddwl dros gyfnod y Nadolig.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn BIPBC:
“Gall fod yn anodd cyfaddef nad ydych yn teimlo’n dda yn ystod cyfnod o’r flwyddyn sydd i fod mor hapus, ond y cam cyntaf i wella pethau yw drwy rannu sut ydych yn teimlo gyda’ch teulu, ffrindiau neu rywun rydych yn ymddiried ynddo.”
Mae BIPBC hefyd yn annog pobl sy’n cael anhawster i ymdopi â’r pwysau sy’n gysylltiedig â’r Nadolig i gysylltu â Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru C.A.L.L, sydd ar gael 24/7 dros gyfnod y Nadolig a thrwy gydol y flwyddyn. Mae’r gwasanaeth yn rhoi cefnogaeth emosiynol gyfrinachol ac yn cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl lleol.
Gallwch gysylltu â C.A.L.L drwy ffoni0 0800 132 737, anfon neges testun ‘Help’ i 81066, neu drwy fynd i’w gwefan.