Angen mwy o sylw i anhwylderau iechyd meddwl llai cyffredin : Time to Change
Mae pobl sydd ag anhwylderau iechyd meddwl llai cyffredin yn cael eu ‘gadael ar ôl’ yn yr ymdrechion i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, yn ôl yr elusen Time to Change.
Mae gwaith ymchwil newydd yn dangos, er gwaethaf gwelliant cyffredinol yn agweddau’r cyhoedd, bod stigma a chamddealltwriaeth yn parhau i fod yn fyw o amgylch anhwylderau iechyd meddwl llai cyffredin, fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn ac anhwylderau personoliaeth.
Comisiynwyd yr ymchwil gan yr ymgyrch Time to Change, ac mae’n dangos:
- Bod 27% o bobl sydd ag anhwylder iechyd meddwl llai cyffredin yn teimlo bod gwahaniaethu yn eu herbyn wedi cynyddu dros y ddegawd ddiwethaf.
- Nad yw 84% o bobl sydd â phrofiad o salwch meddwl yn credu bod canfyddiadau ynghylch anhwylderau iechyd meddwl llai cyffredin wedi gwella dros y ddegawd ddiwethaf.
- Bod dealltwriaeth y cyhoedd am iselder yn dda; dywedodd 84% o bobl eu bod yn gwybod o leiaf ychydig am y cyflwr. Fodd bynnag, mae’r nifer o bobl a ddywedodd nad oeddent erioed wedi clywed am gyflwr, neu nad oeddent yn gwybod dim amdano, yn cynyddu’n sylweddol ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl llai cyffredin – 50% ar gyfer anhwylder personoliaeth ffiniol, 49% ar gyfer seicosis, a 35% ar gyfer sgitsoffrenia.
Daw’r ystadegau ar adeg pan fo ‘ymwybyddiaeth’ yn uwch nag erioed o’r blaen.
Mewn gwirionedd, mae agweddau tuag at anhwylderau iechyd meddwl wedi gwella ymhlith 5.4miliwn o bobl yn y 12 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, dywed Time to Change bod y ffigyrau diweddaraf yn amlygu sut mae camsyniadau a diffyg dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd yn golygu bod pobl sydd â diagnosis a symptomau penodol yn cael eu ‘gadael ar ôl’.
Rhybuddia’r elusen fod hyn yn broblem ddifrifol, oherwydd gall stigma iechyd meddwl, neu ofn ynghylch stigma iechyd meddwl, effeithio’n sylweddol ar fywydau’r bobl a gaiff eu heffeithio.
Mae’r ymchwil yn dangos bod 74% o bobl sydd â phrofiad o anhwylder iechyd meddwl llai cyffredin yn dweud bod ofni stigma a chamwahaniaethu yn eu hatal rhag gwneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud.
Er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch yn y ddealltwriaeth, mae Time to Change yn lansio’r ymgyrch See the Bigger Picture. Mae’r ymgyrch yn cynnwys ffilm fer sy’n cynnwys tri pherson sy’n byw gydag anhwylderau iechyd meddwl llai cyffredin – sgitsoffrenia, anhwylder personoliaeth ffiniol ac anhwylder deubegwn – sy’n rhannu camsyniadau cyffredin am eu cyflyrau.
Dywedodd Jo Loughran, Cyfarwyddwr Time to Change:
“Gellir dadlau bod iechyd meddwl yn cael ei drafod yn fwy nag erioed o’r blaen, ac mae hynny yn sicr yn beth da. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y newid hwn mewn agweddau yn digwydd yn gyffredinol, ac o fudd i bobl sydd ag ystod eang o anhwylderau.
Y gwir yw bod byw gyda chyflyrau fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn ac anhwylder personoliaeth ffiniol yn parhau i gael ei gamddeall i raddau helaeth. Rydyn ni’n galw ar bobl i weld y darlun ehangach – i wrando ar brofiadau pobl ac i ddeall sut beth yw byw gydag anhwylder iechyd meddwl.” [cyfieithiad]