Alffa yn lansio albym ac yn rhoi’r elw i meddwl.org
Diolch o galon i Alffa am gyfrannu elw o’r gig i lansio’u halbwm newydd ar 29 Tachwedd i meddwl.org. Codwyd cyfanswm o £150!
Dywedodd canwr y band, Dion Jones, ar Golwg360:
“Roedden ni eisiau gwneud gig acwstig ychydig yn fwy syml am wn i, ac mae’r arian i gyd yn mynd i’r elusen Meddwl.org hefyd. Mae’r elusen wedi helpu ni efo PR a phethau felly, mae o’n achos ofnadwy o dda ac yn rhywbeth pwysig i wneud dw i’n meddwl.”
Ysgrifennodd Dion ddarn i’n gwefan yn ddiweddar yn sôn am gefndir y gân ‘Babi Mam’:
“…Yn bersonol fy hoff eiriau gan Iwan sydd ar y recording (ond dim ar y fideo uchod yn anffodus) ydi – ‘Iechyd meddwl, nid pawb sy’n gallu rhoi bloedd’. I mi, mae hwnna mor syml a mor blaen mewn ffordd ond eto mor bwerus. Un bwriad y gân oedd bod yn blaen a’i wneud o’n amlwg. Dwi’n meddwl efo’r gân y bwriad oedd i dynnu sylw at iechyd meddwl ond doeddwn i rili ddim yn meddwl bysa’r gân wedi cael gymaint o sylw. Gafon ni gymaint o bobl yn dod ata ni ar ôl y perfformiad yn pwyntio y gân allan ac roedd hyna wirioneddol yn meddwl gymaint i ni, da ni’n gobeithio bod pobl wedi gallu g’neud cyswllt efo’r gân.” (darllen rhagor)