Rhieni alcoholig gan 2.5 miliwn o blant gwledydd Prydain : Golwg360

alcohol-silffoedd-gwirodydd-Silar-CCA-3.0Mae grŵp o aelodau seneddol yn lansio maniffesto yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw i fynd i’r afael â “sgandal gudd” – methiant i roi cymorth iawn i blant sydd â rhieni alcoholig.

Mae ymchwil y grŵp pob-plaid wedi datgelu fod un ymhob pum plentyn yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda rhiant sy’n yfed gormod, ac mae hynny’n cyfateb i fwy na 2.5 miliwn o blant. Maen nhw’n dweud bod diffyg strategaethau a phrinder arian i fynd i’r afael â’r broblem.

Bwriad yr ymgyrch yw “torri’r cylch” am fod plant sydd â rhieni alcoholig yn fwy tebyg o gael problemau yn eu bywydau hwythau.

Mae’r grŵp yn galw ar Lywodraeth Prydain i lunio strategaeth genedlaethol, cyllido cefnogaeth leol a theuluol, codi ymwybyddiaeth drwy addysg a hyfforddiant a chyfyngu hefyd ar hyrwyddo cynnyrch alcohol.

Darllen mwy : Golwg360

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb