Y Pethau Bychain

Mae byw efo cyflwr iechyd meddwl yn heriol i ddeud y lleia’, ac mae’r problemau bychain yn gallu ymddangos fel rhai mawr. Ond yng nghanol y storm, mae’r pethau bychain hefyd yn gallu bod yn bethau braf.

Felly, dyma flog hapus cyn y Nadolig yn rhestru 10 peth sy’n ymddangos yn bethau bychain, ond yn meddwl lot fawr iawn i mi. 😊

Sŵn glaw – Dwi’n *caru* sŵn y glaw. Mi fyswn i’n gallu gwrando arno fo drwy’r dydd, bob dydd. Mae ‘na wbath mor ymlaciol amdano fo, ac yn g’neud chi deimlo mor saff a chlud – yn enwedig pan ‘dach chi tu mewn yn swatio yn eich gwely. Bliss!

Ordro dillad/’sgidiau a bob dim yn ffitio – Anaml mae hyn yn digwydd felly pan mae o, mae o fel bod ‘Dolig di dod yn gynnar! ‘Dach chi’n disgw’l diwrnoda’ (sy’n teimlo moooor hir) i dderbyn eich parsal arbennig, yn edrych ymlaen at ga’l sioe ffashwn bach personol yn eich ‘stafell, mae’n cyrradd o’r diwadd ac yna, bam! ma’ bob dim yn edrych yn grêt, yn ffitio’n berffaith a ‘dach chi’n edrych yn hot to trot. Ac yna ‘dach chi’n mynd ymlaen at yr archeb nesa…ayyb…

Hyg – Mae hygs yn gwella bob dim. Does ‘na’m mwy i dd’eud. Simples.

Chwerthin nes dachi methu sharad – Pan ‘dach chi o amgylch pobl sy’n gwneud chi grio chwerthin, does ‘na’m teimlad gwell. Mae’r unigolion ‘ma’n brin i’w ffeindio felly daliwch arnyn nhw! Wrth gwrs, nid jyst pobl ‘dach chi’n ‘nabod yn bersonol sy’n gallu cael yr effaith yma arnoch chi. Mae rhaglenni/ffilms comedi hefyd yr un mor therapeutic ac yn codi calon. Fy top 3 ydi: ‘Miranda’, unrhyw beth gan Vic Reeves & Bob Mortimer, a ffilm Shrek 1&2 (randym, dwi’n gwbod)

Compliment – Sylwch y tro nesa’ ‘dach chi’n rhoi compliment i rywun y ffordd mae’u gwynebau nhw’n goleuo fyny. Ella mai compliment chi ydi’r unig beth neis ma’ nhw wedi’i glwad drwy’r dydd, felly pam ddim gwneud rhywun deimlo’n dda?

Gwisgo crysa-t & jympyrs over-sized – Does ‘na’m byd fwy cyfforddus na gwisgo petha’ sy seis neu ddau yn fwy na’ch dillad arferol! ‘Sgenai’m amsar ar gyfar gwisgo wbath tynn sy’n gwasgu ac yn anghyfforddus. Top over-sized, gwallt i fyny, panad a gwylio wbath da ar y teli = nefoedd.

Ail-ddarganfod cân dda – Mae Spotify yn grêt os ‘dach chi awydd trip lawr memory lane. Ma’na gymaint o playlists llawn hen ganeuon, o’r 50au hyd at heddiw. Dwi’n treulio oria’ yn mynd drwyddyn nhw ac yn ail-fyw fy mhlentyndod drwy ganeuon! Jyst gwnewch yn siwr eich bo’ chi’n cadw’n glir o’r playlists ‘Sad songs’, ‘Love and heartbreak’, ‘Grief’ ac ati…

Panad – ‘Sna’m byd yn curo paned dda. Mae’n g’neud chi deimlo’n well dim otch pa hwylia’ ‘dach chi ynddo. Blin? Amsar panad. Trist? Amsar panad. Hapus? Amsar panad. Ayyb. Does byth amser anghywir! Ahh. ☕️

Gwisgo dillad sydd newydd fod ar y radiator – Ma’n deimlad mor braf cymryd sana’, pj’s neu unrhyw eitem o ddilledyn off y radiator a’i wisgo fo’n syth! (Er, ddim gymaint efo nicyrs – neshi wisgo un oedd dal yn gynnas ag oddo yn lythrennol yn teimlo fel bo’ fi wedi cachu’n hun. Doni heb, er gwybodaeth.) 
Ac ar y nodyn yna…’Dolig Llawen x

Arddun Rhiannon