Unigrwydd

so pan ma rhywun yn gofyn wrtha fi “be di dy ofn fwya di?” dwi’n deud: “dwi’n casau fflio, ma heights yn neud traed fi fynd yn ffyni, a dwi’m yn licio anifeiliad heb traed.”

a petha fela ma pawb yn ddeud ia, fatha ella bod chi’m efo r’un rhei a fi, ella bod chi’n ofn speidars neu twllwch neu liffts. ond pob hyn a hyn ma’r cwmwl mawr du yn dod drosta fi a ma’n ofn mwya mwya mwya go iawn go iawn fi’n appeario.

tydw i’m yn deud clwydda. dwi’n terrified o fflio (er gwaetha faint o kalms dwi’n lyncu), ma even gwatsiad fideos o uchder yn neud fi cau’n llygaid yn dynn, a geith snêcs ffyc off. ond be dwi wirioneddol ofn ydi unigrwydd.

dwi byth yn cofio mod i’n ofn unigrwydd tan ma’n digwydd. dwi tha “o shit, hyn eto.” fyddai’n ista yn gwely – hollol ben fy hyn mewn ty llawn pobol. nai godi a mynd i weld mam neu dad neu’n chwaer a’i chariad, ond ma pawb yn brysur doing their own thing. ma hynna’n peth arall dwi’n ofn; bod yn annoying a pobol slagio i off. so nai jyst dychwelyd i bedrwm, mynd ar fy ffôn a snapchatio’n ffrindia neu tecstio rhywun ac ista a disgwl. a disgwl. a disgwl. disgwl am amser mor hir ma’r gair “disgwl” yn dechra swnio’n weird…

Parhau i ddarllen blog Lowri