Unigrwydd

Y peth anodd am fyw mewn dinas fawr fel Lerpwl ydi’r ffaith bod rhaid i mi fyw ar ben fy hun. A tydi o heb fod yn help fy ‘mod i’n gorfod byw i ffwrdd o adre.

Ar adega’, dwi’n licio cwmni fy hun (dim i’r extent lle dwi’n troi yn reclusive hermit), ond dweud hynny, yn aml dwi’n teimlo fod bod ar ben fy hun, yn medru gwneud fi deimlo tipyn bach yn ddigalon mewn ffordd.

Y teimlad o unigrwydd.

Efo rhywun sy’n diodde’ o iselder, mae’n medru gwneud petha’n llawer gwaeth.

Dwi’n ymdopi gyda’r peth yn dda yn ddiweddar – dwi’n chwarae pêl droed bob nos Fawrth, mynd am beint gyda fy nghydweithwyr (ystod amser cinio dydd Gwener coeliwch neu beidio), ag fyddai’n treulio pob un o’m mhenwythnosa’ i adre achos, does unman debyg i adre wrth gwrs.

Ond dan mis Hydref, roedd popeth mor anodd braidd.

Be oedd yn anodd oedd y ffaith fy mod i way out of my comfort zone. Oedd, mi roeddwn i yma tra roeddwn i’n Brifysgol, ond oedd gen i ambell o ffrindia’ Cymraeg a flatmates oedd yn gwmni i mi dros y tair mlynedd.

Wan, s’neb yma i ddweud y gwir! Oni’n ffendio fo’n anodd mynd i gwaith a methu siarad Cymraeg fatha roni ‘di arfer gwneud, ag ar ben hynny, eu bod nhw’n ddiarth i mi mewn ffordd lle dwi heb adnabod nhw ers hir.

Ar y pryd doeddwn i methu gwneud llawer o ddim byd gyda’r penwythnos achos… wel… doni’m yn gwybod be i neud nag efo pwy, ac oedd popeth bach yn ddiflas ag unig mewn ffordd.

Swni’n checio’n ffôn bob munud i weld os oeddwn i wedi cael notification, a ‘swn i’n meddwl trio gyrru neges i bobl erill jysd er mwyn siarad.

Ar ben hynny, swni’n gorfeddwl am ambell i beth absoluteeeeely stupid, fel:

“Be os na hyn ydi o?”

“Be os gai fyth gariad?”

“Dwi’n edrych fel chydig bach o outcast neu weirdo neu rhywbeth?”

“Dwi’n annoying?

A.Y.Y.B….

Please don’t get me wrong dwi’n iawn wan (obviously) ond dyna sut oedd o. Ag ella fyddo fela eto, dwnim!

Hollol sdiwpid ohona i yn rhoi cyngor yn fama ond, dwnim, os welwch chi rhywun sydd ar ben ei hunain, jysd cerwch i sharad, hyd yn oed os ydi’r conversation yn hollol dwp am dywydd neu pêl droed…

Mae’n helpu!

Efan Thomas