Storm

Mi gychwynodd y diwrnod yn dda – y trydydd diwrnod da ar y tro (ar ôl pump diwrnod drwg, tywyll ag isel).

Mi ges i fore neis efo’n ffrind a’i hogia (a’r ci sy’n gwmni bach da iawn i mi ar adegau) drwy gael panad, sgwrsio a chwarae chydig cyn mynd ymlaen i dreulio’r pnawn ym mharti penblwydd fy nith. Eto, pnawn bach neis o hwyl a chwarae.

Roeddwn i’n dal i deimlo’n iawn ac yn edrych mlaen am y chwarae a’r brechdanau ŵy (y peth gorau am barti plant!). Ond, ar ôl riw hanner awr roeddwn i’n dechrau teimlo fy hun yn pellhau o’r sefyllfa – ddim yn gorfforol ond yn feddyliol. Doedd gen i ddim awydd sgwrsio a chymdeithasu a roeddwn i’n teimlo’n flin efo fi’n hun am hynny. Roeddwn i’n gorfod gwneud ymdrech i gyfrannu, a dylwn i ddim fod yn gorfod gwneud ymdrech mewn sefyllfa mor hwyliog, ysgafn a chariadus, ond fel’na roeddwn i’n teimlo.

Aeth y p’nawn yn ei flaen yn ddi-lol ac roedd digon o chwerthin, chwarae a chanu penblwydd hapus. Ar ôl chwythu’r canwyllau a thorri’r gacen, penderfynais mod i am fynd.

Yn y car ar y ffordd adref, allan o nunlla a heb i mi sylweddoli, roeddwn i’n crio.

Roedd y dagrau’n llifo a doeddwn i prin yn gallu gweld y ffordd. Doedd gen i ddim rheswm dros grio na bod yn drist – dylwn i fod yn werthfawrogol a diolchgar o’r holl sgen i – mod i wedi cael diwrnod lyfli efo’r bobl sydd agosaf ata i. Ond doeddwn i methu gweld hynny. Roeddwn i’n teimlo fel bod storm yn agosau a’r mellt yn fy nharo.

Stopiais ar lan y môr ar y ffordd adra. Roeddwn i’n eistedd yn y car – yr haul yn disgleirio ar y môr – yn crio. Roeddwn i’n crio go iawn erbyn hyn, nid dim ond dagrau. Doeddwn i methu cael fy ngwynt. Mi es i allan o’r car a dechrau cerdded, a dal i grio.

Mi nes i feddwl txtio’n ffrind i holi os fysa hi’n meindio petawn i’n galw heibio ar y ffordd adra. Mi wnes i hyd yn oed dechrau sgwennu’r text, ond i’w ddileu. Dwi ddim yn gwybod be fyddwn i wedi ei ddweud petawn wedi mynd yno, dwi’m yn meddwl fyddwn i wedi medru dweud llawer o ddim byd, dim ond crio. Ond roedd gen i gywilydd mynd yno yn y fath gyflwr ac roedd hi’n amser tê arnynt. Doeddwn i ddim isio bod ar draws tŷ a hitha efo gymaint ar ei phlat yn barod.

Ond wrth i mi gario ‘mlaen cerdded ar y lan môr a throi’n ôl am y car, dechreuais sylwi fod y storm yn dechrau pasio a’r pwysa yn fy mhen yn ysgafnhau. O le daeth y storm na pham y daeth, sgen i ddim syniad.

Ond roedd yn pasio. Mi gyrhaeddodd  o nunlla ac wedyn diflannodd o nunlla.


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb

Gadael Ymateb