‘Roedd y dyddiau’n hir ond hedfanodd y flwyddyn: fy nhaith gyda Iselder ôl-enedigol’ – Eleri Barder

Wnes i erioed dychmygu y byddwn i wedi dioddef o Post Natal Depression, wedi’r cyfan roedd pethau’n iawn wedi geni fy merch hynaf bron i dair blynedd yn gynharach.  Ond ar ôl dychwelyd o’r ysbyty daeth hi’n amlwg nad oedd pethau’n iawn.  Do, ges i feichiogrwydd anodd, dioddefais o hyperemesis gravidarum am y naw mis, a chafodd fy merch ei geni drwy emergency C-section, ond roedd y dyddiau a’r misoedd yn dilyn hynny yn hunllef ar brydiau.  Pan ddaeth y fydwraig i’n cartref ar y degfed diwrnod i’n rhyddhau ni o’u gofal, cododd digon o bryder i warantu fy nghyfeirio at y tîm iechyd meddwl

Doeddwn i ddim eisiau bod nunlla agos at fy merch oherwydd y flashbacks cyson o’r enedigaeth a’r beichiogrwydd, ond eto doeddwn i ddim yn gallu ymddiried yn neb arall i edrych ar ei hôl hi. Roeddwn i wedi argyhoeddi fy hun y byddai fy merch hynaf yn lladd ein babi bregus ni ac yn gwneud popeth fedrwn i i’w cadw ar wahân.  Roeddwn i’n dychmygu fy hun yn cerdded o flaen car, yn dreifio oddi ar y ffordd, yn peryglu fy mywyd mewn gwahanol ffyrdd.  Llais creulon yn dweud “Ti ddim yn haeddu bod yn fam”.

Yna, daeth nyrs arbenigol i’n cartref.  Mwy o gwestiynau, dagrau ac ofn.  Cadarnhad o Post Natal Depression a trawma.  Roeddwn i’n teimlo fel methiant llwyr.  Ar adeg yn fy mywyd lle roeddwn i wedi dychmygu cymaint o lawenydd, roeddwn i wirioneddol yn sâl.  Roedd y nyrs yn ceisio fy narbwyllo bod modd gwella, y byddaf un dydd yn mwynhau cwmni fy maban, ond fedrwn i ddim ei chredu.  A doedd y siwrne ddim am fod yn un hawdd.  Rhoddodd ddau opsiwn i mi, mynd i uned mam a’i phlentyn (yr un agosaf ym Mryste, dros ddwy awr i ffwrdd ohonom, ond doedd dim sicrwydd y byddai gwely yno) neu gofal dwys yn y gymuned.  Fedrwn i ddim gadael fy nghartref, fy nheulu, fy ffrindiau.  Roeddwn i angen eu cefnogaeth nhw, ddim bod mewn uned oedd oriau maith i ffwrdd.

Felly fe ddechreuodd fy siwrne i wella.  Ymweld â’r meddyg teulu, derbyn meddyginiaethau, cyswllt cyson gan y bydwragedd a’r ymwelydd iechyd, sesiynau gyda’r gwasanaeth cwnsela ac apwyntiadau di-ri gyda’r tîm iechyd meddwl.  Roedd fy nheulu a ffrindiau yn fy annog pob dydd i fynd allan, i ymuno mewn gweithgareddau, i wneud y pethau hynny oeddwn i’n arfer eu mwynhau ond rŵan oedd yn teimlo fel mynydd i’w ddringo.

Ces i sesiynau therapiwtig i ddatglymu gafael y trawma ar fy mywyd.  Dysgais sgiliau newydd i fy helpu i ddelio gyda gwahanol emosiynau, adeiladu fy hyder i allu ymdopi gyda digwyddiadau dyddiol a sylweddolais drwy siarad gydag eraill pa mor gyffredin ydi llawer o’r emosiynau hyn yn dilyn rhoi genedigaeth, ond eto nid yw mamau yn teimlo’n saff i rannu’r meddyliau anghynnes gydag eraill oherwydd yr ofn o gael eu barnu fel mam wael, a’r ofn y byddai eu plentyn yn cael eu cymryd i ffwrdd.  Un o’r pethau mwyaf pwerus ddywedodd fy nyrs iechyd meddwl wrtha i oedd bod y ffaith mod i’n poeni am y meddyliau annifyr am be allwn i ei wneud i fy hunan a fy mabi yn dangos faint dwi yn ei charu hi ac o’r herwydd, fy mod i yn annhebygol iawn o weithredu ar y meddyliau hynny er gwaetha pa mod annifyr ydynt.  Dyma ffordd yr ymennydd o ymateb i drawma, newidiadau mawr mewn bywyd a diffyg cwsg.  Siarada amdanynt, sgwenna nhw lawr a fydd ganddyn nhw ddim gymaint o afael drostat ti.

Dwy flynedd ers ei geni, a dwi’n teimlo lot gwell ac yn falch o’r oll dwi wedi ei ddysgu;

  • Dydw i ddim yn fethiant am fy mod i wedi stryglo cymaint.
  • Mae hin iawn i deimlo fod pethau yn anodd weithiau – tydi hynny ddim yn adlewyrchiad o bwy ydw i.
  • Fi ydi’r fam orau i fy merched, a dwi angen modelu gofal da o fy hun iddyn nhw.
  • Er mwyn rhoi’r fersiwn gorau ohonof i fy hun i bawb o fy nghwmpas i – dwi angen bod yn iach; yn gorfforol ac yn feddyliol.
  • Dwi’n werthfawr, ac yn haeddu rhoi amser i edrych ar ôl fy hun yng nghanol prysurdeb bywyd gyda theulu bach. Mae’n iawn i ofyn i ffrind edrych ar eu holau fel fy mod i’n gallu cael bora tawel i gael bath a phaned cynnes mewn tawelwch.
  • Paid ag anwybyddu’r pethau syml mae dy gorff ei angen – yfa ddŵr pan ti’n sychedig.

Weithiau fe fydd ambell i sialens mewn bywyd – weithiau fe fydd meddyliau anghynnes yn dod i fy meddwl – weithiau fyddai’n dechrau poeni yn ormodol am sefyllfaoedd tu hwnt i’m rheolaeth (e.e Covid-19), ond dwi wedi dysgu sut i ddechrau adnabod y meddyliau hynny yn gynharach, ac yn dychmygu fy hun yn cau’r drws arnynt, yn gwrthod eu gadael i gymryd gafael yn fy mywyd ac yn blaenoriaethu’r tasgau bach i edrych ar ôl fy hun.

Dwi mor ddiolchgar i’r holl bobl wnaeth fy nghefnogi drwy’r cyfnod yma.  Diolch am fy annog i wella, am gredu ynof, am wrando ac am fy helpu i gyrraedd man ble allai fwynhau cwmni fy merched unwaith eto.

Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i edrych ar ôl y mamau yn ein cymuned, i ofyn y cwestiynau anodd am sut maen nhw’n ymdopi, ond yn bwysicach oll i wrando heb farnu ac i’w hannog i dderbyn help proffesiynol os yw hynny yn briodol. Dwi’n angerddol dros sicrhau fod mamau eraill yn gwybod nad ydynt yn fethiant, a taw nhw ydi’r fam orau ar gyfer eu baban, i’w galluogi i fwynhau cwmni eu plant ac i flodeuo yn eu bywydau dyddiol.

 Dyma’r brif elusen sy’n cynnig cefnogaeth ar gyfer dioddefwyr o PND a’u teuluoedd: www.pandasfoundation.org.uk/

*****

Dyma beth ysgrifennais i drwy gymorth y sesiynau therapi ar achlysur pen-blwydd cyntaf fy merch:

And in a blink of the eye Tirzah is one.

The year has gone, 

but the days were long

and what a year we’ve had.

A year of growth.

A year of learning.

A year of trials.

 

Since the early days growing inside me we had our challenges.

The sickness 

The guilt

The resentment.

 

I wish I’d never been so sick.

Wish I’d never wanted out of the pregnancy.

Wish I’d never had the mental battle of needing medication to survive but also constantly worrying if they were affecting you.

 

Then you were born.

Not quite to plan. 

Was it my fault? 

Are you ok?

The fear, the guilt, the panic.

 

We brought you home.

I was relieved but on edge.

I wish I could have relaxed and enjoy the newborn cuddles. 

Instead all I could hear was my heart beating so fast.

I wish I could have looked at you with joyful eyes.

Instead I was scared, on high alert for any danger.

I wish I could have responded to your cries with a loving heart.

Instead all I felt were pangs of fear as the flashbacks set in and the dread of the next cry.

I wish I could have provided all you and your sister needed.

Instead I just wanted to run away and escape it all.

 

I wish that a lot of the past year hadn’t happened the way it did.

 

But I’m proud.

Proud that we’ve survived the year.

Proud of the love that we’ve labored to achieve.

Proud that I can now enjoy your cuddles in peace and quiet.

Proud that I can now respond with love when you cry.

Proud that I can provide what you need to the best of my abilities.

Proud that I’ve let go of the need to be perfect.

Proud that I can accept help.

Proud of the village of people we have around providing support to us.

 

Yes it hasn’t been the year that I had in mind. But through all the struggles we have grown stronger. Grown into a deeper love. Grown into deeper appreciation of our lives.

 

Pen blwydd Hapus Tirzah Madlen, you are our true delight. X

Rhannu

Gadael Ymateb