Rhwystrau fy anableddau – Rhŷn Williams

Mi roedd fy mhlentyndod yn dda, adeiladodd fy nhâd fy nghartref cyn i mi cael fy ngeni, yr oedd o’n ddyn a oedd yn gweithio’n galed i gadw’r teulu fynd, rhyngddo fo a fy mham roedd yna fwyd ar fy mwrdd bob dydd.. dillad glân bob tro oedd angen. Roedd fy mam hefyd yn uffernol o dda am geisio gwneud y gorau i mi; drwy fynd a fi i gystadlaethau ac Eisteddfodau a ballu.. roedd fy mywyd yn ddigon clyd.

Oherwydd fod gen i nodweddion (traits) ‘dros ben llestri’, fel anifail gwyllt, roedd hi’n anodd gneud cyfeillion (blynyddoedd wedyn darganfyddais fod genai ‘ADHD’ a dislecsia). Mi roedd hi’n fywyd unig heb fod yn treulio amser yn cymdeithasu gyda plant eraill, a treuliais rhan fwyaf o fy mhlentyndod ar fy mhen fy hun. Roedd fy addysg yn ysgol yn wael iawn oherwydd fy anableddau, ond un peth yr oeddwn yn dda amdano oedd celf a chrefft.

Pan es i i ysgol uwchradd, dyna pryd gychwynodd yr effaith ar fy iechyd meddwl: pryder oherwydd roeddwn i chydig yn wahanol ac yn sefyll allan – cychwynnodd rai plant bigo arnai, ac roeddynt yn neud o fel rhan o ‘pac’ neu grŵp, felly roedd hi’n anodd iawn i mi gysylltu gyda pobl a treuliais lawer o fy amser yn osgoi plant eraill a oedd yn targedu fi. Ar yr un pryd, ddioddefais o ymosodiadau panig, roeddwn i’n credu fod y plant eraill yn dod ar fy ôl ac yn plotio yn fy erbyn i.

Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, es i i coleg celf: Coleg Menai ym Mangor. Roedd fy amser yno yn fendigedig – oedd, roedd pobl yn gweld fi fel person waci a llawn nerth ond roeddwn i’n cael fy nhrin fel rhywun arferol, yn rhan o fy nghymdeithas a creuais gyfeillion yno. Roeddwn yn gallu mynegi fy meddyliau a fy marn drwy fy nghelf, ac yno y gofynnodd fy nhiwtor os oeddwn i erioed wedi cael prawf dislecsia. Dyna y tro cyntaf i mi glywed am y cyflwr, felly drwy help, enillais rhagoriaeth am fy ngwaith a gwobr Peter Prendergast.

Yn syth ar ôl i mi orffen coleg, es i i Brifysgol Caerdydd. Roedd fy amser yno’n wallgo, heb ddim cyfeiriad pendant ble roedd fy ngwaith celf yn fy arwain i. Cefais i ddim llawer o gyngor gan fy athrawon, a disgynnais i iselder dyfn. Fe driais gael help dislecsia, ond fe gollon nhw fy ffeiliau o Goleg Menai ac oherwydd hyn cafodd fy mharciau dwethaf eu heffeithio. Ond o drwch blewyn, gorffenais gyda BA.

Ers hynny, drwy help gan fy meddyg a thrwy greu gwaith celf, dwi’n gallu rheoli fy iechyd meddwl yn well. Mae o am fod yna drwy fy mywyd, ond drwy chwilio am help a pheidio cloi fy nheimladau i mewn, fedrai weld dyfodol llachar.

Mae pawb angen rhesymau i fodoli ac mae lleisiau pawb yn bwysig, peidiwch a dioddef mewn distarwydd!

Rhŷn Williams

 


Darllen rhagor:

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb