Rheolaeth.

Image result for bipolarRheolaeth. Un gair, miliwn o wahanol ystyron. I mi, rheolaeth yw’r mecanwaith sydd yn fy helpu i ymdopi. Hyd yn oed os yw’r rheolaeth hwnnw’n ymddangos fel bod allan o reolaeth i eraill. Beth bynnag yw’r ystyr y tu ôl i’r angen am reolaeth, y ffaith mai fy newis i yw o sy’n cyfri. Mewn sefyllfaoedd ble mae popeth allan o dy reolaeth di, nid oes syndod bod yr angen i gymryd rheolaeth yn ôl yn syniad atyniadol. Ac yn fwy nag atyniadol – yn syniad caethiwus. Ydi o dal yn cael ei ystyried fel caethiwed.. os dy fod di’n teimlo gwellhad ohono? Ai math o ddibyniaeth – fel alcohol neu gyffuriau – yw hyn? Ydi o’n bosib i fod yn gaeth i ti dy hun? A pam, blynyddoedd ar ôl ‘gwella’, ydw i dal yn gaeth? Caethiwed. Un gair, miliwn o wahanol ystyron.

I’r cyhoedd cyffredin, mae bod gyda salwch sydd methu cael ei weld yn ffisegol yn anodd i’w ddeall. Os yw person gyda coes wedi’i thorri, gydag annwyd neu firws, gyda niwed neu salwch adnabyddus.. hawdd yw deall. Hawdd yw derbyn y dioddef, gan bod y person cyffredin yn deall y salwch yn barod. Ond beth os bod genti salwch sydd ddim mor adnabyddus? Beth os nad oes modd gweld dy salwch di? Sut mae disgrifio’r profiad i rywun sydd heb deimlo’r dioddef? Mae bron yn amhosib. Ond drwy godi ymwybyddiaeth ac helpu eraill i ddeall drwy drosglwyddo gwybodaeth mae posib cyrraedd pwynt ble bydd salwch anweladwy’n cael ei drin fel unrhyw salwch gweladwy.

Tydi fy mhrofiad i gydag afiechyd meddyliol ddim yn anghyffredin. Ond drwy ystyried ymateb y cyhoedd cyffredin, byse ti’n iawn i feddwl ei fod o.

Dwi’n dioddef o anhwylder bwyta. Weithiau. Pob tro. Dwi’n dioddef o iselder. Weithiau. Pob tro. Dwi’n dioddef o or-bryder. Weithiau. Pooooob tro. Os fyddai unrhyw feddyginiaeth neu dabled allwn i ei gymryd i wahanu oddi wrth o, byswn i’n gwneud rhywbeth i’w gael o. Wbath. Nid oes unrhyw un o’r degawdau o dabledi dwi wedi’i gymryd wedi gweithio eto.

Yn 2012 derbyniais y newyddion fy mod i gyda Anorecsia Nerfosa. Yn 2013 roedd fy organau yn cau i lawr gyda BMI mor isel nad oedd y siart yn ei gyrraedd o. Yn rhesymegol, mi ddylwn i fod wedi marw. A’r peth gwaetha? Nid oedd ots gen i. Dim o gwbl. A dyna’r cysyniad fwyaf ofnus o’r holl beth. Gwybod fod dy ymennydd dy hun yn gallu troi yn dy erbyn di gymaint – mae’n dy ladd di. Nid oeddwn i eisiau marw.. dim go iawn. Ond oedd rhywbeth yn fy mhen eisiau gwneud i mi ddioddef, yn dweud wrthai i ddioddef, yn sgrechian arnai i farw. Ac mi wrandais. Mi wrandais am rhy hir. Mi ydw i dal i wrando. Weithiau.

Ar ôl blynyddoedd o driniaeth seiciatrig, o driniaeth ar fy nghorff a oedd wedi’i ddinistrio’n gyfangwbl..mi wrandais ar y pobl o fy nghwmpas. Yn lle sgrechian ar ddoctoriaid a theulu a phawb oedd yn trio eu gorau i fy helpu i, gwrandais arnyn nhw a sgrechian ar y salwch.

Mae popeth o refeeding syndrome, y driniaeth dyddiol, y ddioddefaint meddyliol, yr effaith ar y pobl o fy nghwmpas i.. dal i lenwi fy hunllefau. Ond mae’n well. O wir mae o’n well.

Yn lle byw mewn tywyllwch gyda mymryn o oleuni.. rwy’n byw yn y goleuni gyda mymryn o dywyllwch.

Rhai adegau mae iselder yn fy ngafael i mor dynn dwi’n teimlo fel ddoi fyth yn ôl. Ond dwi yn. Pob tro. Ac yn yr amseroedd yma, dwi’n cofio fy mod i wedi gwneud hyn canwaith o’r blaen, felly beth sydd am fy stopio i o’i wneud o eto?

Mae’r gor-bryder yn fy ngafael i am hirach.. ar ôl ymosodiad mae’n cymryd cwpl o wythnosau i ddŵad yn ôl o’r twll hwnnw. Ond dwi’n ei wneud o. Dwi’n gwybod ble mae’r ystol erbyn rwan. Rwy’n lwcus yn y ffordd y mae pobl eraill wedi fy ngharu i a chredu yn fy ngallu i yn fwy na swni erioed wedi gallu ddychmygu. Hyn sy’n fy nghario i drwy pob dydd.

Mae fy mhwysau ffisegol i’n newid yn eithafol o fis i fis. Dwi dal i ddysgu sut mae byw mewn ffordd iach gyda bwyd. Dwi dal i ddysgu sut i beidio cymharu fy hun gyda pob un person dwi’n gweld yn ddyddiol, a pheidio gadael i fy mhen i fy argyhoeddi nad ydw i ddigon da. I mi, nid oes ffasiwn beth a llwybr canolog.. rwy’n berson o eithafion.. go hard or go home. Dwi’n bwyta fwy na gwlad o bobl neu rwy’n bwyta fel llygoden. Rwy’n ecstatig, yn egnïol, yn neidio o gwmpas yn taflu pelydrau haul o nghwmpas i un eiliad.. i fod yn gaeth i’r gwely, yn rhy numb i symud, rhy isel i feddwl, rhy fed up o fodoli yr eiliad nesaf. Dwi erioed di teimlo fy mod yn haeddu cael gadael i fy hun deimlo teimladau negyddol tan yn ddiweddar. Dwi’n ceisio gadael i fy hun deimlo – heb deimlo’n euog amdano. Dwi’n flin weithiau. Dwi’n genfigennus weithiau. Dwi’n hunanol weithiau. Dwi eisiau sylw, a derbyn, a bodoli’n hyderus weithiau. Ac mae hynny’n iawn. Nid oes angen cosbi fy hun na dianc o’r teimladau yma. Dyna yw bod yn ddynol, yn fyw.

Mae hyn yn ok.

Mae hi’n 2018 ac rwy’n iach ond dwi dal i gael triniaeth. Triniaeth bychan, triniaeth cadw ar y llwybr cywir. Nid yw hyn yn fethiant ar fy rhan i, ond yn rhywbeth sydd am fy helpu i i fyw mewn ffordd iach, hapus a sefydlog. Ac mae hyn yn ok. Efallai nad cael gwared o’r salwch oedd y nod i gychwyn efo’i.. ond dysgu i ddelio gyda’r anghydbwysedd yn fy ymennydd mewn unrhyw ffordd gallai. Trial and error di’r cyfan. Ond mae’n well.

O wiiiiir mae gymaint gwell!

 

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb