PTSD a Fi – Ceri Phillips

Rwy’n cofio mynd i’r ysgol ryw fore ac ar ôl gwasanaeth es i’n mlaen i’n nosbarth ac mi ddes i ar draws athro a rhoddodd ffrae i mi am redeg ar hyd y coridor. Ar ôl y ffrae mi rewais yn llwyr, dechreuais grio a doeddwn i’m yn medru anadlu, mi wnaeth y teimlad o beidio gallu anadlu parhau drwy’r bore ac wedi i mi gael fy ngwynt yn nôl ataf doeddwn ni’m yn gallu aros yn llonydd ac roedd geiriau’r athro yn troi a throi ac yn ail- adrodd yn fy mhen. Chwarae teg mi wnaeth un o athrawon yr ysgol sylweddoli nad oeddwn i’n iawn ac mi aeth a fi am dro a dweud wrtha i am gymryd amser o’r dosbarth.

Mi gymerodd flynyddoedd i mi gael diagnosis o PTSD gan fy mod yn medru mynd am gyfnodau hir heb unrhyw broblemau, ond gall rywun fod wedi dweud rhywbeth neu symud mewn rhyw ffordd ail- bwyso’r botwm ac wedyn BANG mae’n taro rhywun fel taran yn mynd drwy eich corff. Nid wyf eisiau sôn am pam fod gynna i PTSD,  gan mai nid y PTSD sy’n fy niffinio i fel person a dyna pam nad wyf yn hoffi sôn amdano ryw lawer, ond rwy’n credu fod hi’n bwysig fod pobl yn ymwybodol o ffasiwn beth ydy byw gyda’r cyflwr.

Mi fydd PTSD arna i am byth ac rwyf wedi derbyn hynny bellach. Er fy mod yn cael cyfnodau da rwy’n medru cael ‘blips’ . Y peth gwaetha’ am PTSD ydy ei fod mor anrhagweladwy,  gallaf fod yn teimlo rêl boi wrth godi ac wedyn gall rywun ddweud neu wneud rhywbeth sy’n fy atgoffa i o ryw gyfnod ac wedyn ‘BOOM’ mae’r rhaff yn clymu ym mherfedd fy stumog, rwy’n rhewi tu mewn, dagrau’n llifo a chau stopio. Rwy’n meddwl a meddwl ac mae’r geiriau neu’r digwyddiad yn troi a throi yn fy meddwl wnes fy mod yn teimlo fy mod yn mygu. Weithiau, rwy’n teimlo’n well ar ôl ychydig o ddiwrnodau ond gall ‘episode’ barhau am wythnosau.

Pethau cadarnhaol am PTSD

  1. Rwy’n ‘good judge of character’. Bydd pobl yn aml yn gofyn i mi “Beth oeddet ti’n feddwl?” ar ôl cyfarfod â rhywun neu grŵp o bobl am y tro cyntaf.
  2. Rwy’n wyliadwrus ac yn feddylgar. Rwy’n barod i wrando a helpu unrhyw un gan fy mod i wedi cadw pethau mor breifat am flynyddoedd wrth frwydro efo fy niagnosis. Rwyf hefyd yn wyliadwrus iawn o broblemau pobl eraill ac yn cydnabod fod ‘problem’ yn broblem a dim ots be ydy’r broblem, mae pethau gwahanol yn poeni pawb.
  3. Rwy’n deall be’ ydy fy ‘limits’ yn dilyn derbyn therapi ac nid oes gynnai ofn dweud ‘na’ ar ôl blynyddoedd o fod ofn pechu pobl neu adael rhywun a fi fy hun i lawr.

Pethau negyddol am PTSD

  1. Anrhagweladwyedd y cyflwr. Mae’r cyflwr mor unpredictable sy’n andros o annoying achos mae rhywun yn dod ar draws pobl newydd yn ddyddiol (yn ystod cyfnod normal – ddim fel rydyn ni rŵan efo covid-19) a gall rywun neu rywbeth trigo ‘episode
  2. Diffyg trust. Dw i ddim yn medru ymddiried mewn pobl (mi wnâi yn y diwedd) ac os ydw’i, fe allai gymryd oes i mi agor allan. Gymerodd o 10 wythnos o therapi i mi agor allan a roedd hynny gyda chwnselydd a mewn sesiynau 1:1 hollol gyfrinachol (proses o’r enw Transactional Analysis ges i gyda llaw, effeithiol iawn)
  3. Teimlo’n claustrophobic. Rwy’n aml yn gorfod agor ffenestri mewn swyddfeydd neu gyfarfodydd. Nid wyf yn rhy hoff o bobl yn sefyll yn rhy agos ataf (os nad oes rhaid gwneud) neu fod rhywun yn edrych i fyw fy llygaid (Felly, mae’r busnes aros 2 fedr i ffwrdd oddi wrth pobl ddiarth neu rheiny sydd ddim yn eich swigen yn fy siwtio i i’r dim 😊 )
  4. Panig a’r gor-feddwl yn ystod episode. Panig ydy rhan waetha’r cyflwr achos mae’n effeithio ar eich cwsg, deiet a weithia’, y cwbl rwyf isio wneud ydy bwrw ‘mol efo rywun ond does ‘na’m byd yn gwneud synnwyr yn ystod episode i mi felly pa obaith sydd gan fy ffrindiau, teulu i ddeall be’ sy’n mynd ymlaen yn fy mhen i. Rwyf hefyd isio cysgu achos dyna’r unig adeg mae fy meddwl yn llonydd yn ystod episode ac weithiau rwyf isio diflannu am byth (mae fy meddwl yn dweud wrtha i am mai dyna fyddai orau i bawb).Erbyn hyn, mae fy nghyflwr i dan reolaeth, ond rwy’n derbyn y gallaf gael episode unrhyw bryd fel y cefais ryw dri mis yn nôl, ond mi lwyddais i oroesi diolch i fy meddyg teulu, ffrindiau ac i awyr iach Gogledd Cymru.Gall unrhyw un ddioddef o PTSD, gan fod profiadau bywyd pawb yn wahanol. Efallai bod rhywbeth wedi digwydd i chi neu i rywun rydych chi’n nabod yn dda, digwyddiad ar y newyddion yn eich taro, profedigaeth, bwlio, eich magwraeth neu gall bywyd greu PTSD, oherwydd dydy bywyd ddim bob amser yn glên neu’n ‘plain sailing’nachdi?

 

Rhannu

Gadael Ymateb