Problemau iechyd meddwl yn y gymuned LHDTC+ : Ai cyd-ddigwyddiad yw hyn?

Hoffwn gychwyn y blog yma gan gydnabod fod amryw o bobl LHDTC+ yn bodoli.

Bydd rhai yn uniaethu yn LHDTC+ yn falch ac yn agored ac wedi am sbel. Bydd rhai sydd yn cwestiynu, a rhai sydd ar fin dweud wrth eraill.  Fydd rhai byth yn gallu dweud eu bod yn LHDTC+ yn agored oherwydd eu sefyllfaoedd personol. All rhai ohonom ni wybod ein bod ni yn LHDTC+ ym 5 mlwydd oed a rhai ym 50 mlwydd oed ac mae’r ddau yn ddilys. Mi fydd rhai yn dewis hongian baner Pride allan o’u ffenestri, a bydd rhai yn cadw eu Pride yn eu calonnau am byth. Mae’r gymuned yn amrywio o hyd ac mae cynrychioli pob person a grŵp yn holl bwysig.

Mae gan bobl wahanol, frwydrau gwahanol wrth iddyn nhw ddilyn eu bywyd fel person LHDTC+, felly mae rhannu ein straeon a materion yn galluogi ni i gefnogi ein gilydd.

Ers i mi ddweud wrth fy nheulu yn 2017 fy mod i mewn perthynas â menyw a hwyrach yn uniaethu fel Menyw hoyw, rydw i wedi cwrdd â sawl person sydd yn LHDTC+. Wnes i sylwi ar duedd yn y gymuned dwi mor falch i fod yn rhan ohono bron yn syth.

Mae llawer ohonom ni yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, fy hun yn gynwysedig. A cyd-ddigwyddiad yw hyn neu ydi’n broblem ddifrifol sydd yn bodoli yn y gymuned?

Es i fel millenial llwyr i’r we am atebion.

Mae sawl testun yn cefnogi fod problemau iechyd yn y gymuned LHDTC+ ddim yn gyd-ddigwyddiad.  Yn ôl un testun, mae aelodau o’r gymuned LHDTC+ yn fwy tebygol o brofi ystod o gyflyrau problemau iechyd meddwl fel iselder, meddyliau hunanladdol, hunan-niweidio a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau[1]. Nododd Stonewall fod hanner o bobl LHDT+ wedi dioddef o iselder yn y flwyddyn diweddaf[2].  Yn debyg, nododd Rethink fod pobl LHDT+ at fwy o risg o ymddygiad hunanladdiol neu hunan-niweidiol na phobl sydd ddim yn LHDT+[3].  Nodon nhw fod dynion hoyw a deurywiol yn bedwar gwaith mwy tebygol o wneud ymgais hunanladdiad ar hyd eu bywydau na’r gweddill o’r boblogaeth[4].

Mewn arolwg yn 2017, mi ddwedodd 68.5% o bobl a chafodd eu gwahaniaethu am eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth rhywedd bod hyn wedi effeithio eu lles seicolegol[5]. Mae 83% o bobl drawsrywiol wedi cael eu cam-drin yn eiriol a 60% wedi cael profiad bygythiol.  Mae 35% wedi cael ymosod arno yn gorfforol, 48% wedi ceisio hunanladdiad ym Mhrydain a 55% wedi cael diagnosis o iselder[6].  Nid ydw i’n ddoctor neu yn gymdeithasegydd, ond allai ddeall pam mae’r ystadegau yma’n bodoli.  Mae sut rydym yn cael ein trin gan eraill yn effeithio ni’n fawr.  Nid ydym yn gallu gwneud pethau cyffredin heb sylwadau, pethau tydi pobl byth yn gweld fel peth breintiedig i’w wneud.  Mae hyn yn rhoi straen fawr arnom ni.  Yn ychwanegol, rydym yn aml yn cael ein gweld fel dinasyddion ail-ddosbarth, mae rhai yn y cyfryngau cyhoeddus fel Piers Morgan dal yn dadlau dros ba mor ddilys ydyn ni fel fyse ni’n bwnc mewn arholiad lefel A. Sut all pobl dadlau am ein hunaniaeth ni pryd mae’r peth yn meddwl dim iddyn nhw? Mae’n glir i mi fod y rhagfarn rydyn ni’n gwynebu yn effeithio ansawdd ein bywydau.  Mae’n cael ei weld yn yr ystadegau ac wrth i mi drafod ag eraill a gwybod am brofiad fy hun.  Er mi fydd ymchwil gwyddonol yn gallu helpu ni i ddeall mwy am pam mae pobl LHDTC+ yn dioddef gyda’u iechyd meddwl, credaf yn gryf nad ydi’r ystadegau yma yn gyd-ddigwyddiad, ond yn ganlyniad o’r profiadau creulon rydym yn profi.

Dwedodd un ffrind sydd yn LHDTC+ i mi fod angen croen trwchus arnoch chi i fod yn LHDTC+. Cytunaf. Nid oedd gen i’r ‘croen trwchus’ yma fel y petai pryd des i allan, a wnes i deimlo lawer o gasineb at fy hun a sensitifrwydd tuag at unrhyw sylw negatif a chafodd eu dweud am y ffaith fy mod i yn fenyw lesbiaidd a sylwadau at bobl eraill sy’n LHDTC+.  Nid ydw i’n berson gwan am hyn, ond y gwrthwyneb.  Ac nid y ffordd rydw i’n ymateb yw’r broblem, ond y ffaith fod nhw yn cael ei ddweud o gwbl.

Mae’n hawdd teimlo fel ‘rebel’ am fod yn LHDTC+ yn y gymdeithas yma ac i amsugno’r casineb mae gan rhai atom ni. Mae yna obaith.  Mae cynghreiriaid ffantastig allan yn y byd yma sy’n wneud i mi deimlo ffydd bydd sut mae pobl yn ein trin yn gwella. Mae yna bobl sydd yn sefyll fyny drosom ni, mewn tafarndai, mewn siopau, yn y gwaith, mewn ysgolion, ar-lein, yn eich tai ac yn y gymuned bellach – diolch i chi!  Gall geiriau un person wneud i berson arall ystyried sut mae nhw yn trin pobl LHDTC+. Mae rhagfarn yn erbyn pobl LHDTC+ wedi digwydd am sbel fel mae’n amlwg, ac mae ein hawliau ac ein safle mewn cymdeithas wedi gwella llawer.  Er hynny, mae’r ystadegau yn profi bod rhagfarn dal yn ein erbyn ni, a bod y ffordd mae eraill yn ein trin yn gallu effeithio ni yn fawr. Cerddwn ymlaen.

Yn 2018, wnaeth y gystadleuaeth harddwch ‘Miss Universe’ gynnwys menyw trawsryweddol am y tro cyntaf a wnaeth cyflwynydd trawsryweddol gyflwyno’r newyddion am y tro cyntaf ym Mhakistan[7]. Gwnaeth llyfr yn dathlu cyplau LHDT+ yng Nghroatia werthu eu holl gopïau yn ei lansiad. A chafodd rhyw hoyw eu dad-droseddoli yn India[8]. Mae hyn nid yn unig yn bwynt anhygoel yn hanes ond mae hefyd yn mynd i helpu sawl person LHDTC+, gan fod poblogaeth India dros 1.3 biliwn ac yn rhoi gobaith i sawl eraill mewn gwledydd lle mae bod yn LHDTC+ yn erbyn y gyfraith. Mi wneith hyn helpu llawer o bobl. Mae cynrychiolaeth, cefnogaeth i’n hawliau yn holl bwysig i ni fyw bywydau gydag ansawdd da, ac mi gerddwn ni ymlaen.

Dyma sawl cyswllt allech chi gysylltu gyda fel person LHDTC+.  Ni fyddwch chi erioed ar ben eich hun, er all e deimlo fel e, mae yna bobl wastad fydd yn ein helpu.

  • Switchboard LHDT+: 0300 330 0630 10:00-22:00 pob dydd ag e-bost chris@switchboard.lgbt
  • LGBT Foundation/ Sylfaen LHDT: 0345 3 30 30 30 unrhyw awr from 10yb-10yp, Dydd Llun i Ddydd Gwener
  • Llinell Gymorth Cenedlaethol Traws 24: 08443583204 / 07527524034
  • Llinell Gymorth LHDT Cymru: 0800 980 4021 Dydd Llun rhwng 7yp-9yp
  • Hefyd allech chi ddod ar draws adnoddau ffantastig fel yr un hon ar wefan Stonewall: https://www.stonewall.org.uk/help-advice/coming-out-0

Elinor Rees


[1] https://www.mentalhealth.org.uk/statistics/mental-health-statistics-lgbt-people

[2] https://www.stonewall.org.uk/lgbt-britain-health

[3] https://www.rethink.org/advice-and-information/living-with-mental-illness/wellbeing-physical-health/lgbtplus-mental-health/

[4] https://www.rethink.org/advice-and-information/living-with-mental-illness/wellbeing-physical-health/lgbtplus-mental-health/

[5] https://www.americanprogress.org/issues/lgbt/news/2017/05/02/429529/widespread-discrimination-continues-shape-lgbt-peoples-lives-subtle-significant-ways/

[6] https://www.stonewall.org.uk/sites/default/files/trans_stats.pdf

[7] https://www.pinknews.co.uk/2018/12/25/landmark-lgbt-history-2018/

[8] https://www.pinknews.co.uk/2018/12/25/landmark-lgbt-history-2018/