Noson yn fy mywyd i

Rhybudd: Mae’r darn isod yn trafod teimladau hunanladdol. Os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch gyda’r Samariaid ar y llinell radffon Gymraeg 0808 164 0123 rhwng 7pm ac 11pm bob nos neu ar y llinell radffon Saesneg 116 123, sydd ar gael 24 awr y dydd.


Y Gŵr drwg, y diafol, mae ganddo lawer o enwau, yr hwn sy’n dod i aflonyddu arnoch chi, yr hwn sy’n llechu yng nghuddfannau’ch meddwl, yr hwn sy’n ymborthi ar eich enaid, yr hwn sy’n dwyn eich syniadau ac yn eu troi at ei ddibenion ei hun – wrth gwrs, inni yn ein doethineb modern stori gwneud ydyw, y Fall – nid oes yna’r fath beth, ni all fod, ni all dim byd na allwn ni ei ddisgrifio, na allwn ni ei ddirnad, fodoli – na, nid oes ‘na sut beth, nid yw’n bodoli.

Ni all fodoli, ni dderbyniaf ei fod yn bodoli. NID YW’N BODOLI – ac eto… wedi nosweithiau digwsg, wedi nosweithiau digysur, wedi nosweithiau o feddwl gordwym, wedi nosweithiau o feddyliau afreolus, o ffrwydradau yn fy mhen, o feddyliau tân gwyllt fe ddaw ataf, saif yno o flaen fy llygaid – gallaf ei weld ond gwn nad yw yno, mae fel hologram rhwng fy llygaid a realiti, yno, yn fy herio i edrych arno, caeaf fy llygaid yn dynn ond nid oes dianc rhagddo, mae’n arglwyddiaethu ar fy amrannau ac nid yw eu cau yn ei gau allan, mae’n eu defnyddio fel sgrin i ddarlledu ei ddarlun arnynt – ac os agoraf fy amrannau eto, yno y mae o flaen fy llygaid.

Er cymaint y ceisiaf ni allaf ddianc rhag hwn – ac yna, yna, fe’i clywaf, nid â’m clustiau – nid eto – ond yn fy mhen, mae ei eiriau’n dechrau, yn sibrwd yn gyntaf ac yna’n siarad yn glir ac wedyn yn waedd, gwaedd ffiaidd hudolus – gwaedd sy’n denu sylw dyn, dynes, plentyn, oedolyn, unrhyw un y mae wedi’i ddewis – ond heno, fi yw’r un, ac ataf i yr anelir y waedd sy’n mynnu sylw, ceisiaf ei hanwybyddu, ei chau allan o’m pen, ceisiaf feddwl am bethau eraill, am bethau da ond ni allaf gofio pethau da, y pethau drwg, y crwt yn gas wrthyf yn yr ysgol, yr athro chwerw, y bòs creulon, y dyn mewn bwyty y credwn iddo edrych yn od arnaf i, cofiaf bob sarhad gwir a gau, bob tro y teimlais yn chwithig yng nghwmni eraill ac mae’r cyfan yn ymborth iddo, fe a loddesta ar fy atgofion i gyd – mae’n pesgi arnynt nes ei fod yn barod i’w chwydu yn ôl i’m pen i – nes imi ddechrau clywed ei eiriau’n ailadrodd yr hanesion i gyd, yn fy edliw am bob camwedd a wnes i erioed, am bopeth y byddai pobl eraill yn anghofio amdanynt ond nid fi, ni allaf eu hanghofio ac mae ef yn gwybod hynny ac mae’n dod â nhw i gyd yn ôl imi ond daw hefyd â geiriau cysurus, cynigia dawelwch meddwl imi, cynigia glydwch imi, cynigia ddifancolledd (os caf fathu gair newydd) – cynigia ddiwedd poen, diwedd poeni, diwedd becso, diwedd ymwneud â phobl sy’n peri problemau imi, diwedd arnaf i yn achosi poen i bobl, diwedd arnaf yn achosi becso, diwedd pobl yn gorfod ymwneud â mi, diwedd arnaf yn peri problemau i bobl – cynigia fwy na’r byd imi, gan nad yw’r byd yn golygu llawer imi heno ‘ma, cynigia gyfeillgarwch imi, gallaf fod heb deimlad am byth, heb ddim poen a heb beri poen i neb.

Fe’m hatgoffa mai byr yw ein bywydau ar y byd beth bynnag ac y bydd gwrando arno’n rhoi grym imi, byddai’n rhoi dull imi ymateb i’m bodolaeth mewn ffordd gadarnhaol, byddai’n rhoi rheolaeth imi dros fy mywyd, rheolaeth nad oes gennyf ers cyhyd.

Mae ei neges yn ddeniadol, yn fy swyno, yn fy mherswadio mai dyma’r dewis call, dyma’r ffordd aeddfed ddewr ymlaen – ond nid wyf yn ddewr ac mae llaw orthrymol Cristnogaeth yn ormod imi, gallaf ei theimlo’n fy atal rhag cymryd y cam yr wyf yn deisyfu ei wneud, mae’n fy llesteirio rhag bod yn ddewr, mae’n fy nhroi’n llwfrgi.

Ceisiaf esbonio ond nid yw’n fodlon gwrando – na, iddo ef, llwfrgi ydwyf ac nawr mae’n troi’r min, dywed y gŵyr feddyliau pawb ac mae pawb o’r un farn mai llwfr ydwyf a’u bod i gyd yn disgwyl imi beidio â bod yn ddewr, beth am imi eu profi’n anghywir? Beth am imi fod yn ddewr a chyflawni rhywbeth na fyddent byth wedi’i ddisgwyl? Beth am imi roi syrpreis iddynt i gyd? Beth am imi fod yn ddewr a mynnu rheoli a diweddu fy mywyd fy hun? – ond ni allaf, ni allaf, mae’r ofn yn ormod, mae’i ddadleuon i gyd yn gwneud synnwyr, gwn fy mod yn llwfr, ac ni allaf fy helpu fy hun – ymbiliaf arno i’m helpu, ond ni all wneud dim ond fy nghynghori, fe’m gwawdia, gan ddweud nad wyf o ddifrif, mai siom ydwyf i bawb, bydd pawb yn gwybod nad oeddwn yn ddigon dewr, bydd pawb yn chwerthin am fy mhen am fod mor wan, am fod mor hunanol ag i barhau i fyw, am fy ngorfodi fy hun arnynt – mae’n ffarwelio â mi wrth i flinder fynd yn drech na’m gallu i aros ar ddihun ond wrth fynd fe’i clywaf yn dweud y daw yn ôl, efallai yfory, efallai’r wythnos neu’r mis nesaf neu efallai ymhen blwyddyn neu ddegawd, ond yn sicr, fe ddaw yn ôl.

Hyd yma, nid yw wedi dod, mae adlais o’i eiriau i’w glywed yn aml yn nistawrwydd y nos, mae’i wyneb i’w weld yn nhywyllwch y nos ond nid yw ef ei hun wedi dod yn ôl eto, ond fe ddaw, rwy’n siŵr.

Mari


Teimladau Hunanladdol

Cysylltwch gyda’r Samariaid ar y llinell radffon Gymraeg 0808 164 0123 rhwng 7pm ac 11pm bob nos neu ar y llinell radffon Saesneg 116 123, sydd ar gael 24 awr y dydd.

Os nad ydych yn teimlo y gallwch gadw eich hun yn ddiogel ar hyn o bryd, dylech gael help ar unwaith. Ewch i unrhyw adran A&E mewn ysbyty, ffoniwch 999, neu gofynnwch i rhywun ffonio ar eich rhan.


Darllen rhagor:

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb