Mewnblygrwydd a Fi

Dwi’n fewnblygyn. Dwi angen treulio peth amser pob dydd ar fy mhen fy hun i allu ffynnu fel unigolyn. Ydi hynny yn eich dychryn chi?

A finnau’n sgwennu e-lyfr ar fewnblygrwydd (introversion) ar hyn o bryd, mae’n ddiddorol ystyried y cysylltiad a wneir yn aml rhwng y tueddfryd hwn ag iechyd meddwl heddiw.

Delwedd bur negyddol sydd gan fewnblygrwydd yn ein diwylliant presennol-diwylliant sy’n rhoi pwys mawr ar yr allanol, yr ymddangosiadol a chynnal delwedd bersonol uwchlaw popeth.

Bron nad oes yna gred ar waith bod mewnblygrwydd- sydd mor wahanol i’r uchod- yn gyflwr annaturiol a niweidiol i’r sawl sy’n ei arddel.

A bron nad yw mewnblygion wedi llyncu’r farn honno eu hunain ac yn ystyried eu tueddfryd fel baich a phwn meddyliol y mae’n rhaid iddyn nhw ei oddef mewn bywyd.

Ond y gwir amdani wrth gwrs ydi nad oes unrhyw sail i’r goel hon o gwbwl. Does dim byd yn bod ar fewnblygion fel y cyfryw a does dim rhaid i’r tueddfryd fod yn gysylltiedig gyda phryder neu iselder ychwaith.

Er fod peth cysylltiad yn gallu bodoli mewn rhai achosion wrth gwrs. Mae sgwennu’r e-lyfr ar fewnblygrwydd: ‘Introverts Aloud: A rallying cry and transformational template for Introverts’ wedi profi’n lafur cariad go iawn imi.

Dwi’n fewnblygyn o’m corun i’m sawdl. Yn caru treulio amser yn fy nghwmni fy hun, yn bur dawedog mewn cwmni ac yn hapusach yn gwrando ar bobol eraill yn siarad. Yn ffeindio bod yng nghwmni pobol eraill am gyfnodau hir yn gallu bod yn flinedig ac yn syrffedus.

Ac uwchlaw popeth,wrth fy modd yn darllen ac yn ysgrifennu. Yn byw i sgwennu mewn gwirionedd. Teimlo’n fyw wrth sgwennu yn wir.

Yn cyfathrebu orau trwy’r gair ysgrifennedig, yn y Gynraeg a’r Saesneg, gyda’r syniadau a’r mewnwelediadau a’r creadigrwydd yn llifo mewn modd llawer rhwyddach gyda hynny na thrwy’r gair llafar.

Ac uwchlaw popeth,wrth fy modd yn darllen ac yn ysgrifennu. Yn cyfathrebu orau trwy’r gair ysgrifennedig, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ond byddai’n rhaid imi gyfaddef mod i fy hun wedi bod yn sownd yn y fagl a sonies amdani uchod am beth amser yn fy hanes, sef y fagl negyddol sydd ynghlwm wrth fewnblygrwydd yn ein cymdeithas heddiw.

Rhyw edliw i mi fy hun am fy natur sylfaenol a ryw eiddigeddu tuag at unigolion mwy siaradus ac allblyg o’m cwmpas i yn y byd gwaith ac yn y byd cymdeithasol.  Ac ia, rhaid bod yn onest fan hyn, gweld fy hun yn ddiffygiol wrth ochor y ffasiwn unigolion.

Mi gymerodd hi beth amser imi ymryddhau o’r fagl honno, a chyrraedd cyflwr o hunan-dderbyniad llwyr gyda fy mewnblygrwydd.

Gan ddod i ddeall fod gan fewnblygion angen biolegol bron i dreulio amser ar ben eu hunain er mwyn chargio’u batris personol mewn bywyd. Yn wahanol i allblygion, sydd angen pobol eraill o’u cwmpas yn barhaus er mwyn chargio eu batris hwy!

I sylweddoli fod yr hyn a dybiwyd ganddoch fel gwendid ar un adeg, mewn gwirionedd yr elfen gryfaf sydd ganddoch yn eich arfogaeth bersonol mewn bywyd.

Un nodwedd amlwg dwi’n priodoli i fy mewnblygrwydd ydi fy annibyniaeth barn. Mae’r ffaith nad ydi rhywun yn poeni llawer am gadw i fyny gyda phobl eraill, nac am ddweud y pethau iawn a gwneud y pethau iawn i blesio’r dorf, yn sicr yn rhyddhau dyn.

Dwi’n licio meddwl mod i’n cyfuno fy magwraeth anghydffurfiol a fy mewnblygrwydd cynhenid gyda’r annibyniaeth barn hwn. Hynny ydi, fy mharodrwydd i fynegi barn yn ddi-flewyn ar dafod ar bethau, heb ofni gwg na gwen.

Dach chi’n gweld, dydi mewnblygion ddim yn swil – dyna stori dylwyth teg arall! Yn sicr, byddwn i ddim yn disgrifio fy hun yn berson swil.

I’r gwrthwyneb yn wir, byddwn yn disgrifio fy hun fel unigolyn eofn sydd yn barod i sefyll dros y gwir beth bynnag ydi’r gost o ran pechu pobol eraill a’r hyn a gredir ganddyn nhw i fod yn ‘wirioneddau cyfoes’.

Bwriad y llyfr ydi rhannu fy mhrofiadau i a phrofiadau phobol eraill o fyw fel mewnblygion mewn byd allblyg a swnllyd.

Gan obeithio bydd y llyfr yn helpu’r rheiny sy dal i deimlo’n chwithig am fod yn fewnblyg i weld nad oes angen teimlo felly o gwbl, a bod angen iddynt ymhyfrydu yn eu natur gynhenid!

Mae’r ymchwil dal yn mynd rhagddo, ac mi hoffwn i apelio at ddarllenwyr meddwl.org. i gyfrannu gair o brofiad ar gyfer ei gynnwys yn y llyfr. Mae croeso i bobol wneud hynny yn ddi-enw.

Aled Gwyn Jôb

Bydd ‘Introverts Aloud’ ar werth ar Amazon Kindle ar Ragfyr 6, 2019.