Mewn breuddwyd: Sut beth yw byw gyda Dadwireddu? – Manon Elin

Mae syniad cyffredinol bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am faterion iechyd meddwl yn gwella, sydd yn wir i ryw raddau, ond dim ond gyda chyflyrau cyffredin fel iselder a gorbryder.

Mae’r diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch Dadwireddu, nid yn unig ymhlith y boblogaeth gyffredinol, ond hyd yn oed ymhlith gweithwyr iechyd, dal i fod yn broblem fawr. Anaml iawn fydd ymgyrchoedd i ‘godi ymwybyddiaeth’ am iechyd meddwl yn rhoi sylw i’r cyflyrau hynny sydd wir angen codi ymwybyddiaeth ohonynt.

Dwi wedi cyfeirio at fy mhrofiadau â dadwireddu yn fras mewn blogiau eraill, ond roeddwn i eisiau ysgrifennu blog penodol amdano, er mwyn i bobl eraill ddeall, ond hefyd er mwyn i mi geisio ei ddeall yn well fy hun. Mae ysgrifennu wir yn help i wneud synnwyr o bopeth!

Yn y blog yma byddai’n trafod: sut mae dadwireddu’n teimlo, y pethau sy’n gallu ei waethygu, sut mae’n effeithio arna’ i o ddydd i ddydd, a rhai pethau sy’n gallu helpu.

Mae dadwireddu yn gwneud i mi deimlo…

  • yn afreal, fel petawn i mewn breuddwyd, ond yn methu deffro;
  • ar goll gan fod popeth yn teimlo’n anghyfarwydd;
  • yn bell oddi wrth bopeth o’m hamgylch;
  • fel ‘mod i ar fin llewygu neu golli rheolaeth;
  • yn gaeth yn fy nghorff, ac weithiau ma ‘nwylo i’n edrych yn bell ac yn teimlo nad yw nhw’n rhan ohona i;
  • fel bod fy meddwl ar wahân i ‘nghorff;
  • fod pobl yn ymddangos yn bell ac yn anghyfarwydd;
  • wedi datgysylltu oddi wrth fy nghorff a’r byd o’m cwmpas;
  • fel bod pawb a phopeth yn ymddangos yn ddieithr ac yn afreal;
  • fel petawn i’n gwylio popeth yn digwydd o’m cwmpas, ac nad ydw i yno mewn gwirionedd.

Ma’n anodd iawn i’w ddisgrifio gan ei fod yn swnio’n rhywbeth mor rhyfedd. Wrth siarad am orbryder, mae gan bobl ryw fath o syniad am beth chi’n siarad i ryw raddau, gan fod pawb yn profi pryder fel emosiwn (nid bod gorbryder yn ddim byd tebyg i boeni arferol, ond mae ‘na gysylltiad a thebygrwydd). Does dim emosiwn tebyg i ddadwireddu ac felly does dim byd diriaethol i’w gymharu gyda.

Mae’r diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch y cyflwr mor rhwystredig, ac yn gwneud ceisio cael cymorth gymaint anoddach.

(Llun: Flickr)

Am flynyddoedd, drwy gydol fy arddegau, roeddwn i’n credu mai fi oedd yr unig un yn y byd oedd yn profi’r teimladau hyn o deimlo’n ‘afreal’. Doedd gen i ddim ymwybyddiaeth o beth oedd salwch meddwl yn gyffredinol, heb sôn am fedru adnabod arwyddion y cyflwr anghyffredin hwn yn fy hun. Doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd – sut allen i esbonio wrth rywun arall? Doedd gen i ddim y geiriau i fynegi’r teimlad, ac mae dal yn her i’w ddisgrifio. Yr unig ffordd y gallwn ei ddisgrifio oedd ‘mod i’n “teimlo’n rhyfedd”.

Wnaeth e gymryd bron chwe blynedd i fi ddarganfod enw i’r teimlad a sylweddoli ei fod yn gysylltiedig â gorbryder a phyliau o banig. Roedd yn gymaint o ryddhad dod ar draws enw i’r teimladau hyn am y tro cyntaf, a sylweddoli ei fod yn salwch a bod pobl eraill yn teimlo’r un peth.

Dyna pam dwi mor awyddus i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr. Dwi’n gwybod pa mor anodd ac unig yw dioddef o’r salwch yma heb syniad beth yw e. Dwi’n grediniol y byddai fy arddegau wedi bod gymaint haws petawn i wedi deall mai salwch oedd e, a bod pobl eraill yn profi’r un peth.

Dwi wedi gweld nifer fawr o feddygon a gweithwyr iechyd meddwl ar hyd y blynyddoedd, a dwi ddim yn teimlo bod yr un ohonyn nhw wir yn deall dadwireddu. Dydyn nhw’n sicr ddim yn sylweddoli pa mor frawychus yw e. Mae e mor rhwystredig gorfod addysgu gweithwyr iechyd amdano, pan dwi eisiau atebion fy hun.

Mae ymgyrchoedd am iechyd meddwl yn gyffredinol yn rhoi pwyslais ar ‘ofyn am gymorth’. Ond beth chi’n neud pan chi o’r diwedd yn gofyn am gymorth, ond nad yw’r gweithwyr iechyd yn gwybod sut i helpu? Mae’n rhwystr ychwanegol a diangen.

Dwi ddim yn meindio esbonio’r cyflwr wrth bobl eraill yn gyffredinol; rwy’n falch o allu addysgu eraill a chodi ymwybyddiaeth amdano, ond byddwn i yn disgwyl gallu cael rhai atebion gan weithwyr iechyd, neu eu bod nhw o leiaf yn gyfarwydd â’r cyflwr.

Dwi yn gweld pethau’n dechrau gwella wrth bod mwy o bobl yn rhannu eu profiadau ohono, mewn blogiau ac ar Twitter ac ati, a gydag enwogion fel Dodie a Matt Haig yn siarad amdano yn gyhoeddus, sy’n galonogol iawn. Roedd hyd yn oed trafodaeth fer arno yn San Steffan yn ddiweddar! Er hyn, prin iawn yw’r wybodaeth a chyngor arbenigol am sut i ymdopi â’r cyflwr o ddydd i ddydd.


Pethau sy’n gallu gwaethygu’r dadwireddu a theimladau o banig:

  • Torfeydd a llefydd prysur
  • Llefydd neu sefyllfaoedd heb ffordd hawdd i ‘ddianc’
  • Llefydd anghyfarwydd, dieithr a phell
  • Blinder
  • Straen
  • Alcohol
  • Caffein
  • PMS (does dim digon o sôn am gymaint mae PMS yn effeithio ar iechyd meddwl!)

Un o’r pethau sy’n cael yr effaith fwyaf ar y dadwireddu yw’r tywydd. Mae’r dadwireddu lot gwaeth pan mae’n gymylog ac yn ddiflas, a phan mae’n braf ac yn heulog mae’r dadwireddu mwy neu lai yn diflannu. Felly mae pethau lot anoddach pan ma’r tymor yn newid yn yr hydref. Mae’n swnio’n hurt, a does gen i ddim syniad pam fod y tywydd yn effeithio gymaint arno!

Weithiau, mae’n wael heb reswm na trigger, sy’n anodd oherwydd na alla i wneud dim i helpu a dwi ddim yn gwybod pa mor hir y bydd e’n parhau.


Sut mae dadwireddu yn effeithio arna’ i o ddydd i ddydd…

(Llun: themighty.com)

Dwi o hyd yn meddwl ‘Beth os fyddai’n cael pwl o banig?’, ac yn ymwybodol pa mor bell ydw i o fy ‘llefydd diogel’, ble mae’r ffordd allan a sut fydden i’n gadael petai angen – mewn siopau, darlithoedd, cyfarfodydd a phob adeilad a sefyllfa.

Mae dewis ble i eistedd mewn ystafell yn anodd; ydw i’n eistedd yn agos at y drws er mwyn teimlo’n fwy cyfforddus a gallu canolbwyntio, neu yn gwthio ac yn herio fy hun i eistedd unrhyw le, ond yn teimlo’n anxious a panicky a chynyddu’r siawns o gael pwl o banig?!

Mae’r dadwireddu yn amrywio llawer o ran pa mor wael yw e. Yn gyffredinol, mae’r teimlad yn mynd a dod yn raddol o hyd heb greu gormod o drafferth. Dyw e ddim yn rhywbeth sydd yno drwy’r amser, a galla i bellach feddwl amdano heb ei deimlo. Ond hyd yn oed pan dwi’n teimlo’n iawn, dwi o hyd yn ymwybodol ac yn poeni y gallai waethygu o fewn eiliadau.

Mae’n anrhagweladwy iawn; mae’n amrywio gymaint o ddydd i ddydd ac o awr i awr, sy’n golygu bod gwneud trefniadau yn anodd. Dwi ddim eisiau ymrwymo i wneud unrhyw beth oherwydd dwi ddim yn gwybod sut fydda’ i o un diwrnod i’r llall.

Mae’n anodd cyfleu mewn geiriau pa mor frawychus yw e pan mae ar ei waethaf. Pan oeddwn i’n cael y pyliau yn ifanc, roeddwn i’n rhewi ac yn sgrechian am help. Dyna pa mor erchyll a brawychus yw e. Erbyn hyn, galla’ i rheoli’r panig a’r dadwireddu yn llawer gwell. Mae fwyaf brawychus pan ei fod yn digwydd yn ystod y nos. Weithiau rwy’n deffro ganol nos mewn panig ac yn dissociated. Dyna’r profiad mwyaf brawychus.

Un o’r pethau gwaethaf am ddadwireddu yw’r ofn parhaus y bydd e’n gwaethygu’n sydyn. Mae’r ofn yno o hyd, bob dydd, cyn mynd mas a gwneud unrhyw beth. Alla’ i ddim cofio sut deimlad yw byw heb yr ofn o gael pwl o banig neu brofi dadwireddu. Dwi wedi colli cyfri ar sawl gwaith dwi wedi gorfod troi ‘nôl wrth fynd i rywle oherwydd bod y dadwireddu a’r panig yn rhy wael. Mae’r ofn mor gryf mae’n anodd mynd mas yn gyfan gwbl weithiau. Mae’n rhy anodd a galla’ i ddim dychmygu ‘mod i’n mynd i allu ymdopi. Ond wedyn dwi’n teimlo’n euog am ildio a ‘mod i ddim yn trio’n ddigon caled i wella.


Pethau sy’n gallu helpu:

  • Darllen am brofiadau tebyg pobl eraill – mae hyn yn gymaint o gysur, ac yn help i atgoffa fy hun mai salwch yw e, a bod pobl eraill yn teimlo’r un peth.
  • Haul a thywydd braf
  • Unrhyw fath o dechnegau daearu neu distraction – gwrando ar gerddoriaeth neu bodlediadau, neu ganolbwyntio ar y pethau bychain sydd o’m cwmpas
  • Gorfodi’n hun i wneud pethau (ond dim gormod!) Gwthio ffiniau’r comfort zone, sy’n anodd gan fod ffiniau’r comfort zone yn newid yn ddyddiol.
  • Atgoffa fy hun ei fod e YN pasio yn y diwedd
  • Anadlu!

Gyda chymorth cwnsela yn ddiweddar (yn Gymraeg!), dwi’n ceisio newid y ffordd dwi’n meddwl amdano…

  • Derbyn y cyflwr, derbyn y bydd yn amrywio o ddydd i ddydd, ac mai dysgu ymdopi sydd angen ei wneud, yn hytrach nag anelu at wellhad llwyr. Roedd hyn yn anodd iawn i ddechrau. Doeddwn i ddim eisiau ei dderbyn e, na byw gyda fe, na gorfod ymdopi ag e bob dydd. Roeddwn i eisiau ateb i wella!
  • Derbyn y dadwireddu pan mae e’n wael, yn hytrach na mynd i banig a cheisio brwydro yn ei erbyn.
  • Cymryd bob dydd fel mae’n dod, a chofio nad yw un diwrnod gwael yn golygu y bydd y diwrnod nesaf hefyd yn wael.
  • Derbyn nad oes rheswm pam ei fod yn wael bob tro. Derbyn sut dwi’n teimlo ar y pryd yn hytrach na chwestiynu a cheisio dadansoddi pam ei fod yn wael.
  • Dysgu ‘mod i yn gallu ymdopi gyda fe, er mor anodd yw hynny.

Mae byw gyda dadwireddu a gorbryder yn gwneud y pethau symlaf yn anodd. Mae’n frwydr ddyddiol ac mae’n cymryd cymaint o egni, gwaith meddwl ac adrenalin i wneud unrhyw beth.

Er hyn, pan dwi yn llwyddo i wneud rhywbeth, mae’n deimlad mwy gwobrwyol a gwerthfawr, a galla i werthfawrogi’r cyfnodau o deimlo’n OK llawer mwy na phe na bawn i’n brwydro’r gorbryder a dadwireddu. Mae llwyddo i wneud rhywbeth anodd yn teimlo’n gymaint o ryddhad, yn teimlo’n liberating ac yn rhoi’r hyder i fi feddwl ‘mod i yn gallu ymdopi! Ma’r dadwireddu a gorbryder yn rhan enfawr o ‘mywyd i, ond mae yn bosib byw bywyd weddol normal, ac ar y cyfan galla i reoli’r panig a dadwireddu, yn hytrach na chael fy llethu ganddo.

Manon Elin


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb