Y cydberthynas rhwng salwch meddwl a chorfforol – fy mrwydr â Ménière’s Disease

Dwi’n cofio’r pwl o banig cyntaf i mi ei gael erioed yn iawn. Roeddwn i’n 16 oed ac yn gweithio mewn caffi ar y pryd. Y prif symptom y sylweddolais oedd fy nghalon yn carlamu’n andros o gyflym, ond y peth nesaf oedd yr ymdeimlad erchyll bod y ddaear wedi troi ar ei echel ryw 90 gradd o fewn eiliad o dan fy nhraed. Roedd y ddau beth yn bwydo’i gilydd, a’r panig yn codi ynof wrth i’r penysgafndod barhau. Yn y diwedd bu’n rhaid i mi fynd adref o’r gwaith.

Dwi’n cofio teimlo’n ansefydlog ar fy nhraed am ddyddiau wedi hynny, ac roeddwn yn gweddïo na fyddwn i byth yn gorfod profi rhywbeth tebyg eto. Digwyddodd sawl tro yn y misoedd canlynol, er nad oeddent mor wael â’r tro cynta’, ac yn y pen draw es i at y meddyg. Y cwestiynau cyntaf y gofynnwyd i mi oedd a oeddwn i o dan unrhyw straen, oeddwn i’n bwyta’n normal ayb. O fewn 5 munud, cefais ddiagnosis o orbryder. Teimlais yn hollol ddigalon fod yr holl symptomau corfforol hyn yn golygu bod rhywbeth yn bod yn fy mhen. Roeddwn i’n teimlo braidd yn hurt yn dod oddi yna a dweud y gwir, fel petai mod i wedi dyfeisio’r holl beth. Chefais ddim cynnig o unrhyw gymorth o gwbl, jyst cyfarwyddiadau i ‘beidio â phoeni gymaint’ ac i ‘drio ymlacio’.

Fe wnes i brofi hyn yn ysbeidiol dros y blynyddoedd nesaf, ac roedd pob ‘attack’ yn achosi i fy ngorbryder gynyddu’n sylweddol.

Byddwn yn cael misoedd o beidio cael un, ac yna wythnos ofnadwy lle y byddwn i’n cael sawl ‘attack’ o benysgafndod y dydd (er, dyw’r gair ‘penysgafndod’ i mi ddim wir yn cyfleu erchylltra’r peth). Sylwais bod pethau fel nofio, hedfan neu mynd ar unrhyw fath o reid oedd yn troelli yn gwaethygu pethau. Roedd y ffordd roeddwn i’n profi hyn yn amrywio: weithiau roedd hi’n teimlo fel petai’r ystafell yn troelli’n orffwyll o’n nghwmpas, ar adegau eraill byddai’r ddaear fel petai’n bownsio o dan fy nhraed wrth i mi gerdded ar y stryd (marshmallow feet mae rhai’n galw hyn!) ac ar ddyddiau gwael iawn byddwn i hyd yn oed yn syrthio petawn i’n plygu i lawr yn rhy gyflym, sy’n hollol embarrassing yn enwedig pan chi ond yn eich arddegau!

Dros yr wyth mlynedd ers y pwl cyntaf hwnnw, dwi wedi ymweld â’r meddyg sawl gwaith, a bob tro roeddent yn dweud ei fod ond yn symptom o orbryder, ac y byddai’n setlo ar ben ei hun. Ond doedd hyn jyst ddim digon da rhagor, roedd angen ateb arna i, ac er i mi gydnabod mod i’n dioddef â gorbryder hefyd, roeddwn i’n gwybod ym mêr fy esgyrn bod rhywbeth arall yn digwydd. Dim ond eleni dwi wedi dod o hyd i feddyg oedd wedi gwrando arnaf, ac wir wedi cymryd amser i wneud ychydig o waith ymchwil.

Cefais ddiagnosis o Ménière’s Disease gan y meddyg ENT, sef anhwylder o’r glust fewnol sy’n achosi fertigo, tinitws, teimladau o bwysedd yn y glust a cholled clyw.

Mae’r esboniad o’r anhwylder yn eitha’ diflas i fod yn onest, ond i unrhyw un sydd eisiau gwybod, mae’n ymwneud â’r ffaith bod ‘na ormod o hylif yn y glust fewnol. Pan fydd y glust fewnol yn mynd yn rhy llawn, bydd yr hylif yn gorlenwi a dyma sy’n achosi’r fertigo. Mae’n anhwylder cronig, cynyddol y byddaf yn byw gyda am weddill fy mywyd, ac mae’n bosibl un dydd y byddaf yn colli fy nghlyw i ryw raddau. Hyn sydd peri’r ofn mwyaf i mi oherwydd dwi’n gerddor.

Does dim ‘cure’ fel petai, ond mae triniaethau’n bodoli megis tabledi anti-sickness, anti-anxiety, steroids a llawdriniaeth (sydd â risg o wneud i chi golli’ch clyw yn gyfan gwbl, felly dim diolch). Mae pethau eraill yn gallu helpu hefyd, gan gynnwys newidiadau i’r deiet. Dwi’n methu bwyta unrhyw halen (sy’n hynod anodd, gan fod halen ym mhopeth), dwi ddim yn yfed rhagor, nac yn cael caffîn. Roedd hyn i gyd mor anodd i ddechrau, ond mae’r aberth yn hollol werth e i wneud yr episôds yn llai aml a llai difrifol.

Dwi o hyd yn dioddef â gorbryder, a dwi ddim yn gwybod os yw hyn yn deillio’n hollol o fy Ménière’s.

Mae’n debygol o fod yn gyfuniad o hyn a ffactorau eraill, megis straen. Mae byw ag anhwylder cronig, corfforol yn bendant yn cael effaith ar eich iechyd meddwl, ond mae ‘na bethau allwch chi eu gwneud i leihau’r baich ychydig, ac i fyw bywyd mor llawn a normal â phosibl.

Emily Morrissey


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb