Meddyginiaeth a beichiogrwydd – 3 profiad gwahanol iawn!

Dwi’n ‘middle class’ go iawn. Doedd fy ffrinidiau ddim hyd yn oed yn yfed te na choffi tra’n feichiog, sut gallen i gymryd meddyginiaeth?

Cyn cwrdd â fy ngŵr a phriodi, roedden i wedi treulio fy ugeiniau mewn cylch o ddechrau, torri lawr, stopio ac yna dechrau eto ar feddyginiaeth i drin iselder a gorbryder. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd dau seiciatrydd wedi dweud wrtha i dylen i gymryd meddyginiaeth am weddill fy mywyd. Ond o’n i hefyd wedi cael sawl person (yn cynnwys pobl meddygol fel GPs) yn dweud wrtho fi tasen i tipyn yn gryfach, neu’n gweithio’n galetach fydden i’n gallu gwneud hebddo nhw.

Ar brydiau o’n i hyd yn oed yn credu nhw…

Ta beth, wrth benderfynu bod e’n amser i gael plant yn fy nhridegau cynnar, o’n i’n benderfynol o roi y dechreuad gorau i’r babi (a dim ei wenwyno) a dod oddi ar feddyginiaeth. Aeth fy meichiogrwydd cyntaf yn iawn, ac o’n i’n oce – nes i fi gael y babi a ffeindio bwydo o’r fron yn amhosib a dechrau datgysylltu o’r babi. O’n i’n ofn y babi’n bod ar ddi-hun rhag ofn ‘mod fi’n gorfod bwydo fe. Rhoddais y gorau i fwydo o’r fron, dechrau nôl ar feddyginiaeth gyda’r teimlad fy mod wedi ffaelu fel Mam i roi’r dechreuad gorau i fy mhlentyn. Ond yn feddyliol, o’n i nôl ar lefel sefydlog ac yn gallu gofalu a charu fy mab.

Roedden ni am gael ail blentyn yn eithaf cyflym felly o fewn y flwyddyn o’n i wedi dod oddi ar feddyginiaeth unwaith eto ac yn feichiog am yr ail dro. A pan yn 5 mis yn feichiog dyma fy myd yn newid am y gwaethaf. Iselder wnaeth fy mharlysu unwaith eto. Ond y tro yma, nid fi yn unig oedd yn dioddef – roedd gen i fab.  Doeddwn i ddim yn gallu gofalu am fy hun nac amdano fe. Ges i referral cyflym i’r ‘Community Adult Mental Health Service’ (CAMS) a chael cyngor i ddechrau nôl ar feddyginiaeth gan Seiciatrydd, er yn feichiog. Ac er ‘mod i’n ofn yr effeithiau ar y babi, doedd gen i ddim dewis. Doeddwn i ddim yn gallu byw, ddim yn gallu bod. Roedd popeth yn dywyll a fi mewn bybl mawr, yn gallu gweld y Byd ond ddim ei deimlo na’i gyffwrdd e. Mewn ffordd dwi’n lwcus, ac yn ymateb yn dda i feddyginiaeth serotonin ac o fewn pythefnos roedd pethau yn oleuach. Ges i ofal arbennig iawn gan y CAMS a fy Mydwraig. Ges i’r babi a hyd yn oed bwydo am flwyddyn tra roedden i ar feddyginiaeth.

O fewn 2 flynedd o’n i’n feichiog eto. Y tro yma, doedd ddim cwestiwn i fi dod oddi ar feddyginiaeth i gael y babi. Roedd y risg i’r plant oedd gen i a’r un newydd tu fewn i fi yn rhy fawr. Ges i apwyntiadau cyson gyda’r CAMS a chael beichiogrwydd hyfryd, un o’n i’n haeddu. Eto, mi wnes i fwydo tra ar feddyginiaeth am flwyddyn.

Mae fy mhlentyn fengach (a’r olaf!) nawr yn 4 a dwi’n dal i gymryd yr un meddyginiaeth. Dwi’n gwneud popeth i gadw fy iechyd meddwl yn sefydlog; bwyta’n iach, ymarfer corff, yoga, meddwlgarwch. Ond dwi’n dal i gymryd y meddyginiaeth er lles y plant. Dwi’n siarad gyda nhw am iechyd meddwl, ac am y ffaith ‘mod i’n cymryd tabledi, oherwydd dydw i ddim am iddyn nhw gael profiad o gael mam sydd ddim yn gallu byw, bod, teimlo na goflau amdanynt.

Mae gen i fwy o brofiad o iechyd meddwl nawr, tua 15 mlynedd, a dim amheuaeth o gwbwl bod meddyginiaeth yn hanfodol i fi. Dwi yn berson cryf, ac yn gweithio’n galed bob dydd i reoli fy iechyd meddwl. Ond mae tabledi yn rhan o hynny, a does gen i ddim cywilydd.

Di-enw


Sylwadau Meddyg Teulu am Feddyginiaethau

Gall meddyginiaethau fod yn driniaeth effeithiol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl. Yn aml maent fwyaf effeithiol o gael eu cyfuno gyda thriniaethau siarad fel CBT neu cwnsela. Mae’n bwysig trafod yr holl opsiynau gyda’r meddyg teulu cyn dechrau unrhyw feddyginiaeth. Dylech fod yn ymwybodol o’r sgil effeithiau posib a dylech gysylltu gyda’r meddyg os ydych yn datblygu unrhyw symptomau anarferol neu sy’n achosi gofid i chi. Os ydych yn awyddus i newid dôs neu stopio unrhyw feddyginiaeth, dylai hyn gael ei wneud gyda chyngor meddygol.