“Lle i bopeth, a phopeth yn ei le”: Cadw Trefn ar Ymlyniadau Hollt – Carwyn Tywyn

Carwyn a’i ferch, Heledd, ar y ffordd i gefnogi AFC Wimbledon.

Yn y traethawd hwn, mae’r Dr. Carwyn Tywyn yn sôn am agweddau o’i hunaniaeth mewn perthynas â’r cyflwr Dissociative Identity Disorder, gan obeithio bydd y traethawd o gymorth i eraill.

 “Pa beth yw dyn?”

O funud ein genedigaeth, mae pob un ohonom yn etifeddu sawl hunaniaeth yn syth. Merch neu’n fachgen. Mab neu merch. Ŵyr neu wyres; nith neu nai. Mae gennym dref neu ddinas geni, yn ogystal â dinasyddiaeth mewn gwladwriaeth neilltiedig (neu dinasyddiaeth ar y cyd gyda mwy nag un wlad). Bydd gennym lliw croen a chefndir ethnig. Cawn ein geni i gyd-destun diwylliant neu crefydd ein teulu â’n cymdeithas.

 Wrth i ni dyfu’n hŷn, rydym yn mabwysiadu mwy o hunaniaethau. Mynychu ysgol neu coleg. Efallai dod yn chwaer neu’n frawd i fabi newydd. Dewis swydd. Ymuno â chôr neu glwb chwaraeon. Symud tŷ, efallai i ardal neu wlad gwahanol. Syrthio mewn cariad, neu delio gyda materion ein rhywioldeb unigol. Dod yn rhiant, yn dad-cu neu’n fam-gu, ac yn y blaen.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu delio’n rhwydd gydag ystod o hunaniaethau. Ond beth sy’n digwydd pan fo’r cwestiwn o hunaniaeth yn dod yn broblem, i’r raddau bod e’n amharu a hapusrwydd sylfaenol unigolyn? Prif bwrpas yr erthygl yw estyn llaw at unrhywun sydd wedi cael pethau’n anodd o ran delio gyda hunaniaeth o unrhyw fath, yn enwedig y sawl sydd wedi gorfod delio gyda hunaniaethau sy’n tynnu’n groes i’w gilydd.

Yn oes gwleidyddiaeth Twitter a Facebook, mae cwestiynau hunaniaeth yn amlycach nac erioed. Yn ystod 2020, cafwyd dadleuon tanbaid ynghylch hîl, dosbarth cymdeithasol, rhywioldeb (sexuality), rhyw (gender) a chenedligrwydd. Mewn rhai achosion, mae argyfwng COVID-19 wedi cyffwrdd yn uniongyrchol â chwestiynau hunaniaeth (Cymru v Lloegr; lliw croen gwyn v BAME, a.y.b). Mae’n siwr bod llawer o ddarllenwyr Meddwl.org wedi ymhel yn bersonol gyda rhai o’r trafodaethau hyn.

 Profiadau Andwyol Plentyndod (neu ‘ACEs’)

Cyn sôn yn ddyfnach am hunaniaeth, carwn sôn yn fwy cyffredinol am blentyndod fel cyd-destun i’n bywydau fel oedolion. Gwyddom erbyn hyn bod presenoldeb neu absenoldeb Profiadau Andwyol mewn Plentyndod (Adverse Childhood Experiences neu ‘ACEs’) yn ffactorau sy’n gallu effeithio’n ddwfn ar ddatblygiad plentyn. Trwy fy ngwaith yn y maes cefnogi teuluoedd dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf yn gyfarwydd erbyn hyn â sefyllfaoedd lle mae plant a brofodd ACEs difrifol wedi methu â chreu ymlyniad cryf gyda rhiant, neu yn gwrthod rhoi gorau i ymlyniadau ar oedran briodol (dymi, potel, Mami…). Neu, efallai eu bônt yn chwilio am sylw trwy ymddwyn mewn ffyrdd heriol neu’n amhriodol.

A siarad yn bersonol, gwn erbyn hyn fy mod wedi profi cyfres o ACEs cymhedrol dros gyfnod estynedig o’m plentyndod. Gwn bod hynny – mewn perthynas â chyfres o ddigwyddiadau neu ymddygiadau penodol – wedi creu cymlethdodau yn ymwneud ag ymlyniad a hunaniaeth o tua’r oedran 13 ymlaen.  Engrheifftiau o’r ACEs oedd absenoldeb fy nhad am gyfnodau hir, a hynny am resymau gwaith. Gallaf hefyd crybwyll anhwasterau yn fy nheulu estynedig oedd yn gymysg â chymlethdodau ym mherthynas fy rhieni.

Yr ACE mwyaf ddifrifol â wynebais oedd cael fy saethu gan lanc dieithr mewn coedwig, pan oeddwn yn 12 mlwydd oed ym 1987. Cafodd y troseddwr ei arestio a’i garcharu. Rwyf wedi tueddi diystyru effaith y digwyddiad hwn, ond hwyrach ei bod wedi cyfrannu rhywbeth tuag at elfen o gor-bryder yn fy mhersenolaeth – rwy’n tueddi edrych o flaen gofid (hypervigilance) am y sefyllfaoedd nesaf mewn bywyd sydd â’r potensial i fynd o’u le yn fy mywyd i a’m teulu.

Dydy symud tŷ ddim i’w weld ar y rhestr swyddogol o ACEs.  Ond roedd symud tŷ o Gaerlŷr i Geredigion yn 9 oed yn golygu broses o ffarwelio â hen ffrindiau, a chymhathu i ardal, diwylliant a chenedl gwahanol. Fe es ati i wneud hyn gyda brwdfrydedd: gormod o frwdfrydedd efallai, gan greu ryw fath o drafodaeth yn fy mhen rhwng fy nhreftadaeth a’m hen gartref yn Lloegr, â’m cariad tuag at ddiwylliant  y Gymru Cymraeg – ond ansicrwydd hefyd ynghylch fy lle yn y diwylliant Cymraeg a Chymreig. Daeth y bwgan yma’n ôl i’m brathu’n galed y llynedd, adeg Eisteddfod Llanrwst, gan esgor ar fy mlog cyntaf i meddwl.org.

Gallaf ddweud hyn oll heb daflu bai, fel y cyfryw, ar Mam a’m diweddar Dad: byddaf yn caru’r ddau ohonynt yn ddi-amod, am byth. Yn wir, teimlaf bod fy llwyddiant cymharol i wrthsefyll, a hyd yn oed ffynnu’n bersonol yn ystod cyfnod COVID-19, yn seiliedig i raddau ar yr eisampl a gefais oddi wrth Dad a Mam, o oroesi a dal ati mewn gwahanol sefyllfaoedd anodd. Ceir adlais cryf o ddycnwch y cenedlaethau gynt, yn llwyddiant fy mhlant i sefyll eu tir yn gadarn trwy’r gyfnod heriol hon.

Dissociative Identity Disorder  (DID)

Yn ôl wefan yr NHS, mae Dissociative Identity Disorder (‘DID’ o hyn ymlaen) yn gyflwr anghyffredin iawn. Fe all rhywun â DID teimlo’n ansicr ynghylch eu hunaniaeth bersonol. Gallasent teimlo bod mwy nag un hunaniaeth yn bresenol – pob un â’i llais neu hanes priodol. Gall gwneud i’r unigolyn teimlo’n ddieithryn i’w hunan. Fe all y person sôn amdano’i hun fel ‘ni’. Fe all ymddwyn yn wahanol mewn cyd-destunau gwahanol. Fe all person sydd â DID hefyd bod â chyflwr neu cyflyrau meddyliol eraill (iselder, gor-bryder, PTSD, OCD ag ati).

Rwy’n ansicr i ba raddau y gellid priodoli Dissociative Identity Disorder i rhai o’m profiadau neu ymddygiadau personol. Wrth gwrs, mae gan labeli rôl bwysig er mwyn deall a thrîn amryw cyflyrau iechyd meddwl. Mae adnabyddiaeth o wahanol cyflyrau wedi fy ngalluogi i ddeall fy mod wedi profi cyfnodau digamsyniol o iselder a gor-bryder yn ystod fy mywyd, a bod modd i’r cyflyrau hynny cydfyw gyda llwyddiant a hapusrwydd hefyd.

Yr cyfan rwyf eisiau nodi fan hyn, mewn ffordd syml a niwtral, yw’r ffaith bod yna cyflwr o’r enw “Dissociative Identity Disorder” i’w gael. Wrth rheswm, mae gwybod am fodolaeth cyflwr ag enw Dissociative Identity Disorder o ddiddordeb i mi o ystyried fy hanes amrywiol fel unigolyn. Nid wyf erioed wedi bod at y meddyg i holi am deiagnosis o DID, ond yn sicr gallaf uniaethu’n uniongyrchol gyda rhai o’r problemmau sydd yn cydfynd â ddiffiniad o’r cyflwr.

Rhaid cydnabod rôl gwendidau neu tueddiadau personol hefyd. Yr angen am gariad, neu sylw, neu rhywbeth. Y tueddiad i rumination a fynd ar ryw drywydd meddwl anghonfensynol, neu dod i gasgliad di-sail am ryw sefyllfa neu’i gilydd. Tueddiad i adio 2+2 i greu 5 ar wahanol adegau. Tueddiad i gael fy hudo, neu sugno mewn i gwahanol sefyllfaoedd di-synnwyr. Yr angen am law tawel ar fy ysgwydd i’m tywys i’r naill ochr, mas o drwbl, fel yr wyf yn llwyddo i wneud pob dydd ar ran plant fy hun. Tueddiad i gael fy llorio’n llwyr gan sentiment a ffarwelio (E.T. yn mynd adref, rhaglen radio Terry Wogan yn dirwyn i ben…) Dim ond yn ddiweddar iawn yr wyf wedi dod i adnabod a ddeall rhai o’r patrymau hyn yn fy hanes, a dechrau gweithredu’n sustemaidd i’w ddiddymu.

 “Fe fûm yn crwydro, hyd lwybrau unig…”

Un cymlethdod amlwg yn fy mywyd yw fy mod wedi byw mewn pump o wahanol lefydd sef Caerlŷr, Aberystwyth, Glasgow, Caerdydd a Sir Gaerfyrddin. Rwyf wedi byw bywyd llawn iawn ymhob un o’r llefydd hyn, o dan amgylchiadau gwahanol. Gallaf ychwanegu Ynysoedd Shetland, Mynyddoedd Appalachia (UDA), Sir Gaernarfon, Sir Fynwy, Tŷ Ddewi a Llundain fel llefydd eraill sydd yn codi ymdeimlad ddofn o fod yn berthyn iddynt mewn gwahanol ffyrdd, er nad wyf wedi byw yn yr un ohonynt.

Ar adegau, rwyf yn ysu i deimlo’r cysur o fod yn berthyn i un lle neu un cenedl yn unig. Mae’r teimlad o hiraeth am fy hoff ardaloedd hefyd wedi bod yn affwysol ar adegau. Yr hyn sydd wedi esblygu, fel strategaeth ymdopi, yw ryw fath o “sustem ffederal” yn fy mhen, lle mae gan bob un o’r rhanbarthau ei phriod le yn fy mywyd. Dyma adlais pendant o rhan o gyflwr DID a’i gwahanol “lleisiau”.

“I bob un sy’n ffyddlon…”

Bûm yn gyfaill gyda’r sylwebydd pêl droed, Dylan Ebenezer, ers mis Medi 1986, sef dechrau ein tymor cyntaf yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Perthynas lliwgar bu gennym o’r cychwyn cyntaf. Yntau’n un o hoelion wyth Ysgol Gymraeg Aberystwyth, gyda chefndir teluol cryf ym myd y pethe’ yng Ngogledd Ceredigon.  Minnau’n fwngrel o Ddwyrain Canolbarth Lloegr: dysgwr Cymraeg yn straffaglu cadw pen uwchben dŵr (ac yn chwarae am sylw ar adegau) mewn dosbarth uniaith Gymraeg cynhenid. Mae’n debyg bu Dylan a minnau’n public enemy number one i’n gilydd ar ambell achlysur ym Mhenweddig.

Rwy’n falch iawn erbyn hyn ein bod ni’n dau wedi magu cyfeillgarwch cynnes, o bellter, wrth i’r blynyddoedd mynd heibio. Mae gen i’r barch uchaf tuag at waith sylwebu chwaraeon Dylan: credaf y gallasai bod yn sylwebydd materion cyfoes o’r radd flaenaf hefyd. Ta ‘waeth am hynny, rwy’n ddiolchgar i Dylan am gydsynio i mi grybwyll ei enw fel rhan o’r drafodaeth hon, am y rheswm mae fe oedd y sbardun i’r traethawd yn y lle cyntaf.

Dylswn fod wedi gwybod yn well na thynnu coes Dylan yn gyhoeddus ar Twitter yr wythnos o’r blaen, pan sgoriodd Caerlŷr gôl hwyr iawn a amddifadodd ei annwyl Arsenal o’r triphwynt mewn gêm gynghrair pwysig.  Ychwanegais emoji bach haerllug ar ddiwedd y tweet hefyd, sef sumbol llwynog Caerlŷr.  Ymateb Dylan oedd cyfeirio’n bryfoclyd at y rhestr faith o ymlyniadau pêl droedaidd a bu gennyf ers y crud:

“Caerlŷr, Celtic, Partick Thistle, Porth Tywyn, Deckchairs, Borth… pick a team – any team…” 

(Tweet gan @DylanEbz ataf i, 07/07/20)

Yn wir, gallasai Dylan fod wedi ychwanegu Peterborough United, Dinas Abertawe, CPD Tref Aberystwyth ac AFC Wimbledon at y rhestr o glybiau y bûm yn cefnogi, yn lled-gefnogi, neu yn cynrychioli ar y cae ar ryw adeg neu gilydd, am resymmau yn ymwneud â lleoliad, teulu neu gwleidyddiaeth. Heb sôn am dimau rhyngwladol Lloegr a Chymru. Do, fe fûm yn ddilynwr i grysau gwynion Lloegr ar y meysydd rygbi a phêl droed pan yn grwt, cyn symud yn raddol (ond ddim yn hollol digamsyniol) tuag at Gymru fel oedolyn.

Mae rhan ohonof wedi sgrechian mas i gael bod yn rhywun gyda hunaniaeth allanol clir, tebyg i Dylan Ebz: un clwb pêl droed, un cenedl, a chefndir teuluol sicr gyda gwreiddiau mewn ychydig bach o filltiroedd sgwâr. Buasai bywyd wedi bod llawer haws ar un olwg pe bawn wedi cael aros yng nghanolbarth Lloegr a sticio gyda tîm cyntaf fy mhlentyndod, Peterborough United. Ond pe bai hynny wedi digwydd, buasai meddwl.org wedi colli mas ar draethawd yn ymwneud â Dissociative Identity Disorder, ynde!

‘Y Canol llonydd ddistaw’

Does dim dwywaith imi dalu pris emosiynol am fy nhueddiad i syrthio mewn cariad yn gyflym, ac yn galed,  gydag ystod mor eang o lefydd, syniadau, pobl (ac, ie, timau pêl droed!) yn ystod 45 mlynedd fy mywyd. Mae hynny’n ormod o emosiwn i unrhywun rhesymol cario, heb sôn am rhywun sydd â’r cyfrifoldeb o fagu dau o blant ifanc a chynnal swydd llawn-amser cyfrifol, sydd yn ymwneud â chefnogi teuluoedd eraill yng nghanol argyfwng COVID-19.

Yn ddiweddar, rwyf wedi dod ar draws y term ‘canoli’ (centering), a hynny trwy ymarfer myfyrdod yn rheolaidd ar yr app Insight Timer. Clywais am Insight Timer gan gyfaill yng nghymdeithas Club Soda. Mae Club Soda sydd yn cefnogi’r syniad o ‘yfed yn ystyrlon’, boed hynny trwy gymedroli neu rhoi’r gorau’n llwyr i alcohol. Fe wnes i rhoi’r gorau’n llwyr i alcohol yn 2015, er mwyn cymedroli fy nghyflwr emosiynol mewn ambell i sefyllfa penodol. Erbyn hyn, mae’r bywyd di-alcohol wedi dod un o’r ymlyniadau hollol creiddiol yn fy mywyd. Mae’n rhywbeth na all unrhywun cymryd oddi wrthyf, o dan unrhyw amgylchiadau.

Bellach, trwy ddefnyddio’r syniad o ‘ganoli’, rwyf wedi gallu dod i ddeall yn well beth sydd yn greiddiol bwysig, beth sydd yn llai pwysig, a beth sydd yn rhaid i mi ei ddilyn o hyn ymlaen. Y pwysicaf a’r mwyaf pwerus o’r gweithgareddau hyn, wrth gwrs, yw magu dau o blant, yn enwedig yn y dyddiau cythryblus hyn.

Mae fy ngwaith ym maes anabledd wedi bod yn ffynhonnell arall o ganoli. Yn rhannol, oherwydd y cyfrifoldeb ffurfiol sydd gen i bellach dros llesiant plant anabl a’u teuluoedd. Ond yn ehangach na hynny, mae’n gwaith dyngarol sydd yn helpu pobl o bob cefndir. Does dim gwahaniaeth o ba rhan o Brydain mae’r teulu’n dod, neu cefndir ethnig, crefydd, plaid gwleidyddol na’u barn am Brexit chwaith. Fy ngwaith, cyfrifoldeb a braint yw cael cefnogi’r plentyn a’i deulu.

Mae canu’r delyn yn ffynhonell ‘canoli’ hefyd, oherwydd y deimlad o gariad oedd yn perthyn i’r cyfnod o ddarganfod cerddoriaeth gwerin a roc Cymraeg yn ystod fy arddegau cynnar. Bydd rhan ohonof yn aros yn sownd ym 1989 am byth. Diolch i’r drefn am hynny: mae atgofion diniwed o gyfnod felly yn arf creiddiol bwysig yn y byd di-drugaredd sydd ohoni.

Yn y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi hoelio sylw ar UN tîm pêl droed, sef AFC Wimbledon. Y rheswm pennaf am hynny yw bod fy merch, Heledd, wedi mwynhau dod i weld nifer o gemau’r “Wombles” gyda fi, a dydw i ddim am i unrhyw glwb arall amharu ar hud a lledrith y perthynas hynny. “Womble till i Die” yw un o sloganau ffyddloniaid Plough Lane, ac mewn ffordd fe seliwyd fy mherthynas gydag AFC Wimbledon yn 2017 pan deithiais i Lundain i fynychu angladd ffrind annwyl oedd yn gefnogwr I’r clwb.

Wrth gwrs, byddaf wastad yn cadw hanner llygad ar ganlyniadau Leicester City, y Swans ac Aberystwyth Town ag ati. Bydden i wrth fy modd yn mynd i Partick Thistle yn ffeinal Cwpan Yr Alban, pe ddigwyddai hynny rhyw ddydd. Nid am fy mod yn berson anffyddlon yn y bôn – ond am eu bod nhw yn hen ffrindiau, yn rhan o’m hanes bersonol.

Mae dywediad yn Saesneg i gael sydd yn cymharu ymlyniad fel “letters running through a stick of rock”. Am wn i, y tasg i unrhywun sydd yn wynebu anhawster ymhlith hunaniaeth neu ymlyniad, yw trio gweithio mas beth yn union yw’r llythrennau yn eich “stick of rock” bersonol. Dilynwch yr hyn sy’n teimlo’n naturiol, neu’n gyfiawn (neu’n gyflawn?), a dal ati i ymarfer, myfyrio neu astudio’r pethau hynny mor rheolaidd ag sydd yn bosib. Cadw balans rhwng chwilio am brofiadau newydd, tra’n aros yn dryw i’ch gwreiddiau. Dyw hynny ddim yn hawdd os y’ch chi wedi plannu gwreiddiau’n ddwfn mewn gwahanol llefydd a sefyllfaoedd.

Hoffwn ymestyn pob dymuniad da i holl ddilynwyr Meddwl.org, gan ymestyn gwahoddiad personol I unrhywun sydd yn dymuno cael sgwrs yn gyfrinachol.

[Mae’r Dr. Carwyn Tywyn yn Ymarferydd Cwsg Plant gydag elusen anabledd cenedlaethol, ac yn dad I ddau o blant. Yn 2004, Derbyniodd Carwyn Gradd Doethuriaeth o Brifysgol Cymru Caerdydd ar y pwnc “National Identity and the Political Process in Wales”, ac mae’n gyd-awdur ar “Placing the Nation: Aberystywyth and the Reproduction of Nationalism” (gyda’r Athro Rhys Jones). Mae Carwyn wedi gweithio dros sawl elusen, gan ysgrifennu adroddiad cenedlaethol ar gwasanaethau cynghori ar gyfer pobl anabl. Mae Carwyn yn adnabyddus dros Gymru fel telynor gwerin].

Rhannu

Gadael Ymateb