Iechyd Meddwl: Y Gwcw – Elwyn Vaughan

Efo pryder cynyddol am iechyd meddwl yn y gymuned wledig, dyma fy nghynnig ar y mater i Gyngor Powys:

TIC TOC;   TIC TOC;   TIC TOC;

Ar ôl cerdded lawr coridor hir hir, oer, efo dim enaid byw yno, mewn hen adeilad Fictorianaidd, rydych yn dod at ddrws clo, yna drws arall ac arall cyn mynd mewn i lolfa llwm efo ffenestr fawr yn gwrthgyferbynnu’r llymder efo golygfa hyfryd dros Fae Abertawe a’r môr yn disgleirio, a moethusrwydd Mumbles – ac ar y wal clywir sŵn cloc yn tipian – pob eiliad fel awr. Wedi’r cyfan mae angen amynedd wrth ceisio cael sgwrs mewn ‘Sbyty meddwl, ceisio gwneud synnwyr o’r di-synnwyr.

Yna os ewch i ‘Sbyty Glangwili, na, NID i’r prif fynedfa parchus, ond i’r adwy sy’n deud MARWDY, wedi’r cyfan dyna mae cymdeithas wedi ceisio neud, sef cuddio pethe nad yw am weld o’r golwg; mi ddowch at adeilad ac o fynd drwy’r drws clo daw dynes amlach na dim i boeri i’ch gwyneb neu un arall i fytheirio a rhythu tra eich bod yn ceisio deall, gwrando a dylanwadu ar berson ifanc.

Neu falle ewch i’r ward ger Coleg y Drindod, heibio’r hen wyrcws, heibio’r swyddfeydd moethus, ac yna i’r cornel pella un o olwg pawb a phopeth – i glywed sgrechian di-baid.

Dyma ble mae rhai o’n pobl ifanc bregus yn gorfod mynd.

Ond y cwestiwn mawr ydy, o adael y sefydliadau pa gefnogaeth sydd ar gael wedyn? Ond mae hyn yn wir hefyd ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n gadael gofal y Cyngor. Be sy’n digwydd wedyn? Ble maent i fynd? Beth maent am ‘neud? Ai eu gadael i rwydd hynt yntau sicrhau fod ‘na ganllaw cadarn?

Wrth i berson bregus ddychwelyd i’r gymuned mae pob math o heriau, temtasiynau, rhwystrau ac ansicrwydd – ac mae angen amynedd Job.

Ar hyn o bryd mae gangiau o Lerpwl a Canolbarth Lloegr yn meddiannu strydoedd Drenewydd, yn boddi’r ardal efo cyffuriau caled, yn cyflenwi trefydd eraill; yn gwylio allan am bobl ifanc bregus er mwyn eu hudo a’u rhwydo i’r fagl. Maent yn gwylio fferyllfeydd fel Boots a Lloyds i weld pa bobl ifanc sy’n gadael efo bagiau mawr o foddion – tystiolaeth amlwg eu bod yn fregus. Ac yna o’u bachu, yn eu tynnu mewn fel pysgodyn i’r rhwyd, fel eu bod bron yn amhosib torri’n rhydd.

Maent yn cymeryd drosto eu tai, yn Cuckooing, yn meddiannu pob dim, yn cymeryd eu cerdyn banc, yn rheoli eu bywydau. Yn wir, nes i hysbysu Gwasanaethau Cymdeithasol o fy mhryderon am un dyn ifanc ar Mai 9fed gan ddweud:

“I have a 21 old lad in Newtown has wide-ranging issues. Been experiencing psycosis for 6 weeks. Is paranoid and been with knives. In fear of his life.”

Doedd gen i ddim amheuaeth y dylai fod wedi mynd i Sbyty – er lles ei hun ac eraill.

Ar y 10fed fe ddywedwyd, a gai ddyfynnu:

“That his risk rating is reducing.”

“My health board colleagues confirmed that at present in patient treatment is not deemed necessary at this time.”

O fewn pythefnos i hynny, ac mae’r sefyllfa’n parhau, cymerwyd ei dŷ drosto gan un o’r gangiau – a daeth y gwcw i’r nyth, gan gymeryd ei gerdyn banc, rheoli ei fywyd a rhoi puteiniaid, cyffuriau a dyled enfawr iddo er mwyn ufuddhau.

Yn ddios mae ’na wersi lu o hyn.

Maent yn defnyddio pobl ifanc i redeg drostynt, i fynd o fan i fan. Yn eu danfon ar y tren ben bore i Walsall i foen cyflenwad ychwanegol o ‘crack cocaine’ neu yn eu cipio i ardaloedd trefol fel Abertawe fel bo neb yn eu hadnabod. Yn diflannu o’r tir – yn llythrennol. Ac yn lle defnyddio Audi’s a Mercedes du fel a wnaed; maent yn teithio mewn ceir wedi’u hurio er mwyn osgoi llygaid yr heddlu ac yn defnyddio pobl ifanc bregus i neud y gwaith budr.

Ac fel tae hynny ddim yn ddigon, mae perygl bellach fod cyffuriau fel Progablin yn dod i’r ardal – rhwbeth sy’n rhemp yng Ngogledd Iwerddon.

Ond mae heriau eraill yn gwynebu ein pobl ifanc hefyd.

Yn ehangach mae sialensau iechyd meddwl, unigrwydd ac ati’n her gwirioneddol yn ein cymunedau gwledig,

Mae’r gymuned amaethyddol wedi dioddef unigrwydd, poen meddwl a pwysau sylweddol yn aml a’r tristwch ydy bod un ffermwr yn lladd ei hun yn yr ynysoedd hyn pob wythnos. Ac rydym i gyd yn ymwybodol o’r cyhoeddusrwydd diweddar fu i’r cynnydd sylweddol mewn hunan niweidio yn ein ysgolion.

Ond mae ’na esiamplau o waith da yn digwydd, un ohonynt ydy elusen Small Steps sy’n cael yr un dimau o arian cyhoeddus – ond sydd mewn peryg o gau.

Ac fel y cyfeiriodd y Cynghorydd Dorrance yn y cyfarfod d’wetha – at bobl ifanc yn gadael ein gofal yn cysgu ar soffas ffrindiau – sefyllfa hollol anfoddhaol, yn amlygu yr angen i’r Adran Dai a Gwasanaethau Cymdeithasol cyd-drafod a chydweithio yn lle bod mewn silos.

Y gwir ydy mi fydd y sefyllfa yn mynd yn llawer gwaeth efo dyfodiad polisi Llywodraeth San Steffan efo Credyd Cynhwysol.

Yn anffodus, dwi eto i gael fy mherswadio fod y Cyngor yma yn darparu’r gefnogaeth briodol ac addas i’r bobl ifanc yma. Ac felly oherwydd y cyfuniad yma o heriau i’n pobl ifanc, mae angen rhaglen o gefnogaeth, anogaeth, hwylus ac angen pecyn i gefnogi pobl ifanc 16 – 25 oed. Nid Gwasanaethau i Henoed yn unig ddylai fod ein Gwasanaethau Oedolion. Fel y dangosodd trasiedi yr ymchwiliad diweddar efo person ifanc yn cymeryd ei fywyd ar ôl gadael gofal y Cyngor ‘ma – mae gwir angen gweithredu.

Felly rydym yn galw ar y Cyngor i:

  • Gydnabod yr her, peryglon a’r pwysau ar ein pobl ifanc
  • I lunio strategaeth cefnogaeth i bobl ifanc 16 – 25 ym Mhowys yn pontio o wasanaethau cymdeithasol ieuenctid gan gynnwys:
  • Sicrhau cynllun Wellbeing / Llesiant yn ein ysgolion cynradd ac uwchradd
  • Sicrhau bod holl bobl ifanc Powys yn cael mynediad cyfartal  i wasanaethau tai a gofal o safon, gan eithrio rhai dan 25 sy’n gadael gofal rhag talu Treth Cyngor
  • Cydweithio efo Gwasanaethau Ieuenctid i godi ymwybyddiaeth am unigrwydd yn ein cymunedau, materion iechyd meddwl, rhywioldeb a chyffuriau, alcoholiaeth
  • I gydnabod gwaith elusennau lleol a’r trydydd sector, a chydweithio efo hwy i sicrhau cynaladwyedd y gwasanaethau cefnogaeth i’r dyfodol
  • Cydweithio efo Shelter Cymru i hybu buddiannau ac hawliau tai
  • Cydweithio efo Cais
  • Datblygu cyfleon profiad gwaith o ansawdd
  • Gwyntyllu datblygu defnydd un o fan-ddaliadau’r Cyngor i ddarparu profiad i bobl ifanc Powys i ddysgu am garddwriaeth a’r awyr agored gan ehangu mynediad i gefn gwlad.

Felly, gyfeillion, tro nesa da chi adre yn ymlacio ar ôl diwrnod blinedig, efo gwydrad o win neu gwrw, efo sŵn y cloc ar silff pen tan – meddyliwch am y rhai bregus hynny ble mae pob eiliad yn teimlo fel awr.

Tic toc; Tic toc.

Elwyn Vaughan

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb