Iechyd Meddwl a cheisio’i esbonio

Mae Andrew Tamplin, sefydlwr Canna Consulting wedi cyhoeddi blog sy’n ceisio rhoi ei brofiad o o iechyd meddwl mewn geiriau:

“Gofynnodd ffrind i mi peth amser yn ôl, i mi geisio egluro sut mae’n teimlo i ddioddef ymddatodiad meddyliol (mental breakdown). Roedd eisiau deall, eisiau dychmygu sut mae’n teimlo i fynd trwy salwch meddyliol (yr un sydd gen i). Gofynnodd, sut mae iselder a gorbryder yn edrych ac yn teimlo pan y mae’n dod yn ormod i’w reoli?

‘Roedd hwn yn gwestiwn diddorol.

Wedi i mi wneud peth gwaith ymchwil, sgwrsio efo pobl, darllen llwyth ac edrych ar amrywiaeth o bapurau addysgiadol, mae’n glir i’w weld. Y gwirionnedd yw ei fod yn wahanol i bawb. Mae pob unigolyn â’u fersiwn eu hunain o’u ‘dieifliaid’. Mae’r cydwybod yn effeithio pobl mewn gwahanol ffyrdd.Felly, wrth i mi geisio egluro’r salwch, ‘rwyf am ganolbwyntio ar fy salwch i.

Rwyf am geisio egluro sut ‘rwyn teimlo, sut mae fy ‘nieifliaid’ yn cymryd drosodd a sut mae’n effeithio ar fy mywyd yn barhaus.”Parhau i ddarllen