‘Hunanol’ – Glesni Williams

Ti mor hunanol. Dwyt ti’n meddwl am neb ond ti dy hun. Dwyt ti byth yna i dy ffrindiau. Ti o hyd yn gadael pobl i lawr. Dwyt ti byth yn gwneud digon i bobl eraill. Pam fedri di ddim bod yn llai hunanol? Yli faint ‘sa ti’n gallu neud i helpu hi/fo/nhw, ond dwyt ti ddim. Hunanol, hunanol, hunanol.

Dyma’r math o bethau sy’n mynd rownd yn fy mhen yn dragwyddol. A dwi’n eu coelio nhw – boed nhw yn wir neu boed yr iselder yn fy nhwyllo i mi feddwl eu bod yn wir. Ond yn fy mhen, dwi’n eu meddwl a’u teimlo felly mae’n rhaid eu bod yn wir.

Mae’r euogrwydd sy’n dod law yn llaw efo teimlo mor hunanol yn fwrn arnai. Mae’n fy llusgo i lawr i’r dyfnderoedd. Dwi’n teimlo mor euog am fod mor hunanol.

Dwi brin yn medru codi rhai dyddiau. Mae waliau fy llofft yn rhoi cysur ond yn fy ngharcharu yr un pryd. Ydw i’n ddiogel yno neu yn rhoi fy hun mewn perygl drwy aros yno? Waeth beth yw’r ateb, dwi’n dal i deimlo’n hunanol.

Dwi ddim yn gwneud digon i eraill. Dwi methu gwneud hanner y pethau oeddwn i’n arfer medru eu gwneud. A dwi’n teimlo fel y ffrind gwaethaf yn y byd. Mae’r euogrwydd o hynny yn fy lleddfu a dwi’n casau fy hun am y person dwi wedi dod.

Mae’r byd yn troi o fy nghwmpas ond dwi’n aros yn fy unman, mewn twll tywyll di-ddiwedd. Fy meddyliau yn chwyrlio a cylchdroi a dwi methu canolbwyntio ar ddim.

Mae bodoli yn sialens ynddo ei hun. A byw bywyd yn teimlo fel breuddwyd i ffwrdd. Ond dwi’n teimlo’n hunanol am hynny. Pam na fedra’i fyw a mwynhau bywyd a gwneud y mwyaf o pob eiliad? Mae’r boen meddyliol ac emosiynol, ac yn aml corfforol hefyd, dwi’n ei gario pob dydd yn fy rhwystro. Ond dwi’n hunanol am fethu bod digon cryf i frwydro yn erbyn y rhwystrau. Boed faint mor galed dwi’n trio, mae’r isleder yn fy nghuro. Yn fy chwalu yn ddarnau nes fy mod yn llanast unwaith eto.

Mae’r casineb tuag at fi fy hun yn ddi-ddiwedd, ac yn fy ngwthio yn agosach at waelodion y dyfnderoedd. Y casineb am beidio bod digon da, am fod yn faich ac yn niwsans, am fod fel ydw i, am beidio bod y person dylwn i fod, am fod yn fwy o drafferth na ydw i o werth. Mae’r casineb hwn yn gwneud i mi fyw mewn ofn o fi fy hun pob eiliad o’r dydd.

Dwi ‘di cael digon. Mae’r bobl o fy nghwmpas yn haeddu gwell na hyn – pendroni tragwyddol ddim yn gwybod sut hwyliau sydd am fod arnai. Dwi’n poeni bod fy hwyliau ac emosiynau yn effeithio yn negyddol arnyn nhw. Dwi’n trio fy ngorau i gilio i ffwrdd a peidio dangos fy ochr gwaethaf ond mae’r ymdrech yn straen ac yn draenio mwy o egni allan ohonai.

Hunanol – a’i fi sy’n ei deimlo neu a yw’n wirionedd? Boed beth yw’r ateb, dwi’n sori.

Rhannu

Gadael Ymateb