Gwynebu’r Byd Gydag Alopecia – Helen Davies

Colli gwallt                                                             

Ers deg mlynedd rwyf wedi byw gyda Alopecia Totalis, cyflwr lle mae person yn colli gwallt y pen i gyd. Mewn byd lle mae hunan-ddelwedd mor bwysig, mae’n gyflwr anodd ac heriol iawn.

Mae Alopecia yn effeithio ar nifer fawr o bobl ac yn dipyn o ddirgelwch yn y byd meddygol. Mae nifer yn meddwl mai stress sy’n achosi Alopecia ond afiechyd hunanimíwn yw Alopecia, lle mae’r corff yn methu adnabod ei gelloedd ei hun ac yn dinistrio’r gwallt. Mae’n gallu bod yn genetig.

Do’n i erioed wedi gofidio am Alopecia, serch bod fy mrawd wedi colli ei wallt yn blentyn. Roedd gen i wallt trwchus, golau a deniadol. Do’n i ddim yn hoffi ‘bad hair days’ a roedd mynd i’r siop trin gwallt yn gyfle i mi ymlacio. Roedd torri gwallt a chael rhyw steil newydd yn gallu codi ysbryd. Erbyn hyn, dw i ddim yn gallu cofio beth yw cael llond pen o wallt!

Ro’n i wedi bod yn dioddef o Alopecia Areata ers geni’r plant. Sylwais ar gylchoedd bach moel ar fy mhen ond fel arfer byddai’r gwallt yn tyfu yn ôl. Ces i driniaeth deintyddol un diwrnod a roedd rhaid cael gwreiddyn dant wedi’i lanw. Yn ystod y driniaeth, fe deimlais boen ofnadwy – poen fel cyllell yn symud lawr y gwreiddyn at y gwddwg. Am eiliad, teimlais fy mod yn mynd i farw. Roedd yn dipyn o sioc ar y pryd ac rwy’n cofio llefen wrth yrru adre. O fewn mis, sylwais ar newid yn answadd fy ngwallt. Gwallt trwchus yn troi’n llipa, tenau a difywyd.

Yn dilyn y profiad hwn yn y deintydd, ces i flwyddyn hunllefus. Gwynebais gyfres o brofiadau heriol ac anodd o fewn ein teulu, gan gynnwys tostrwydd rhieni a cholled. Teimlais fy mod yn ymdopi gyda’r cyfan ond sylwais ar fy ngwallt yn teneuo’n fwy ac yn fwy.

Dagrau

Roedd y broses o golli gwallt yn un arswydus ac eithafol i ddweud y lleiaf. Colli gwallt wrth ei olchi a chribo! Gwallt yn y sinc, yn y bath a’r gawod; gwallt ar y glustog, ar fy nillad ac yn yr hwfer! Gwallt ym mhob man a llai a llai o wallt ar fy mhen. Ro’n i’n osgoi cyffwrdd â fy mhen gan fod unrhyw gyffyrddiad yn rhyddhau’r gwallt. Dros gyfnod o chwech mis collais fy ngwallt i gyd, aeliau a blew llygaid hefyd! Teimlais fel bod fy myd yn dod i ben.

Ar y dechrau do’n i ddim yn gwybod beth i wneud na sut i ymdopi. Roedd fy edrychiad yn newid o ddydd i ddydd! Mwy na hynny, roedd fy rheolaeth dros beth oedd yn digwydd wedi mynd yn gyfan gwbl. Roedd y sioc yn un enfawr. Edrych yn y drych a gweld dieithryn salw yn syllu arnaf. Teimlo’n ofnus wrth weld newid mor eithafol; embaras a chywilydd wrth edrych mor wahanol. Cadarnhaodd y doctor mai Alopecia Totalis oedd gen i gan ddweud “it’s not life threatening”.

Defnyddiais fy holl egni i geisio cuddio’r ffaith fy mod i’n colli gwallt. Ro’n i’n flinedig iawn wrth esgus bod yn normal. Roedd yr un cwestiynau yn troi o gwmpas fy mhen: sut o’n i’n mynd i wynebu pobl? Sut o’n i’n mynd i fynd allan? Sut o’n i’n gallu cario ymlaen?!  Roedd mynd i’r gwaith yn anodd gan fy mod yn athrawes deithiol ac roedd y newid yn fy edrychiad mor amlwg. Roedd siarad am yr Alopecia yn anodd a’r dagrau mor agos. Doedd dim ffordd o’i guddio. Teimlais yn anobeithiol a diflas gan gasau sut ro’n i’n edrych. Teimlas yn fethiant, fel bod yr Alopecia yn adlewyrchu gwendid yn y ffordd ro’n i’n ymdopi gyda bywyd.

Un dydd ar y tro – camau bach sy’n arwain at gamau mawr

Un bore do’n i ddim yn gallu cuddio’r Alopecia mwyach. Do’n i ddim yn gallu gwynebu mynd i’r gwaith. Arhosais adre a chuddio o’r byd! Ar ôl rhai wythnosau, gofynnodd fy merch: “Beth wyt ti’n mynd i wneud? Aros mewn? Cuddio am byth?” Sylweddolias bryd hynny faint oedd gyda fi i’w golli. Felly dyma fi’n dod i benderfyniad: roedd rhaid mynd mas a dechrau gwynebu pawb. Ro’n i’n ffodus mai adeg y gaeaf oedd hi ac ro’n i’n gallu gwisgo het. Felly allan a fi o’r tŷ, cwrdd â phobl a chael sgwrs. Roedd hwn yn gwneud i fi deimlo’n normal eto. Yr unig broblem oedd do’n i ddim eisiau tynnu’r het i ffwrdd…

Ymhen rhai wythnosau, fe benderfynais fynd yn ôl i’r gwaith. Rwy’n ffodus iawn bod gen i ŵr ffantastig, teulu arbennig a ffrindiau da oedd yn gefnogol. Gwisgais sgarff ar fy mhen a gwynebu pawb – un o’r pethau mwyaf anodd a dewr rwy wedi ei wneud erioed! Canolbwyntais ar un diwrnod ar y tro ac yn raddol roedd bywyd yn dechrau dod yn fwy normal. Nid pawb oedd yn sylweddoli faint o ymdrech oedd hwn yn ei gymryd.

Yr eliffant yn yr ystafell

Dw i ddim wedi cuddio fy Alopecia; mae’n ormod o beth i’w guddio. Rwy’n gwisgo sgarff am fy mhen ac yn byw fy mywyd. Does neb llawer yn cwestiynu’r peth na’n gofyn beth sy’n bod; efallai mae’n anodd iddynt wybod beth i’w ddweud. Plant fel arfer sy’n chwilfrydig ac yn holi er mwyn deall pam rwy’n gwisgo sgarff. Erbyn hyn rwy’n gallu siarad yn ddigon agored am y cyflwr.

Mae nifer o bobl yn tybio fy mod yn dioddef o ganser. Ces i sioc ofnadwy y tro cyntaf gofynodd rhywun: “Sut mae’r driniaeth yn dod ‘mlaen?” Do’n i ddim yn disgwyl nac wedi ystyried y byddai pobl yn meddwl fy mod i’n dost. Teimlais yn euog ac yn lletchwith iawn gan fy mod i’n dygymod â cholli gwallt yn unig, ac nid canser. Erbyn hyn rwy’n ateb “Rwy’n iawn, diolch”.

Mae gen i sawl wig ffantastig sy’n edrych cystal â gwallt go iawn. Y peth rhyfedd yw rwy’n teimlo’n fwy ‘normal’ wrth wisgo sgarff. Teimlai wig yn artiffisal ac mae’n fy atgoffa o beth rwy wedi’i golli. Rhaid bod yn driw i’ch hunan a gwneud beth sy’n iawn i chi.

You can’t control everything! Your hair was put on your head to remind you of that!

Mae gan Alopecia’r botensial i effeithio ar iechyd meddwl a thanseilio hunan hyder. Dyma rhai pethau pwysig rwy wedi dysgu wrth ddygymod ag Alopecia:

  1. Mae’n amhosib rheoli popeth! Mae llawer o bethau na allwch eu rheoli o gwbl.
  2. Mae’n bwysig siarad am eich teimladau a rhannu profiadau. Cofiwch: nid chi yw’r unig berson sy’n dioddef o’r cyflwr.
  3. Mae’n bwysig gofalu am eich hunan, cadw at drefn ddyddiol a chadw i fynd.
  4. Cofiwch fod yn garedig gyda’ch hunan. Mae’n hollol normal i gael diwrnodau sydd ddim cystal.
  5. Mae’n bwysig bod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennych.
  6. Mae modd bod yn hapus hyd yn oed os nad yw popeth yn berffaith! Cofiwch: does neb yn berffaith.
  7. Rydych yn gryfach a dewrach na beth rydych chi’n meddwl.

Alopecia is not life threatening

Dyw Alopecia ddim yn ‘peryglu bywyd’ ond mae’n gyflwr sy’n ‘newid bywyd’ gan ei fod yn effeithio ar eich hunan ddelwedd. Fy mhroblem i yw Alopecia; mae’n llai o broblem i bobl eraill. Mae’n syndod fel mae pobl eraill yn cyfarwyddo. Gydag amser, rwy wedi cyfarwyddo hefyd gyda sut rwy’n edrych ac wedi dygymod yn dda â’r cyflwr. Rwy’n person cryfach o ganlyniad i’r Alopecia. Rwy’n byw bywyd llawn: gweithio’n llawn amser, cymdeithasu gyda ffrindiau, mynd i siopa, nofio, dawnsio a phob dim arall. Serch hynny, mae o hyd yn gallu bod yn anodd ar adegau. Erbyn hyn mae peth gwallt yn tyfu yn ôl; ond gwallt neu beidio, rwy’n benderfynol o werthfarogi’r hyn sydd gen i a byw bywyd llawn. Rhaid mynd amdani – mae bywyd yn rhy fyr!

Rhannu

Gadael Ymateb