Gwthio pobl i ffwrdd

Mae iselder yn gwneud i mi bellhau fy hun oddi wrth y bobl sydd agosaf ata’i ac ar adegau yn gwneud i mi eu gwthio i ffwrdd. Does gennai’m syniad pam ac ar adegau mae’n beth dryslyd a poenus.

Dwi’n derbyn bod hyn yn anodd i’r rhai o fy nghwmpas hefyd – os nad ydw i’n gwybod pam mod i’n eu gwthio i ffwrdd, does dim disgwyl iddyn nhw wybod na deall be sy’n mynd ymlaen. Dwi’n brifo fy hun a’u brifo nhw.

Weithiau mae’n haws gwthio pobl i ffwrdd yn hytrach na trio smalio mod i’n iawn neu rhoi gwyneb ymlaen. Mae’n haws na gwynebu pa mor bell dwi wedi disgyn i ffwrdd o’r person oeddwn i’n arfer bod a pa mor dywyll mae pethau yn medru bod. Mae smalio i rhywun arall gymaint anoddach na smalio i fi’n hun. Wrth fod o gwmpas pobl eraill, mae’n fy atgoffa pa mor bell ydw i o beidio bod yn iawn.

Sgenai ddim egni. Dim egni i fi fy hun na i wneud unrhyw beth. Mae hyn yn gallu bod yn anoddach fyth pan dwi o gwmpas pobl eraill – dwi’n gorfod smalio fod gennai egni. Ond y gwir ydi, does gennai ddim yr egni i ddilyn sgwrs, i gyfranu i sgwrs neu hyd yn oed i chwerthin. Dwi’n ofni wedyn bod y bobl o’n nghwmpas yn sylweddoli hyn ac yn meddwl mod i’n bod yn anghwrtais a ddim eisiau bod yn eu cwmni. Ond dwi isio bod efo nhw, dwi isio chwerthin, bod yn rhan o sgwrs a dod i wybod am yr hyn sydd yn mynd ymlaen yn eu bywydau nhw, ond mae’r diffyg egni yn fy nhynnu i lawr. Weithiau, yr unig beth dwi isio ydi cael hug gen ffrind ac eistedd efo nhw yn dawel. Dim ond fod na gwmni wrth fy ochr, does na’m rhaid dweud dim wrth y naill na’r llall. Ond dwi ofn gofyn, gennai ofn bod hyn yn gwastraffu eu amser a fod ganddyn nhw bethau gwell i neud. Ofn mod i’n bod yn hunanol.

Yn y foment, mae’r emosiwn mor gryf dwi ddim yn sylweddoli be sy’n mynd mlaen…

Dwi’n mynd yn ddiamynedd ac yn anifyr efo pethau, a weithiau efo pobl, yn hawdd. Rhan fwyaf o’r amser fy rhieni sy’n dioddef hyn gennai gan mai nhw dwi’n ei weld amlaf. Dwi’m yn trio bod yn ddiamynedd nac yn anifyr ond weithia dwi methu helpu’n hun. Yn y foment, mae’r emosiwn mor gryf dwi ddim yn sylweddoli be sy’n mynd mlaen, ond wedi ychydig funudau ac wrth gymryd cam yn ôl o’r sefyllfa dwi’n teimlo’n flin efo fi’n hun am ymddwyn fel y gwnes i. Pa hawl sydd gennai i fod yn flin efo bobl am ddim rheswm neu am ddisgwyl iddyn nhw wybod neu deall rhywbeth. Dwi wedi anfon txt at wahanol bobl cyn heddiw i ymddiheuro am fy ymddygiad – am fod yn flin, am beidio sgwrsio llawer, am fod yn ddistaw. Dwi’n teimlo’n aml bod angen i mi ymddiheuro am fy ymddygiad.

Dwi’n teimlo wedyn bod pobl ddim isio i mi fod o’u cwmpas. Er bod pobl yn gwneud a dweud pethau sy’n cefnogi’r ffaith eu bod eisiau bod yn fy nghwmni, dwi ddim yn eu coelio a dwi’n meddwl eu bod yn dweud neu gwneud y pethau dim ond i mi deimlo’n well. Dwi ddim yn deall pam y byddai rhywun eisia treulio amser efo fi a finnau fel hyn – dwi’n poeni nad oes gennai ddim i’w gynnig neu mod i am fod mewn hwyliau isel neu yn crio. Ond, os na fyddai wedi cysylltu efo ffrind ers chydig ddyddiau neu nhw heb gysylltu efo fi, byddai’n teimlo bod yr hyn dwi’n teimlo am fy hun yn dod yn wir a’u bod nhw wirioneddol yn meddwl yr un peth amdana’i – eu bod wedi cael llond bol ohonai a mod i’n eu tynnu i lawr.

Dwi’n teimlo fel llanast

Dwi’n ymwybodol mod i ddim yn fi fy hun a fod yr iselder wedi cymryd drosodd a wedi llyncu pob owns o egni a brwdfrydedd ohonai. Dwi’n teimlo fel llanast. Dwi’n ei chael yn anodd adnabod fy hun a mae hynny yn codi cywilydd arnai. Yn aml na’i ddim gadael i bobl yng ngweld i felma. Unai na’i aros nes dwi’n cael cyfnod gwell neu na’i beidio mynd allan fel mod i ddim yn gorfod gwynebu neb. Ar adegau eraill, does dim ots gennai sut olwg sydd arnai na faint o lanast dwi ynddo.

Dwi’n teimlo mod i’n faich i bobl eraill, yn aml iawn. Dwi’n teimlo y byddwn i’n tynnu bobl eraill i lawr os dwi yn eu cwmni. Dwi’n teimlo nad ydi pobl yn medru fy nhrin fel y person dwi’n arfer bod, ymddired yna’i fel oedden nhw’n arfer gwneud neu cael hwyl efo fi fel yr hen amser. Dwi’n niwsans – niwsans bod yr iselder ‘ma wedi dwyn pob dim oddi arnai. Dwi ofn bod fy ffrindiau methu dweud wrthai am be sy’n mynd mlaen yn eu bywyd – eu bod wedi cael digon ohonai, mod i ddim yn ymateb yn y ffordd oeddwn i’n arfer gwneud neu eu bod nhw yn syml ddim isio fi wybod na bod yn rhan o’r peth. Dwi wedyn ofn cael fy mrifo – ofn i bobl flino cyn gymaint arnai eu bod yn rhoi diwedd ar ein perthynas ac yn cerdded i ffwrdd. Weithiau mae’n haws i mi deimlo’n unig na poeni pryd mae rhywun am gael digon ohonai.

Mae na elfen o fod ofn agor i fyny gormod rhag i mi eu brifo

Dwi ofn brifo pobl. Ddim yn aml iawn y byddai’n bod yn gwbl onest efo’r rhai sydd agosaf atai am yr hyn dwi’n deimlo. Ond yn ddiweddar dwi wedi darganfod bod sgwennu pethau i lawr a rhoi hwnnw iddynt i ddarllen yn llawer haws a wedi bod yn help mawr – i mi ac iddyn nhw. Mae ambell i berson dwi wedi rhannu’r darnau sgwennu â hwy wedi dod yn ôl atai i ddweud ei fod wedi bod yn agoriad llygad ac yn help iddyn nhw ddeall sut dwi’n teimlo. Mae rhai wedi gofyn mwy am yr hyn dwi wedi ei sgwennu. Dydi rhai eraill heb ddweud cyn gymaint – efallai nad ydynt yn gwybod sut i ymateb neu eu bod yn hapusach gwybod sut dwi’n teimlo ond nad ydynt yn awyddus i drafod y peth ymhellach.

Dwi’n ei gweld yn haws i bobl ofyn rhywbeth i mi na i mi drio cychwyn sgwrs am sut dwi’n teimlo. Dio ddim problem gennai siarad gyda’r rhai sydd agosaf atai, petawn nhw wir isio gwybod sut dwi’n teimlo, ond dwi’n teimlo’n euog os dwi’n dechrau siarad am y peth yn gyntaf, fel mod i’n bod yn hunanol. Mae na elfen o fod ofn agor i fyny gormod rhag i mi eu brifo. Byddwn i’n casau ac yn ei gweld mor anodd darllen rhywbeth fel hyn am fy ffrind felly fedra’i ond dychmygu sut beth ydi o iddyn nhw ddarllen rhywbeth mor bersonol amdana i. Mae’n rhaid i mi fod yn wyliadwros o’u teimladau nhw a sut gall y peth eu effeithio nhw.

Di-enw