‘Gwacter a Methiant’ – Glesni Williams

Cwmorthin

Mae gwacter tu mewn i mi yn fy mhen ac yn fy nghalon. Mae’n treuddio i’m gwythiennau ac yn fy llorio am oriau, weithiau dyddiau. Dwi’n teimlo dim byd a dwi ddim eisiau gwneud dim byd. Dwi’n teimlo’n wan – yn gorfforol ac yn feddyliol. Does ‘na ddim awydd na amynedd yndda i. Mae popeth yn symud ac yn digwydd yn araf.

Tydw i ddim eisiau agor fy llygaid yn y bore. Tydw i ddim eisiau deffro. Tydw i ddim eisiau bodoli. Ddim eisiau bodoli gyda’r bywyd hwn neu ddim eisiau bodoli yn gyffredinol? Dwn i ddim. Mae’n cymryd gormod o ymdrech i feddwl am y peth.

Mae cwsg yn lleddfu rhywfaint ar y boen nes bod y meddyliau ffyrnig yn crebachu a tynnu’r rhyddhad oddi arnai. Mae’r nos yn hir , oriau mân y bore yn unig a’r meddyliau yn cylchdroi nes fy mod yn llanast mewn croen.

Tydw i heb adael y tŷ ers dyddiau. Fy man diogel bore ddoe oedd llawr yr ystafell folchi. Awr o eistedd ar y llawr methu symud – dim ond syllu ar y teils ar y wal. Pob dim a dim byd yn cylchdroi yn fy mhen nes fy mod yn ddryslyd a llipa.

Mi lwyddais i wthio fy hun allan am dro un diwrnod – yn yr eira, yr oerni a’r niwl i fy hoff le, Cwmorthin. Roedd hi’n llym yno, doeddwn i’n gweld dim a roedd yr eira yn chwipio i fy ngwyneb wrth i mi wthio ymlaen. Ond mi ddaeth a cysur i mi. Y llonyddwch a’r distawrwydd yn endid un eu hunain a mi ddychwelais i lawr yn ysgafnach person.

I mi, mae pwysau sylweddol yn dod ynghlwm â’r dyddiad 31 Rhagfyr. Dwi’n casau’r noson a’r holl ddisgwyliadau a gobeithion daw efo fo. Dwi’n teimlo pwysau anferthol i fod yn ‘well’ na’r oeddwn i. A phan mae’r bore yn cyfleu nad oes gwelliant, dwi’n teimlo fel methiant llwyr. Methiant i fi fy hun ac i’r bobl o fy nghwmpas.

Dwi’n trio, dwi wirioneddol yn trio. Ond dwi ‘di blino. Daw diwrnod newydd fory…

Rhannu

Gadael Ymateb