Gorbryder, Iselder ac Alcohol – Hannah Catrina Davies

Faint ohono chi (yn eich 20au cynnar) sy’n mynd allan o leiaf unwaith y mis ac yn mwynhau mas draw gyda’ch ffrindiau, boed yn y tafarn lleol neu mewn dinas fawr? Fi bron yn 20 oed, ac yn treual gwneud y fwyaf o’m mywyd ac eisiau gwneud cymaint ag y gallaf.

Nôl ym mis Ebrill 2018, fe wnes i sylwi fy mod i’n teimlo’n isel iawn, ac ers hynny fi heb fod allan llawer. Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn mynd allan achos y meddyginiaeth roeddwn i arno ar y pryd. Doedden i ddim yn gallu yfed alcohol ar y meddyginiaeth ac roedd y syniad o fynd allan yn sobor yn gwneud i mi deimlo’n bryderus iawn.

Pan roeddwn i’n treual gweithio allan pam oedden i’n teimlo’n isel, fe wnes i ddarllen llawer o flogiau am iechyd meddwl, ac roedd gwybod bod fwy o bobl yn teimlo yr un peth â fi yn help fawr, i symud ymlaen ac i ofyn am help.

Roeddwn i eisiau helpu pobl trwy siarad am fy mhrofiad i gyda problemau iechyd meddwl, felly fe wnes i ysgrifennu blog o’r enw ‘Dianc meddwl fy hun’ ar meddwl.org. Cefais llawer o bobl yn danfon negeseuon i mi, naill ai yn gofyn am help neu yn dweud ‘diolch am agor lan’ a ‘da iawn ti’ ac ati. Y tro yma, rwy’n ysgrifennu blog am yfed alcohol wrth fyw gyda problemau iechyd meddwl, gan fy mod i’n meddwl bod e’n bwnc pwysig ac nid oes pobl yn siarad am y peth.

Roedd dros blwyddyn wedi mynd heb i mi fynd allan i glybiau ag ati, ac roeddwn i heb cyffwrdd ag alcohol chwaith yn y cyfnod yma. Roeddwn i’n teimlo’n unig ac yn annormal o ganlyniad i hyn. Penderfynais bod e’n hen bryd i mi rhoi cynnig ar fynd allan gyda ffrindiau, ond roeddwn i am fentro gwneud hyn heb alcohol felly fe wnes i gyrru fy ffrindiau bron awr i Aberystwyth i’r Gwobrau Selar. Doedden i ddim yn y gig am sbel o gwbl, achos ges i breakdown gwael tua 10:00y.h o beth fi’n cofio, felly roeddwn i adre cyn 1 o’r gloch.

Y peth anoddach yw treual darganfod beth yw bywyd ‘normal’ yr oedran yma, mae pawb o amgylch fi yn edrych fel bod bywydau nhw’n berffaith… mynd allan i fwynhau o leiaf unwaith yr wythnos allan yn y clybiau nos. Mae fy ffrindiau yn y brifysgol, ac felly pan mae nhw’n dod adref, fi’n teimlo fel bod angen i mi fynd allan i joio gyda nhw, ond mae gwybod faint i yfed yn sialens fawr. Rwy’n teimlo’n bryderus iawn os nad ydw i’n yfed digon, ond os fi’n yfed un yn ormod, mae’r noson yn cael ei sbwylo gan fy mod i’n cael breakdown neu hyd yn oed panic attack yng nghanol y clwb.

Rwy’n gorfeddwl llawer, fel “ydyn nhw’n meddwl bod fi’n dwp yn mynd adref mor gynnar?” ac yn gorfeddwl beth mae pobl yn meddwl ohona i yn llefen bob noson allan. Yr ail tro es i allan (Ebrill) fe wnes i yfed, ond roedd mam wedi gorfod dod i hol fi cyn 12 o’r gloch. Y trydydd tro (Hydref) es i adref gyda fy ffrind oedd yn gyrru am tua 1 o’r gloch, a’r 4ydd gwaith (Tachwedd) fe wnes i ffonio mam i ddod i hol fi am 2:30 y bore o Aberystwyth, sydd tua 50 munud i ffwrdd.

Dros y Nadolig, fe es i allan sawl gwaith, i bartis Nadolig, nosweithiau gwyl y banc ag ati, ac roedd llawer o’r nosweithiau yna wedi dod i ben i mi tua 12/1 o’r gloch achos doedden i ddim yn medru ‘copo’ gyda bod mas. Os nad oeddwn i’n yfed digon, roeddwn i’n teimlo’n bryderus iawn, yn meddwl bod pawb yn edrych arna i, ac roeddwn i’n becso beth roedd pobl yn dweud amdana i.

Y fwyaf o’n i’n yfed, y gorau o’n i’n teimlo… tan bod yr iselder yn cymryd drosodd. Unwaith roedd yr iselder yn bwrw fi (a gall hyn ddigwydd unrhyw bryd ac am ddim rheswm yn benodol) doedd dim bydd allen i wneud i stopio’r ddagrau llifo, a’r gorfeddwl i ddod i ben. Pan ma hyn yn digwydd, fi jyst eisiau mynd adref ac unwaith mae fy meddwl ar fynd adref, does dim gobaith newid meddwl fi. Mae sawl gwaith lle mae Mam wedi gorfod dod i hol fi o rhywle rhwng 1 a 3 o’r gloch y bore, hyd yn oed os roedden i fod i aros gyda ffrind dros nos.

Aeth cwpwl o fisoedd heibio, a roeddwn i’n dechrau teimlo’n well yn fy hun, dim llawer, ond digon i wneud i fi eisiau fynd allan gyda fy ffrindiau yng Nghaerdydd i wylio Cymru V Ffrainc yng ngemau’r Chwe Gwlad, ac aros yn nhŷ fy ffrind. Ges i gwpwl o beints ar y tren ar y ffordd lawr tua 10y.b, ac yna fe wnes i yfed eto am tua 3y.p. Tua 7:30, roedden i wedi cael breakdown ac unwaith sylweddolais bod y trenau dal yn rhedeg, roedd fy meddwl i ar fynd adref, doedd dim opsiwn arall. Felly er bod lle gyda fi i aros yn y dinas, roedd dal rhaid i fi fynd adref (dros 2 awr o deithio).

Fi’n deall bod mynd ‘out on the piss’ ddim yn popeth mewn bywyd, ond yr oedran yma, na gyd ti’n gweld dros Facebook, Instagram, Snapchat… ac roeddwn i’n arfer joio mynd allan gyda’r merched cyn cael problemau iechyd meddwl. Fi’n teimlo fel fy mod i’n colli allan yn gwylio’r holl fideos a gweld yr holl luniau o pawb allan yn joio, a dydy e ddim yn deimlad dda o gwbl. Ar yr un pryd, os fi’n mynd allan, fi’n gwario llawer o arian ar fynd mewn i glybiau, ar alcohol ac am ba reswm… i deimlo’n hollol crap am fy hun y noson honno, ac i deimlo’n uffernol o isel y diwrnod wedyn?

Fi’n teimlo fel fi jyst ffaelu ennill… os nad ydw i’n yfed, fi’n teimlo’n bryderus iawn, ac os fi yn yfed, fi’n teimlo’n isel ofnadwy ar ôl dipyn o amser. Beth ydw i fod i wneud? Beth yw ‘limit’ fi? Os ‘limit’ i gael gyda fi neu ife fel hyn mae fy mywyd nawr? Dwi ddim yn gallu dychmygu fel bydd fy nyfodol o ran yr holl partis-plu, priodasau, penblwyddi mawr, ond rwy’n gobeithio alla i ddod i fwynhau fynd allan eto, boed gyda alchol neu heb alcohol.

Dwi ddim eisiau poeni am beth mae pobl yn meddwl amdana i, a meddwl bod pawb yn edrych arna i trwy’r amser.

Un peth fi yn siwr ohono, yw bod e’n mynd i gymryd amser i fi gyrraedd y lefel yna o hapusrwydd a hyder o fewn fy hun.

Yn y cyfamser, rwy’n hapus i fod yn glust i unrhyw un sydd yn mynd drwy’r un problemau â fi.

Hannah Catrina Davies

Blog:  ‘Dianc meddwl fy hun’

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb