Fy neuddeg mis o golled – Becky Williams

Becky

Galar yw’r cyflwr emosiynol poenus y byddwn ni i gyd yn dod ar ei draws ar ryw bwynt yn ein bywydau, ond rydym ni fel cymdeithas yn hynod gyndyn i’w drafod. Mae hyn yn golygu bod pobl yn hollol amharod i ddelio â her emosiynol galar y mae’n rhaid i ni ddioddef pan fydd rhywun rydym yn caru’n marw. 14 oed oeddwn i pan brofais alar am y tro cyntaf, pan fu farw fy nhad o felanoma malaen (Malignant Melanoma). Bryd hynny, ar ddechrau’r glasoed, anghyfleuster oedd fy ngalar. Roedd yn bygwth fy stopio rhag mynd ar ôl bechgyn a mynd allan gyda ffrindiau, felly fe’i rhoiais i’r neilltu i barhau â fy mywyd. Yn 20 oed, dechreuodd fy iechyd meddwl ddioddef a daeth yn amlwg fy mod yn profi galar gohiriedig (delayed grief). Es i at y GP a wnaeth fy nghyfeirio at gwnsela, ac ar ôl i mi weithio drwy fy ngalar gyda seicolegydd roeddwn i’n gallu symud ymlaen.

Pan gafodd fy ngŵr Irfon ddiagnosis o ganser datblygedig y coluddyn yn 2014, roedd fel petai’r byd wedi dod i ben. Ro’n i’n wraig weddw yn 37 oed pan fu farw Irfon ar 30 Mai 2017. Dim ond 46 oedd o. Yn Dad i bump, mae gennym ddau fab gyda’n gilydd – Sion sy’n 9 oed ac Ianto sy’n 7. Wrth i mi edrych yn ôl ar fy mhrofiad cynt o alar, roeddwn i’n benderfynol i wynebu fy ngalar ac yn gwybod ei fod yn hanfodol i mi gefnogi fy mhlant yn eu galar hefyd, er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posib.

Roedd y dyddiau cyntaf ar ôl i Irfon farw yn frithgof, ond yr hyn dwi’n gallu cofio yw teimlo fel petawn i’n sefyll yn stond â’r byd yn parhau o fy amgylch.

Roeddwn i’n ddideimlad. Yna daeth yr angladd ac roedd y bechgyn yn awyddus i ddychwelyd i’r ysgol. Fel mam, fy mlaenoriaeth oedd sicrhau y byddai fy mhlant yn iawn. Ar ôl i’n byd gael ei droi wyneb i waered, roeddwn i’n gwybod nawr mai fy rôl i, yn fwy nag erioed, oedd sicrhau cysondeb yn eu trefn ddyddiol, ffiniau, llwyth o gariad a phobl roeddent yn eu caru o’u hamgylch. Roedd y misoedd cyntaf yn heriol iawn. Doedd gen i ddim egni corfforol a threuliais bob dydd yn y gwely wedi fy llethu â thristwch tra’r oedd fy ymennydd yn ceisio prosesu’r newid byd enfawr ac ysgubol hwn. Byddwn i’n mynd â’r bechgyn i’r ysgol ac yna’n mynd nôl i’r gwely tan oedd hi’n amser eu casglu. Roedd hi’n glir i mi y dylai’r ychydig o egni oedd gen i gael ei gadw at anghenion a threfn ddyddiol y bechgyn, ac felly penderfynais beidio ag ateb y drws i ymwelwyr.

Yn ystod y dyddiau, wythnosau a misoedd cyntaf, roedd hi’n anodd iawn i ganolbwyntio, roedd fy meddyliau i gyd am Irfon ac asesu’r sefyllfa newydd hon ro’n i ynddi. Ro’n i’n ofni’r dyfodol ac roedd hi’n anodd gweld sut gallwn ddod o hyd i ffordd allan o’r boen ro’n i’n ei brofi. Ro’n i mor bell fy meddwl, byddwn i’n gweld pobl yn siarad â fi ac yn sylweddoli nad oeddwn wedi clywed gair. Roedd cysgu yn ystod y nos yn her enfawr, byddai’n anodd i mi gwympo i gysgu ac unwaith i mi gysgu byddwn yn cael breuddwydion byw fod Irfon o hyd yn fyw ac yn iawn. Byddwn i’n deffro’n sydyn mewn panig: byddai’n cymryd rhai eiliadau i sylweddoli mai breuddwyd oedd hi, a byddai’r galar yn dod yn ei ôl fel dwrn yn fy ngwyneb.

Dwi’n credu bod y rhan fwyaf ohonom yn credu bod galar yn dristwch parhaus, ac nid yr holl ystod o emosiynau sydd ynghlwm. Unwaith i’r numbness ddechrau diflannu, ro’n i’n bryderus iawn ac yn dechrau poeni am ddiogelwch. Ro’n i’n poeni y byddai rhywbeth erchyll yn digwydd i’r hogiau, pe nad oeddent efo fi. Byddwn i’n codi sawl gwaith yn ystod y nos i wirio bod y drysau a’r ffenestri ar gau yn y tŷ. Ar adegau, teimlais fel mod i’n mynd yn wallgof. Roedd yr hogiau hefyd yn cael trafferth â’r drefn newydd amser gwely gan mai Irfon oedd yn darllen stori iddyn nhw, felly daeth amser gwely yn anodd o ran galar.

Becky gyda’r hogia mewn gêm bêl-droed

Wrth i amser fynd yn ei flaen, dechreuodd fy lefelau egni godi a byddwn yn treulio cyfnodau o amser yn eistedd yn yr ardd, ac ro’n i’n gallu derbyn ymweliadau gan ffrindiau. Dechreuodd y numbness ddiflannu, dechreuodd y tristwch llethol godi ac yn ei le daeth emosiynau newydd. Dwi’n cofio un bore Sadwrn yn cael trafferth rhoi esgidiau pêl droed Ianto arno wrth baratoi am gêm. Teimlais y dicter yn codi ynof – ‘Irfon ddylai fod yn gwneud hyn, pam ei fod wedi marw, pam ni?!’. Adeg arall, dwi’n cofio ceisio tynnu’r peiriant torri gwair o’r garej ac yna eistedd ar y llawr â dagrau’n disgyn.

Wrth i’r Haf ddechrau, daeth mwy o heriau i’m plith, gyda cherrig milltir fel penblwyddi teuluol a mynd ar wyliau am y tro cyntaf heb Irfon. Yn aml, mae pobl sy’n galaru’n clywed ‘Y tro cyntaf am bopeth yw’r anoddaf’. Ond o fy mhrofiad i, dwi ddim yn credu fod hyn yn wir. Ro’n i’n ddideimlad yn ystod y flwyddyn gyntaf, jyst yn mynd trwy’r motions fel petai, yn enwedig ar gyfer yr hogiau. Ceisiom gadw at y drefn arferol o wneud ffỳs dros benblwyddi, a chedwais eiriau Irfon yn fy meddwl wrth i mi chwythu fy nghanhwyllau pen-blwydd gyda’r hogia’n gwylio: ‘Dathla fynd yn hŷn, nid pawb sy’n cael y cyfle i’w wneud’.

Trodd yr Haf yn Hydref, ac roedd hi’n amser dychwelyd i’r ysgol. Dwi’n credu’n gryf fod gan yr ysgol rôl enfawr wrth gefnogi plant sy’n galaru gan fod plant yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yno. Mae ysgol y bechgyn wedi bod yn hynod o gefnogol, diolch byth, felly roedd y broses o ddychwelyd i’r ysgol yn un hawdd iawn. Erbyn hyn, roedd y plant wedi bod yn gweld seicolegydd yn rheolaidd. Teimlais ei fod yn bwysig eu bod yn cael lle a pherson gwahanol i siarad â nhw. Credaf fod hyn wedi bod o fudd mawr iddyn nhw a dechreuon nhw deimlo’n ddiogel yn eu byd unwaith eto. Fel Mam, roedd gweld hyn yn arbennig. Dwi’n cofio sawl adeg lle’r oeddwn yn fy nagrau mewn rhyddhad, hapusrwydd a balchder wrth eu gwylio’n chwerthin ac yn gwenu’n ddiniwed – ‘’Da ni’n ei ‘neud o, ‘da ni’n goroesi!

Un peth roeddwn i ac Irfon wastad yn glir iawn amdano oedd bod yn onest â’r plant. Yn ystod salwch Irfon, roeddem bob amser yn onest â nhw er eu bod yn ifanc ac yn ystod wythnosau diwethaf Irfon, roeddent yn ymwybodol ei fod yn marw. Dwi’n credu bod y gonestrwydd hwn, er ei fod yn hollol ofnadwy iddyn nhw, wedi bod yn fuddiol iddyn nhw yn y pen draw. Roeddent mor barod â phosibl ar gyfer marwolaeth Irfon. Cawsant y cyfle i ddweud Hwyl Fawr i’w tad, a rŵan maen nhw’n fwy sicr eu bod bob amser yn gwybod yr hyn sy’n mynd ymlaen. Dwi wedi annog y plant i grio a dwi’n cofio teimlo’n ddig ag un ymwelydd i’r tŷ a ddywedodd wrthynt yn ddifeddwl, ‘peidiwch â chrio, byddwch yn fechgyn mawr i Mam’. Dwi hefyd yn credu ei fod yn bwysig i’r bechgyn fy ngweld i’n crio a thrwy hynny, maent wedi dysgu i beidio â theimlo’n lletchwith neu’n ofn tristwch. Rydym ni fel teulu bellach yn gallu adnabod yr emosiwn a delio efo fo’n gyfforddus.

Daeth y Nadolig, a doedd o ddim mor wael â’r disgwyl. Dwi’n credu mai’r cyfnod cyn y dyddiadau hyn sy’n anoddach na’r digwyddiad ei hun. Dwi’n cofio teimlo’n ofn iawn fy mod yn mynd i gael fy llethu gan alar ac felly’n methu gwneud y dydd yn arbennig i’r bechgyn. Daeth y ddau set o Neiniau a Theidiau draw i ginio ac efallai wrth edrych arnom y byddai wedi edrych fel sawl golygfa hapus dros y wlad, ond i ni roedd hi’n hynod amlwg bod un gadair yn wag.

Yn y Gwanwyn, es i nôl i’r gwaith. Roedd hyn yn her gan fod Irfon a finnau wedi gweithio gyda’n gilydd, felly dyma sefyllfa arall lle’r oeddwn yn teimlo’r golled a’r galar poenus. Ar ôl rhai wythnosau o ddyfalbarhad, tawelodd y don galar mwyaf diweddar ac roedd bod nôl yn y gwaith yn gymorth. Helpodd i mi ailgydio yn fy ymdeimlad o hunaniaeth. Yma, ‘Becky’r nyrs’ oeddwn i, nid ‘Becky’r wraig weddw’. Teimlais fy hyder yn dychwelyd, a oedd yn rhoi gobaith i mi. Erbyn hyn roedd y tonnau o alar yn dod yn llai aml, ac roedd bywyd o ddydd i ddydd yn teimlo’n haws i’w reoli. Pan oedd ton o alar yn fy mwrw, byddai o hyd yn gallu fy llethu. Roedd hyn yn anghyfleus ac yn siomedig, ond dysgais eu bod yn dod i ben.

Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuais gwrs ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) – roeddwn am ddod o hyd i rywbeth i’w ddefnyddio i helpu’r gorbryder parhaus oedd wedi fy mhoenydio ers marwolaeth Irfon. Dechreuais boeni hefyd am iechyd a marwolaeth fy hun – beth os ydw i’n cael canser, beth fyddai’n digwydd i’r bechgyn? Dwi wedi ffeindio ymwybyddiaeth ofalgar yn fuddiol iawn, mae’n fy nghadw i’n y presennol, a dwi lawer fwy ymwybodol o ‘nghyflwr emosiynol. Nid yw’n golygu atal emosiwn anodd, ond adnabod yr emosiwn am yr hyn ydi o, a’i deimlo.

Cyn hir, roedd hi’n flwyddyn ers marwolaeth Irfon. Wrth i’r dyddiad nesáu, roedd hi’n teimlo fel cyfle i edrych yn ôl ar ba mor bell oeddem ni wedi dod mewn cyfnod mor fyr. Rydym nawr mewn lle, yn emosiynol, oedd mor anodd dychmygu ei gyrraedd yn ystod y dyddiau cynnar o boen a thristwch dwys. Nid yw’n llethol mwyach, a mi fedrwn ni chwerthin a chael hwyl, ond yn bwysicach, rydyn ni wedi dysgu i deimlo’r galar a’i dderbyn. Rydym wedi dysgu na fydd y galar hwn byth yn ein gadael, mae bellach yn rhan ohonom am byth. Does dim pen i’r daith galar i’w chyrraedd, rydym nawr yn byw bywyd gwahanol gyda’r galar. Teimlais ryddhad enfawr pan sylweddolais fy mod yn gallu teimlo’n ddiolchgar. Yn ddiolchgar am gael ein Irfon arbennig yn ein bywydau: a thra ein bod ni’n dal i siarad amdano, fel yr ydym ni bob dydd, bydd yn aros yn fyw. Bydd y cariad enfawr y dangosom at ein gilydd bob amser gyda ni, gan nad yw cariad byth yn marw.

Becky Williams

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb