Fy mhrofiad o hunan-niweidio

RHYBUDD: Darllenwch gyda gofal gan fod y blog hwn yn trafod hunan-niweidio. Cysylltwch gyda’ch meddyg teulu i gael cymorth, ac os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7pm-11pm; llinell Saesneg: 116 123, 24/7), neu’r gwasanaethau brys ar 999. Gallai’r tudalennau hyn fod o gymorth yn ogystal: CymorthTechnegau ymdopi gyda hunan-niweidio. 


Roeddwn i’n 16 oed pan niweidiais fy hun yn fwriadol am y tro cyntaf. Noson cyn arholiad TGAU a minnau’n teimlo’r pwysau anferth arnaf ac yn llawn ofn fy mod am fethu, neu nad oeddwn am wneud yn ddigon da.

Roeddwn i’n teimlo dan gymaint o straen, a fu’n cynyddu ers rai misoedd, ond ni wyddwn sut i gael gwared ohono.

Dw’i ddim yn gwybod o ble daeth y syniad i niweidio fy hun y tro cyntaf hwnnw. Mae’n bosib i mi ddarllen amdano mewn cylchgrawn neu ar y we. Yn sicr, nid wrth fy nghyfoedion y clywais am hunan-niweidio. Doedd pynciau mor ddwys â salwch meddwl byth yn codi yn ein sgyrsiau arwynebol.

Yr eiliad y niweidiais fy hun y tro cyntaf, teimlais ryddhad anferth. Rhyddhad o’r straen a’r pwysau a fu’n cynyddu ers misoedd. Ond, ni pharhaodd y rhyddhad am hir. Teimlais gywilydd, euogrwydd, ac ofn am yr hyn yr oeddwn wedi ei wneud.

Mae rhywfaint o wirionedd i’r syniad fod pobl yn niweidio eu hunain er mwyn cael sylw. Roeddwn i’n ysu i rywun i sylwi ar y marciau a sylweddoli nad oeddwn i’n iawn. Doedd gen i ddim y geiriau na’r cryfder i ofyn am gymorth. Dyna oedd fy ngalwad i am help.

Datblygodd y niweidio yn gaethiwed…

Yn raddol, datblygodd y niweidio yn gaethiwed. Roeddwn i’n meddwl amdano bob munud o bob diwrnod. Roedd popeth roeddwn i’n ei weld yn arf; roeddwn i’n dychmygu sut gallwn i niweidio fy hun gyda’r gwrthrych hwnnw. Roeddwn yn niweidio sawl gwaith bob dydd. Hyd yn oed ar ddiwrnod da. Doeddwn i methu peidio â gwneud. Roedd yr ysfa mor gryf. Rwy’n cofio dyheu am gael cyrraedd adref er mwyn cau’r drws ar y byd a niweidio fy hun. Doeddwn i ddim yn teimlo’n iawn oni bai fy mod yn niweidio.

Straen arholiadau a gwaith ysgol oedd y prif reswm i’r niweidio, i ddechrau. Roeddwn i’n ysu i gyrraedd lefel afrealistig o berffeithrwydd, ond roeddwn hefyd yn ymwybodol na allwn i fyth gyrraedd y lefel hwnnw. Doedd beth bynnag roeddwn i’n ei wneud ddim yn ddigon da i mi. Wedi i mi orffen yn yr ysgol, mi wellodd y niweidio yn sylweddol. Nid oedd yr ysfa mor gryf, ac roeddwn i’n hapusach fy myd yn gyffredinol.

Roedd y cyfnod hwnnw flynyddoedd yn ôl bellach, ond mae hunan-niweidio yn rhywbeth rwy’n dal i ymdopi ag ef o hyd. Er nad wyf yn teimlo’n gaeth i niweidio fy hun nawr, mae’r ysfa a’r meddyliau i wneud yno yn aml. Weithiau, gallaf anwybyddu’r ysfa, ond weithiau mae’n rhy gryf ac rwy’n ildio. Pan fo’r ysfa yn gryf ni allaf ganolbwyntio ar wneud unrhyw beth arall.

Gan amlaf, mae rheswm i’r ysfa; pryder, straen, euogrwydd, rhwystredigaeth, iselder. Ond weithiau, mae’r ysfa yn gryf heb fod unrhyw reswm amlwg.

Mae’n gylch dieflig…

Yr eiliad rwy’n niweidio mae popeth yn llonydd. Mae’r meddyliau yn cilio a chaf seibiant o’r holl dwrw sydd yn fy mhen. Ond, yna, mae’r teimladau roeddwn i’n ceisio dianc oddi wrthynt yn dechrau dychwelyd, yn ogystal ag euogrwydd, cywilydd a rhwystredigaeth am ildio i’r demtasiwn a’r ysfa. Mae’n gylch dieflig o niweidio i geisio ymdopi â theimladau anodd, ac mae’r teimladau hynny’n gwaethygu ar ôl gwneud.

Nid yw’n gwneud synnwyr i mi pam fod niweidio fy hun yn gwneud i mi deimlo’n well. Nid wyf yn deall pam mai dyna’r peth cyntaf y meddyliaf amdano pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le. Sut y gallaf geisio gwella o’r hyn nad wyf yn ei ddeall?

Mae gen i gywilydd am hyn. Cywilydd na allaf ymdopi heb niweidio fy hun. Teimlaf y dylwn fedru ymdopi mewn ffordd mwy cadarnhaol.

Rwy’n lwcus nad oes gen i greithiau amlwg, yn lwcus na niweidiais fy hun i’r graddau fod angen pwythau, ac yn lwcus na chefais fy heintio. Yn eironig, rwy’n hynod o ofalus wrth niweidio i osgoi haint. Nid wyf yn niweidio fy hun i’r fath raddau fy mod yn peryglu fy mywyd. Does dim cysylltiad rhwng hunan-niweidio a hunanladdiad; mae niweidio yn ffordd o ymdopi er mwyn medru byw.

Rwy’n gwybod nad yw creu niwed corfforol yn ffordd iach i ymdopi â phoen meddyliol, ond mae’n gaethiwed, ac am rai eiliadau, yn ddihangfa.


Dyma ychydig o gyngor sydd gen i i ymateb i rywun sy’n hunan-niweidio:

Os oes rhywun yn dweud wrthoch eu bod yn hunan-niweidio…

  • peidiwch â chynhyrfu, er efallai bod hyn yn sioc i chi
  • peidiwch â mynnu na gofyn i’r person roi’r gorau i wneud. Gallai hynny ychwanegu at yr euogrwydd maen nhw eisoes yn ei deimlo
  • peidiwch â mynd â’r gwrthrych maen nhw’n ei ddefnyddio oddi arnynt. Gallant geisio defnyddio rhywbeth sydd hyd yn oed yn fwy peryglus. Nid yw mynd â’r gwrthrych yn cael gwared â’r ysfa i niweidio
  • peidiwch â’u beirniadu. Efallai nad yw hyn yn gwneud synnwyr i chi – mae’n debygol nad yw’n gwneud synnwyr iddynt hwy chwaith
  • peidiwch â gofyn i gael gweld y clwyf, a pheidiwch ag edrych ar eu cyrff i chwilio am arwyddion

Yn hytrach…

  • gwrandewch. Nid oes rhaid i chi wybod beth i’w ddweud. Gadewch iddynt wybod eich bod yna i wrando ac nad ydych yn eu beirniadu
  • cynigiwch eu helpu i gael cymorth proffesiynol
  • canolbwyntiwch ar y boen feddyliol yn hytrach na’r clwyf corfforol.

Dienw


Er gall ymddangos yn anodd neu’n amhosibl rhoi’r gorau i hunan-niweidio, gyda chymorth gall fod yn bosibl.

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’r Samariaid (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7pm-11pm; llinell Saesneg: 116 123, 24/7), neu’r gwasanaethau brys ar 999.

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb