Fifty Shades o Anxiety

Cyn i chi ddechra’ meddwl, na dydi y blog yma ddim yn cynnwys llunia’ o ddynion hanner noeth aballu. Pan dwi’n deud fifty shades o anxiety dwi’n ei feddwl o bach fwy llythrennol.

Dwi’n cofio pan oni’n form one, mashwr fod rhai ‘ona chi hefyd yn cofio, gorfod sgetcho shades o ddu a gwyn yn mynd o tywyll i gola’. A pan oni’n trio meddwl am be i ‘sgwennu am nesa’ neshi feddwl, ma’ anxiety fel shades gwahanol. Tydi anxiety ddim yn un shade, be dwi’n feddwl ydi, mae o’n wahanol i bawb gan fod profiad pawb gyda anxiety yn bersonol iddyn nhw. Er hyn dwi’n meddwl fod yna dri shade basic a all pawb uniaethu efo sy’n egluro anxiety mewn ffordd. Mae’n anodd egluro a mynegi be ydi anxiety yn dechnegol, felly wrth egluro drw’ shades gwahanol, efallai allai roi goleuni ar be all anxiety fod i rhai ohonoch sydd yn chwilio am ystyr o rhywfath.

Darllen rhagor o flog Peth meddal di’r meddwl