Effaith dechrau’r brifysgol ar bobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl: fy stori i

Yn dechrau yn y brifysgol, o’n i’n ferch 18 oed, yn syth allan o’r chweched dosbarth ac yn edrych ymlaen i ddechrau bywyd newydd, mewn dinas newydd a gyda phobl newydd.

O’n i’n llawn addewidion. “Hwn fydd dy wneud di”, “Bydd bywyd Prifysgol y tair blynedd orau o’ch bywyd”, “Byddwch yn oedolyn annibynnol o’r diwedd – diolch byth”. O’n i’n ddigon diniwed i gredu’r addewidion hyn ac yn credu bysai mynd i brifysgol yn allwedd i droi fy hunan mewn i berson hollol newydd a gadael fi ddechrau eto – rhywbeth o’n i eisiau ac angen yn daer.

Ers amser hir, o’n i wedi bod yn struglo gyda phroblemau iechyd meddwl sylweddol yn cynnwys gorbryder, iselder ac anhwylder bwyta. Roedd y daith trwy ysgol a Lefel A yn anodd ac o’n i wedi treulio jyst llai na blwyddyn mewn therapi. Rhaid cyfaddef, o’n i’n neud yn dda. Ond, wrth edrych yn ôl fi’n meddwl efallai o’n i wedi perswadio fy hun o’n i’n well na’r realiti, a bod y dechrau newydd wedi golygu bydd dim angen cael therapi o gwbl.

Wedi’r cyfan, o’n i nawr yn ‘oedolyn annibynnol a dydi oedolyn annibynnol ddim angen therapi’, dywedais i fy hunan.

Fodd bynnag, yn fuan ar ôl dechrau’r cwrs o’n i wedi sylweddoli nad oedd pethau mor syml â hynny. Yn gyfrifol am gynllunio a chreu fy mhrydau bwyd fy hun ar ôl treulio y blynyddoedd ddiweddaf o dan oruchwyliaeth ac weithiau cael fy ngorfodi i fwyta, o’n i’n teimlo’n rhydd a gyda’r rhyddid daeth restriction. Mewn amser byr, o’n i wedi hollol ail-waelu yn fy anhwylder bwyta ac oedd fy ngorbryder ac iselder yn waeth nag erioed. Ond, am ryw rheswm, y tro hwn do’n i ddim yn teimlo bod modd i mi siarad allan. Pam? Achos y gred o’n i’n annibynnol, o’n i’n oedolyn sy’n dechrau bywyd newydd. O’n i wedi gadael fy hen system gymorth y tu ôl ac wedi symud ymlaen. Roedd y syniad o ofyn am help yn llawn siom ac wedi gwneud imi deimlo do’n i ddim yn ‘gwneud bywyd prifysgol yn y ffordd gywir’ – y ffordd y dylwn i neud e.

Cyn hir o’n i wedi cyrraedd y pwynt lle doedd dim ‘da fi y gallu i wneud pethau bob dydd ac wedi colli’r gallu i guddio pa mor sâl o’n i. Yn ffodus fi’n perthyn i adran fach yn y brifysgol lle mae’r staff mor gefnogol a thrwy gydol fy amser yn y brifysgol wedi gwneud unrhyw beth yn eu grym i fy helpu yn academaidd ond hefyd i fy nghalonogi a chefnogi. Dw i hefyd wedi ffurfio rhai o’r cyfeillgarwch gorau gyda phobl sydd ddim yn unig wedi rhoi’r atgofion gorau imi ond sydd hefyd, weithiau wedi achub bywyd fi.

Pe bawn i wedi gwrando ar y llais bach yn fy mhen ac wedi peidio dweud dim byd oherwydd yr ofn cael fy meirniadu neu ddim yn ymddangos yn ddigon annibynnol, os na fyswn i wedi siarad allan ac wedi gofyn am help, er gwaethaf fy nghywilydd fyddwn i ddim erioed wedi dod o hyd i’r gefnogaeth honno ac i fod yn hollol onest, dydw i ddim yn gwybod sut byddwn i bron wedi gorffen tair mlynedd yn y brifysgol.

Y dyddiau hyn mae ‘na ormod o bwysau yn cael ei roi ar bobl ifanc i dyfu fyny ac edrych ar ôl eu hunain, yn enwedig wrth wneud y trosglwyddad i’r brifysgol, sy’n gallu, fel yn fy achos, i annog pobl i gadw’n dawel am eu phroblemau ar adeg pan mae llawer o bobl ifanc yn teimlo eu bod angen y cymorth mwyaf. Does dim ots ym mha sefyllfa neu beth ydych chi’n meddwl dylech chi fod yn gwneud, gwrandewch ar eich corff a’ch meddwl. Os ydych chi’n teimlo fel bod chi angen help plîs gofynnwch, gallai hynny achub eich bywyd.

Mae’n iawn i siarad allan ac mae’n iawn os dydych chi ddim yn iawn.


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb