Dryswch Bywyd – Glesni Williams

Pryd aeth pethau o’i le? Lle aeth pethau o’i le? Pan oeddwn i yn fy arddegau ac yn mwynhau bywyd ac yn poeni’n unig am bres i fynd allan – nes i erioed feddwl mai fel hyn byddai fy mywyd yn troi allan.

Yn blentyn, roeddwn i’n dychmygu bod y dyfodol a bywyd oedolyn yn naturiol yn arwain at bethau “normal” – setlo mewn cartref, efallai byw efo partner neu briodi, rhai yn cael plant ac eraill ddim, bywyd gwaith, gwyliau haf. Roeddwn i’n meddwl mai fel hyn oedd pethau i fod a bod ‘na riw ‘ganllaw’ mewn lle i bobl ei ddilyn er mwyn cyrraedd y ‘normal’ yma. Ond tydw i heb ddod ar draws y canllaw hwnnw a mae fy  mywyd i ar drywydd gwahanol.

Mae fy mhen yn ddryslyd pan dwi’n trio meddwl yn ôl at pryd newidiodd pethau. Pryd nes i newid o fod yn hapus ac yn barod i wneud unrhyw beth i fod y person ydw i rwan? Sut gall un person newid gymaint?

Dwi’n ddyddiol yn byw mewn ofn – ofn newid, ofn pechu pobl, ofn dros eraill, ofn peidio bod digon da, ofn bod yn faich, ofn methu, ofn y dyfodol. Doeddwn i ddim yn arfer bod fel hyn a nes i erioed ddychmygu y byddwn i fel hyn chwaith. Sut nes i adael i bethau fynd mor ddrwg? Ydw i gymaint â hynny o fethiant? Dyna sut mae’n teimlo pob eiliad o’r dydd.

Dwi’n edrych ar bobl o fy nghwmpas a’u edmygu am yr holl bethau maent wedi ei gyflawni. Dwi mor falch a hapus dros fy ffrindiau annwyl sydd wedi creu teulu eu hunain ac yn llwyddo mewn gyrfa – mae’n dod a hapusrwydd llwyr i mi. Ond hapusrwydd dros rywun arall ydi hynny. Mae hapusrwydd mewnol yn wahanol. Fedra’i fod yn hapus a balch ar y tu allan ond mae fy hapusrwydd mewnol am fi fy hun yn dwll tywyll a twfn. Mae pobl yn dweud “Mae’n rhaid i ti fod yn hapus efo ti dy hun er mwyn medru mwynhau bywyd” a “Dim ond ti fedrith wneud dy hun yn hapus”. Dwi’n clywed y geiriau a dwi’n eu deall, ond dydi fy meddwl ddim yn symud yn yr un ffordd.

Mae’n frwydr dyddiol i mi ymladd yr hyn sy’n mynd rownd a rownd yn fy mhen. Y llais negyddol yn sgrechian mod i ddim digon da a mod i ddim yn haeddu hapusrwydd. Y pwysau i ymddangos yn hapus ac yn gryf ar y tu allan, ond mewn gwirionedd dwi’n torri tu mewn. Yr euogrwydd o beidio bod yn hapus pan mae gennai ddigon o reswm i fod. Y baich o gario blynyddoedd o deimladau ac emosiynau.

Treuliais flynyddoedd yn brwydro yn erbyn fy hun ond dwi bellach wedi derbyn mai brwydro yr iselder ydw i. Dwi rwan yn derbyn mai salwch ydi o. Ond er bod hynny yn gam mawr, nid yw’n helpu dim ar yr hyn sydd yn fy mhen – mae’r teimladau, y lleisiau a’r casineb yn dal yno.

Dwi’n trio egluro i bobl sut beth ydi o, ond dwi’n blino ar fy hun yn ail-adrodd pethau felly dwi’n cilio o rannu efo eraill, rhag i mi fod yn faich ac yn niwsans.

Dwi ‘di gweithio a gweithio ar drio gwella. Dwi ‘di rhoi gymaint o ymdrech i mewn iddo ond dydi bobl rhan amlaf ddim yn gweld na sylweddoli yr ymdrech gan ei fod yn cael ei wneud yn fewnol – yn fewnol yn fy mhen ac yn llythrenol fewnol o fewn pedair wal fy nhŷ. Anaml y byddai’n rhannu fy nhrafferthion a fy nyddiau tywyll felly mae’n anodd i bobl weld yr ymdrech ac unrhyw welliant.

Dwi ar ben fy hun ond mae gennai bobl o fy nghwmpas.

Dwi’n unig mewn ystafell llawn bobl.

Dwi’n hapus ar y tu allan ond yn torri ar y tu mewn.

Dwi’n ymddiheuro am bethau sydd ddim angen i mi ymddiheuro amdanynt.

Dwi ofn gadael bobl i lawr felly dwi’n gwneud mwy o ymdrech i osgoi hynny ddigwydd.

Dwi ofn ymlacio rhag i bobl weld gwendid yndda i.

Dwi’n wan pan dylwn i fod yn gryf.

Dwi ofn gadael pobl i mewn rhag iddyn nhw fy ngadael.

Dwi’n disgwyl gormod ond yn derbyn dim yn ôl.

Dwi’n gyson wedi blino’n lân ond tydi cwsg yn lleddfu dim ar y boen meddyliol ac emosiynol. Mae fy meddwl yn ddryslyd sy’n gwneud fy mywyd yn ddryslyd. A dwi methu gweld ffordd allan.

Rhannu

Gadael Ymateb