Dod dros gyfnodau o hunan niweidio – Hywel Llŷr

*RHYBUDD CYNNWYS: Mae’r blog hwn yn sôn am hunan niweidio, a gall beri gofid i rai darllenwyr.*

Mae meddyliau am hunan-niweidio yn gallu bod yn gymhleth, brawychus ac anodd ei deall, ond mae’n rhywbeth mae llawer o bobl yn ei brofi.

Mae’r Samariaid yn dweud bod 1 o bob 10 galwad iddynt yn ymwneud â hunan-niweidio, ond yn aml iawn mae unigolion yn cuddio’r peth, sydd yn gallu bod yn beth peryg.

Os ydych chi’n cael teimladau am hunan-niweidio neu yn gwneud eisoes, cyngor y GIG yw siarad â’ch meddyg teulu.

Gallwch hefyd ffonio llinell Gymraeg y Samariaid am gymorth ar 0808 164 01234. Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ewch i https://meddwl.org/cymorth/Os ydych chi wedi niweidio’ch hunan ac angen sylw meddygol brys, y ffordd cyflymaf o gael cymorth yw ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.

 


Os nad ydych chi wedi mynd ati i hunan-niweidio, dwi’n siŵr ei bod hi’n anodd iawn deall pam fyddai rhywun yn gwneud hyn i’w hunain. Dwi wedi bod trwy gyfnod hir pan oeddwn i’n ifancach pan oedd hunan-niweidio bron yn rhywbeth dyddiol. Mae’n rhaid fy mod i wedi stopio hunan-niweidio ar ryw bwynt, ond dwi ddim yn cofio pryd, nac yn cofio gwneud unrhyw benderfyniad amlwg i ddweud, ‘reit, dwi’n stopio hyn’. Ond fe stopiodd. Rhywbryd. Ar ôl nifer o flynyddoedd.

Nes i fyth weld y doctor yn ystod y cyfnod hwn gwaetha’r modd, na gofyn am driniaeth. Doedd fy rhieni ddim yn gwybod, a dim ond ambell ffrind oedd yn ymwybodol. Doedd y niwed ddim yn wael i ddechrau, ond yn raddol aeth yn fwy difrifol. Dwi’n cofio un adeg ar ôl hunan-niweidio roedd rhaid i mi fynd adre o’r Ysgol achos bod patch o waed yn dechrau dangos trwy fy nillad. Dwedais i wrth neb, jyst mynd adre cyn i rywun sylwi.

Ar ôl hynny dechreuais gadw cit gyda fi, dressings ac ati, er mwyn gallu trin unrhyw glwyf oedd yn beryg o ddangos. Un noson, dwi’n cofio eistedd ar lawr mewn rhyw fath o trance, yn teimlo dim o’r boen, petawn i’n numb i’r byd real. Roedd y niwed y tro hynny’n boenus a chymerodd sbel i wella. Roedd rhaid i fi guddio fe, sy’n ddim yn beth hawdd i rywun sy’n astudio addysg gorfforol Lefel A ac sydd yn aml mewn siorts. Sylwodd rhai ar arwyddion corfforol o dro i dro, ond roedd wastad gyda fi rhyw stori digon convincing i’w roi heb gael cwestiynau pellach. Dwi dal yn gallu gweld y sgars o dro i dro er eu bod nhw’n olau iawn erbyn hyn. Doedd y syniad bod pobl sy’n hunan-niweidio yn gwneud hynny am sylw, ‘it’s a call for help’ ddim yn wir yn fy mhrofiad i. Nes i bopeth y gallwn i guddio’r niwed corfforol.

Roedd gwneud hyn yn rhywfaint o ryddhad o’r anguish roedd yn teimlo ar bob adeg arall. Doeddwn i ddim yn meddwl lot wrth wneud, roedd fy meddwl yn mynd yn eithaf numb i’r boen gorfforol. Dim ond ar ôl gwneud roedd y boen gorfforol yn dod. Roedd profi rhyw fath o boen corfforol yn creu distraction o’r boen feddyliol. Rhywbeth real, amlwg, i guddio’r poen yn fy mhen roedd tu hwnt i fy nghyrraedd.

Pryd ma’ gyda chi gwt, rydych yn gallu trin hynny, ond pan mae’r boen yn feddyliol mae’n teimlo allan o’ch cyrraedd, neu dyna oeddwn yn meddwl ar y pryd. Mewn gwirionedd mae sawl ffordd o helpu poen meddyliol ond roeddwn yn ifanc a doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi ar y pryd. Erbyn hyn dwi’n ymwybodol o sawl ffordd, ond mae dal miloedd o blant a phobl ifanc yn y sefyllfa roeddwn yn ffeindio fy hun ynddi a ddim yn gwybod ble i droi am gymorth. Mae angen addysgu nhw am y ffyrdd, fel nad oes miloedd yn niweidio a lladd eu hunain bob blwyddyn.

Tua 9 mlynedd yn ôl roeddwn i’n cael fy mwlio, ac fe ddechreuodd yr hunan-niweidio eto am gyfnod o rhai misoedd. Roeddwn yn teimlo casineb at fy hunan ac yn beio fy hunan am y bwlio, er nad oedd bai arna i o gwbl. Un peth oedd yn wahanol y tro hyn oedd fy mod yn gwbl agored am y peth gyda fy ngwraig.

Fe ddaeth yn obsesiwn, fel yr oedd o’r blaen. Roeddwn yn byw ar gyfer y teimlad o frifo fy hun, a pan nad oeddwn yn gwneud, dyna’r unig beth roeddwn yn meddwl amdano. Roeddwn mor isel ar adegau arall, yn llawn pryder ac yn agos at ddagrau drwy’r amser. Roeddwn yn chwilio am ffordd o deimlo llonyddwch. Dwi’n sylweddoli nawr nad hunan-niweidio oedd y ffordd gorau o gael hwn. Petawn i’n gwybod bryd hynny beth dwi’n gwybod nawr, baswn i wedi edrych am gymorth meddygol a throi at fudiadau fel y Samariaid. Pob tro byddwn i wedi gwneud, byddwn i’n reportio nol at fy ngwraig, fel o leiaf roedd rhywun yn gwybod, ac nad oedd yn adeiladu’n gyfrinach rhyngom. Fe wnaeth hyn helpu i leihau’r pŵer oedd gan y cymhelliant drosta i. Roedd hi’n hynod understanding am y peth, a dim ond cefnogaeth ges i o’r dechrau oll, a doedd hi ddim yn grac. Roedd hi’n ymwybodol o fy hanes o hunan-niweidio ac yn deall y rhesymau roeddwn i wedi rhoi o’r blaen am pam dwi’n gwneud. Roedd hi hefyd yn amlwg yn ymwybodol o fy sefyllfa gyda’r bwlio, ac yn deall fy mod wedi troi at rywbeth er mwyn ffeindio rhyddhad. Er, wrth reswm roedd hi’n poeni.

Roedd yr hunan-niweidio wedi bod yn rhan o deimladau am orffen fy mywyd pan oeddwn yn ifancach, ond doedd dim teimlad o hynny y tro hyn ac roeddwn yn awyddus i adael i fy ngwraig wybod hynny wrth gwrs, dyna un o’r rhesymau roeddwn eisiau bod yn gwbl agored.

Ni pharodd yr ail gyfnod o hunan-niweidio hanner mor hir â thro diwethaf, na digwydd mor aml. Ac unwaith eto, fade-io allan wnaeth yr arferiad, yn hytrach na bod yn benderfyniad amlwg i stopio, ond doedd y teimlad i wneud byth mor gryf y tro hyn. A dyna’r tro olaf iddo ddigwydd, a dydy e heb ddigwydd ers hynny.

Ambell waith dwi’n ffeindio fy hun yn ail-fyw’r cyfnodau yn fyr yn fy mhen ac yna’n cerdded off i wneud rywbeth arall. Dw’i ddim yn gwybod os byddaf yn gwneud eto mewn cyfnod o straen. Falle. Falle ddim. Gobeithio na fyddai.

Dw’i ddim am drio romanticeiddio hunan-niweidio, mae hwn yn gofnod onest o’r teimladau roeddwn yn teimlo. Dw’i eisiau i bobl ddeall, fel rydw i’n gwybod nawr, bod yna help ar gael, bod yna ffyrdd gwell o ddeilio gyda phethau pan mae popeth yn edrych yn ddiobaith. Nid hunan-niweidio yw’r ateb i’ch problemau, a bydd y teimladau yn dod yn ôl, efallai yn waeth oherwydd teimlad o euogrwydd ar ôl hunan-niweidio. Dydy hunan-niweidio ddim yn ateb y problemau sydd gennych yn eich bywyd, dim ond eu cuddio nhw dros dro.


Er gall ymddangos yn anodd neu’n amhosibl i roi’r gorau i hunan-niweidio, gyda chymorth, gall fod yn bosibl.

Gwybodaeth bellach am hunan-niweidio

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb