Diwedd cyfnod, dechrau gofidiau – Cadi Gwen

937B5819-AC39-41C7-82CE-250A2D6CF3E6 (1)Ro’n i’n caru bywyd prifysgol. Cael bod yn annibynnol, cael byw efo ffrindiau a chael gadael y tŷ heb gêm o 20 questions gan Dad! Ro’n i’n mwynhau’r gwaith hefyd (gan amlaf) a chael y cyfle i ddysgu gwybodaeth newydd a chymryd rhan mewn sawl trafodaeth ddiddorol mewn seminarau.

Ond mi newidiodd petha’ erbyn diwedd fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol. Y straen, yr ansicrwydd am be’ oedd i ddilyn, y pwysau ro’n i’n ei deimlo o orfod gwybod yn union beth o’n i am ei wneud ar ôl graddio. Fel un sy’n byw gyda chyflwr gor-bryder, doedd hyn ddim ond yn dwysau’r ymdeimlad yma o deimlo ar goll.

Yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio’r Gyfraith oeddwn i a phawb o’m hamgylch yn cyflwyno  ceisiadau i astudio’r LPC neu gwrs meistr yn y Gyfraith. Dwi’n cofio teimlo rhyw fath o obsesiwn gyda’r hyn yr oedd fy nghyfoedion a’m ffrindiau i yn meddwl ei wneud y flwyddyn nesa’, gan obeithio y basa hynny’n rhoi ryw hwb i mi wneud penderfyniad a sticio ato.

Y gwir ydy, doedd gen i ddim clem beth o’n i isio ei wneud ac oherwydd hyn mi wnes i ddechra’ teimlo’n anobethiol. Ro’n i’n rhoi straen ar fy mherthynas gyda’m ffrindiau a ‘nheulu ac yn colli fi fy hun. Mi wna’th ffrind agos i mi fy annog i fynd at y doctor i drafod sut o’n i’n teimlo, ac felly mi es i ar ôl wythnosau o osgoi mynd. Dwi mor falch i mi ymweld â’r doctor ar yr adeg honno gan i mi gael cymorth gwerthfawr iawn ganddo. Mi wnaethom ni’r penderfyniad y baswn i’n trio meddyginiaeth.

Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig dweud ‘na ‘trial and error’ ydi’r broses o drio meddyginiaeth ac mi gymerodd ychydig fisoedd i mi setlo a chael y dos cywir ar fy nghyfer i. Ond gyda meddyginiaeth a siarad gyda theulu a ffrindiau am fy nheimladau ro’n i’n araf yn dechrau teimlo’n fwy gobeithiol. Roedd lot o hyn yn ymwneud â thrio newid y disgwyliadau anghyraeddadwy yr o’n wedi’u gosod arnaf i fy hun a derbyn ei bod hi’n berffaith normal i deimlo fel yr o’n i.

Gyda help staff, ffrindiau, teulu ac ymarfer corff, mi wnes i raddio gyda LLB o Brifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf a dwi bellach yn gweithio ar wefan iechyd meddwl Cymraeg ar gyfer myfyrwyr. Dwi’n caru fy swydd ac mae mor braf gallu dweud hynny.

Mi fydda i’n dechrau ar gwrs PhD mewn Addysg ym Mangor ym mis Medi a dwi methu aros. Dwi’n teimlo o’r diwedd fy mod i wedi dod o hyd i rywbeth mae gen i wir ddiddordeb ynddo ac mae’n deimlad ffantastig.

Ma’ na gymaint o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma i wybod pa drywydd y mae eu bywyd nhw am ei gymryd. DOES DIM BRYS! Does dim cywilydd mewn cyfaddef nad ydach chi’n siŵr be’ dach chi eisiau ei wneud yn eich bywyd. Eich blaenoriaeth ydy chi a’ch iechyd meddwl!

Felly, os ydy hynny’n golygu trio amryw o swyddi gwahanol neu fynd ar drywydd cwbl wahanol i’r hyn y gwnaethoch chi ei hastudio, mae hynny’n berffaith iawn! Os ydych chi’n teimlo pwysau neu straen, siaradwch am y peth, ymchwiliwch i opsiynau gwahanol a chofiwch nad yw swydd yn golygu eich bod yn gaeth iddi am byth. Mae cymorth ar gael gan brifysgolion, maen nhw yno i helpu, felly defnyddiwch y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig! Ac yn bwysicaf un, edrychwch ar ôl eich hun.

Rhannu

Gadael Ymateb