Cymryd pob dydd fel mae’n dod

Cymryd pob dydd fel mae’n dod

Dwi’n teimlo mod i ddim yn ffitio mewn yn nunlla nac efo neb. Dwi’n bodoli ond ddim yn byw.

Be dwi isio neud? Be dwi isio bod – pwy dwi isio bod?

Dwi’n teimlo mod i wedi methu mewn bywyd.

Er mod i’n gwybod y dylwn i ddim, dwi’n aml yn cymharu fy hun i eraill. Ac mae hyn yn cnoi i ffwrdd arna i. Pam mod i heb gyflawni gymaint a rhai o’r bobl o nghwmpas? Ai fi sy’n dal fy hun yn ôl? Ond dal fy hun yn ôl o gyflawni be, dwn i ddim. Dwi hyd yn hyn heb ddarganfod be dwi isio mewn bywyd. Ac mae’r cwmwl tywyll ‘ma sydd uwch ym mhen i yn gwneud y dasg gymaint yn anoddach.

Mae gen i ffrindiau ac mae gen i deulu, a rheiny yn rhai da a dwi’n meddwl y byd ohonynt ac yn eu caru fwy na fedra’i ddeud. OND. Be ydi’r ‘ond’ yna? Dwi’n casau fy hun fod na ‘ond’. Pam mod i’n teimlo fel ydw’i, fel mod i ddim yn ddigon a fel mod i methu mynd mlaen dim mwy, pan mae gen i’r bobl arbennig ‘ma o nghwmpas?

Dwi’n casau teimlo felma. Pam na fedra’i “snap out of it” neu rhoi cic fyny nhîn? Ai dyna dwi angen? Ai fi sydd ddim yn trio digon? Dwi yn trio, coeliwch chi fi.

 

Dyddiau da, a dyddiau drwg

Mae cael diwrnod da yn grêt. Dwi’n cicio’n hun am feddwl ffasiwn bethau fel yr uchod ac weithia yn dychryn fy hun fod pethau yn medru edrych mor dywyll. Dwi’n medru chwerthin, mwynhau ffilm, mynd i gaffi efo ffrind – teimlo yn ‘normal’! Wedyn BANG, mae’r wal frics yn ymddangos o mlaen i o nunlla’ a dwi’n y tywyllwch. Mae’r dagrau’n llifo a dwi’n teimlo dim. Pa mor hir fyddai yn y tywyllwch? Anodd dweud – gall fod yn oriau, yn 10 munud neu’n ddiwrnodau. Mae ‘na oleuni yn dod drwadd pob hyn a hyn ond y tywyllwch sy’n rheoli’r awyrgylch.

Ar adegau, dwi methu mynd i weld bobl. Dwi isio ond dwi methu. Dwi’n teimlo’n hunanol ac yn flin efo fi’n hun, ond y gwir ydi, dwi ofn mynd. Dwi ofn crio o’u blaen – dwim isio iddynt fy ngweld i felma a dwi’m isio gwneud iddynt boeni. Dwi ofn methu gwrando ar sgwrs a storis nain, a’i bod yn sylwi ar hynny – byddai hynny yn torri nghalon. Weithiau dwi methu ateb y ffôn neu’r drws. Dwi wedi methu parsel cyn heddiw gan mod i wedi methu ateb y drws i’r person oedd yn ei ddanfon. Mae fel teimlad cyson o ofn – ofn am resymau na fedra’i egluro. Mae hefyd yn deimlad o fod yn sownd a mod i’n boddi – dwi’n trio mor galed i gadw mhen uwchben y dŵr ond dwi’n blino ac mae’r teimlad o roi i mewn yn brysur gryfhau. Dwi’n aros am rhywun i f’achub ond ddaw na neb gan mod i ddim yn dweud yn iawn wrth bobl sut dwi’n teimlo a chymaint dwi’n stryglo. Weithiau mae’n brifo gormod i ddweud y geiriau’n uchel, mae gen i ofn bod yn faich i bobl a dwi ofn ymddangos yn wan. Ond dydi gofyn am help neu bod yn onest efo’r bobl sydd agosaf atoch ddim yn wendid, mae’r peth cryfa’ wneith rhywun. Dwi’n gwybod hynny ac yn erfyn ar bobl eraill i siarad a dweud eu problemau, felly pam nad ydw i’n gwrando a gwneud yr hyn y ddylwn i ‘neud?

Ar ddiwrnod ble dwi’n teimlo rwbath, a ddim dim ond gwagle, dwi’n teimlo dros fy ffrindiau a’n nheulu. Dwi’n siwr fod o mor rhwystredig iddynt fy ngweld i felma a methu g’neud dim. Byddwn i’n casau gweld rhywun sy’n agos i mi’n teimlo felma – byddai’n torri nghalon i. Un neges fyddwn i’n ei roi i unrhyw un sy’n amau eu bod nhw’n dechrau diodef o iselder neu unrhyw salwch meddwl – dywedwch wrth rywun a gofynnwch am help. Dyna’r peth gorau a chryfa’ wnewch chi.

 

‘Mae pawb yn wahanol’

Roeddwn i’n arfer traethu wrth fy hun drosodd a throsodd fod gen i ddim yr hawl nac unrhyw rheswm dros deimlo fel’ma gan fod na rywun arall allan yna’n teimlo neu’n mynd drwy rhywbeth llawer gwaeth ac yn ymdopi’n well na fi. Dwi’n dal i draethu wrth fy hun ond ddim cymaint. Mae pawb yn wahanol, a phawb yn delio ac ymdopi â phethau’n wahanol.

Dwi’n teimlo’n aml mod i ddim digon – ddim digon da neu ddim yn gwneud digon. Mae hyn yn fy mwyta a dwi’n teimlo fod na wall neu nam arna i. Mae’r hunan feirniadaeth yma’n medru boddi unrhyw gompliment neu air da fysa’n cael ei roi i mi. Mae’n anodd gweld elfen neu ddarn da ohona fi’n hun pan mae’r darnau drwg yn gweiddi allan arna i.

Dwi’n meddwl i’n hun weithiau ella mod i’n ddiog a dwi bron yn siwr bod pobl eraill yn meddwl yr un peth – mod i ddim yn trio ddigon neu mod i angen pwsio’n hun fwy. Dwi’n meddwl mod i’n derbyn mod i ella’n medru ymddangos yn ddiog i bobl o’r tu alan – dwi’n canslo pan dwi fod i fynd allan, dwi ddim yn mynd i gwaith a dwi ddim efo’r awydd gwneud dim – ond dim diogrwydd ydi o. Dwi ddim yn dewis bod felma, yr iselder sy’n fy mhwyso i lawr ac yn effeithio fy hunan-werth, fy egni a f’awydd i wneud pethau. Dwi’n derbyn hefyd mod i ddim y person gorau i fod o’i chwmpas pan dwi’n teimlo felma a’i bod mwy na thebyg yn cymryd lot o ymdrech i fy ffrindiau fod eisiau bod efo fi. Ond dwi’n hynod ddiolchgar i’r rheiny sy’n gwneud yr ymdrech. Byddai’r tywyllwch llawer iawn anoddach hebddynt.

Dwi’n teimlo’n ddi-werth – bod y pethau dwi’n ‘neud neu’n ddeud yn ddi-werth. Dwi felly yn aml yn cilio i ffwrdd rhag dweud pethau na gwneud rhai pethau. Dwi ofn methu neu gwneud rhywbeth yn anghywir.

Mae gweddill y byd i’w gweld yn gweithredu ac yn llwyddo mewn un ffordd neu’r llall. Mae’n anodd peidio gadael i hyn f’effeithio a gwneud i mi deimlo hyd yn oed yn waeth amdana fi’n hun. I mi, mae’r pethau yma mor bell o ble ydw i mewn bywyd ar hyn o bryd. Ond, dwi’n gwybod hefyd bod pethau ddim o hyd yn fêl i gyd i bobl eraill a bod bobl yn ddyddiol yn mynd drwy pethau torcalonnus.

 

Salwch, nid teimlad

Dwi’n ei chael yn anodd derbyn bod iselder yn salwch yn hytrach na theimlad. Mae’n fy ngwneud i’n bigog – mae pethau bychan yn fy ngwneud i’n flin ac yn anghyfforddus. Dwi’n trio ymlacio ond dio ddim yn digwydd. Dwi’n trio peidio snapio ar bobl ac yn trio’i ddal i mewn cymaint a medra’i. Mae’n flinedig. Dwi’n teimlo’n wag ac yn ddi-deimlad – dwi ddim yn mwynhau pethau fel oni’n arfer gwneud. Am faint o hir eith hyn ymlaen?

Dwi ‘di blino. Wedi blino teimlo felma ac wedi blino’n gyffredinol. Pam na na’i wbath amdano – dyna fysa sawl un yn ei ddweud. “Yr unigolyn sy’n gyfrifol am ei hapusrwydd ei hun”. Dwi’n gwybod hynny ac os fyswn i’n medru gwneud rhyweth amdano, mi fyswn i, coeliwch chi fi. Yn yr un modd ag y byddwn i’n dychwelyd i ngwaith petawn yn gallu. Fedra’i ddim.

Dwi’n teimlo fel fod na berson dwi’n ei gasau yn sownd efo fi 24/7. Y person hwnnw ydi fi’n hun.

Mae teimladau cryf o euogrwydd yn aml yn pwyso arna’i – dwi’n teimlo mod i’n gadael bobl i lawr, bod bobl yn blino arna i neu’n siomedig ynddo i.

Mae’r salwch ‘ma, ac ia salwch ydi o, yn fy ngwneud i’n araf – meddwl yn araf, symud yn araf a siarad yn araf – yn aml mae’n anodd cael geiriau allan, yn enwedig wrth drio egluro rhywbeth. Mae’n fy ngwneud i’n ddryslyd ac yn ei gwneud hi’n anodd i mi ganolbwyntio. Mae hefyd yn gwneud i mi fod isio cuddio.

Dwi’n syrfeifio. Ar ddiwrnod drwg mae pob eiliad o’r dydd a phob owns o egni sydd gen i yn mynd ar gyrraedd diwedd y diwrnod. Ond mae ‘na ddiwrnodau da….

Roeddwn i’n teimlo’n dda riw ddiwrnod wythnos diwethaf felly fuos i’n siopa efo mam. Doedd y cwmwl trwm ‘na yn fy mhen i ddim mor drwm y diwrnod hwnnw felly nes i fedru mwynhau’n hun. Mi barodd y mwynhad ‘na ran fwya o’r diwrnod, tan o’n i ar fy ffordd adra, pan ddisgynodd y cwmwl fel sach drom a nharo fi. Dyna ni wedyn, o’ni jysd isio crio. Nes i ddim, dim o flaen mam beth bynnag. Ond syth gyrhaeddes i adra, nes i ddim byd ond crio am tua awr go lew. W’n i ddim pam. Mi ddoth ‘na rwbath drosta’i a’r unig beth oeddwn i’n gallu g’neud oedd crio. Ar ôl tua awr o eistedd ar y llawr yn crio penderfynais fynd allan am dro, neu ar y llawr fyswn i wedi bod am awr arall beryg. Es i allan o’r tŷ a jysd dechrau cerdded. Dwi’n meddwl fyswn i wedi gallu cerdded am filltiroedd neu oriau nes i ffrind i mi weiddi arna’i o ochr arall y ffordd a sylweddolais mod i bron yn ôl adra. Mi nath les i fynd am dro a stopiodd y crio.

Meddwl yn ôl, ges i ddiwrnod da arall wythnos diwethaf hefyd – ddaru’n ffrind adal i mi fynd a fy mêt bach (ei mab) i’r sinema. Bore hwyliog llawn chwerthin a sgwrsio. Doedd na ddim crio y diwrnod hwnnw chwaith.

Rhaid cymryd pob dydd fel mae’n dod.

*

Gwybodaeth bellach

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb