Cymro Deubegwn – David Williams

Ah dyma fo, y dyn sydd yn honni fod Cymru wedi creu neu cryfhau ei chyflwr deubegynedd. Gwell iddo fo roi dipyn bach o gig ar yr esgyrn cyn i ni ddechrau ei goelio fo. IMG_1028[1]

Mi ges i fy ngeni yn y de ac wedyn symud  i’r gogledd yn dair oed. Mynychu ysgol Gymraeg ei iaith tan yn saith oed ac wedyn addysg hollol Saesneg ei iaith. Dim Cymraeg o gwbl. Roedd y storom berffaith wedi dechrau yn fy isymwybod. O un ar ddeg oed mynychu ysgol breifat, un rhyw yn unig, sef bechgyn. Methu fy arholiadau Lefel O fel roeddent ar y pryd. Felly mynd off i ddilyn gwaith a gyrfa nad oeddwn wedi ei ddewis. Yn ystod fy addysg doeddwn heb anghofio fy Nghymraeg, mi ymaelodais â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 14 oed yn Eisteddfod yr Urdd Abergele yn gwisgo lifrau’r ysgol fonedd yma yng Ngogledd Cymru.

Yn un ar hugain oed cael fy nal yn yfed a gyrru ar y Denbigh By-Pass, colli fy nhrwydded gyrru wrth reswm ac yn y pen draw, y gwaith nad oeddwn eisiau gwneud yn y lle cyntaf.

Mi roeddwn wedi dechrau yfed alcohol yn ddau ar bymtheg oed i leihau symptomau hunan gasineb ac israddoldeb oedd wedi tyfu fel chwyn yn fy arddegau.

Yn un ar hugain oed, ges i fynediad i’r North Wales Medical Centre am bythefnos dan ofalaeth Dr Dafydd Alun Jones. Y ‘nervous breakdown‘ cyntaf. Mi ges fy nhrin yn yr iaith Gymraeg ganddo fo a’i ferch Dwynwen, er taw dim ond Cymraeg ‘crwtyn’ saith oed oedd gen i. Roedd rhaid i fy nhad dalu am driniaeth yn y Gymraeg i ddadwneud sgil effeithiau addysg Saesneg Ysgol Fonedd. Roedd wedi talu yn hael am hwnna hefyd i greu plentyn a  oedd yn teimlo yn fethiant llwyr a dyn ifanc oedd ddim yn gwybod pa iaith a ddiwylliant i uniaethu ag o. Ydych chi dal gyda fi? Ydych chi’n gweld ble mae’r rhwyg yn y psyche ieithyddol wedi dechrau?

Ar ôl gwella rhywfaint, hel fy mhac, dianc o Ogledd Cymru a nôl i’r De. I geisio cuddio fy nghyflwr rhag y byd, wel rhag y Cymry beth bynnag. Orthrwm ysgol fonedd Saesneg yn yr wythnos, orthrwm capel Cymraeg ar y Sul yn gwneud Dafydd Williams yn hogyn anfodlon iawn. Mi roeddwn wedi newid fy enw i’r Gymraeg i sefyll allan, i ddangos fy mod yn Gymro.

Yn ddinas fawr, hardd ag hyll Caerdydd mi roeddwn yn gallu cuddio fy nghyflwr. Y cyflwr a ddechreuodd fel ‘Or-Sensitifrwydd’ yng ngogledd Cymru yn amlygu ei hun fel ‘Iselder Deubegynnol yn De Cymru rhyw ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach.

Dyna drasiedi’r cyflwr, fod o’n cymryd mor hir i gael diagnosis. Dwi’n siŵr ‘dych chi wedi blino’n lan gyda’r hunangofiant erbyn hyn. Beth mae hwn yn gallu deud wrthym ni fydd yn gallu helpu ni?

Wrth gwrs fy mod i ddim gydag arbenigedd meddygol ond mae ‘Manic Depression’ wedi bod gyda ni ers amser y Groegiaid.

Taswn ni yn cynghori rhieni, faswn yn deud peidiwch â symud o gwmpas gymaint yn eich gwaith. Mae plant angen sefydlogrwydd. Peidiwch newid ysgol os nad oes rhaid ond eto os oes yna fwlio peidiwch ag oedi rhy hir cyn ymyrryd. Siaradwch gyda’ch plant yn aml am eu teimladau, am eu ffrindiau, am eu meddyliau.

Mae’r cylch wedi troi a dyma fi yn y Canolbarth bellach, yng nghanol storom perffaith Gymru deubegynol. Dwi nôl i fy enw bedydd erbyn hyn sef ‘David Williams’. Does dim rhaid newid enw i fod yn Gymro. Dwi’n edrych ar Gymru annwyl fel lle delfrydol i fagu cyflwr ddeubegynol. Dwi’n edrych thua mynyddoedd y Gogledd a dwi’n meddwl am iselder a melancholia (sef yr hen enw) a dwi’n edrych tuag at y de a Caerdydd a meddwl am y mania. Bywyd chwilfrydig, hedonistaidd y brifddinas. Mi ddaeth y ddeubegwn gyda chost felly yma yn y canolbarth dwi’n ceisio gwella, ceisio cael dipyn bach o equilibrium nol i fy mywyd. O, a dwi dal yn aelod o Gymdeithas yr iaith Gymraeg!

 

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb