Caethineb Iselder – Glesni Williams

Dwy flynedd yn ôl, roeddwn i mewn lle hollol wahanol i lle ydw i heddiw. Dwy flynedd yn ôl roeddwn i newydd ddychwelyd o wylia’ bythgofiadwy i Efrog Newydd ac yn meddwl mai hwnnw oedd y gwyliau olaf y byddwn yn ei gael. Dwy flynedd yn ôl roeddwn i’n cychwyn ar lwybr hunllefus i ddyfnder, caethineb a thywyllwch iselder. Dwy flynedd yn ôl, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gweld heddiw.

Ond mi ydw i wedi gweld heddiw, a wedi gweld llawer o ddyddiau ymhlith y ddoe a’r heddiw. Dyddiau tywyll, dyddiau disglair, dyddiau trist, dyddiau hapus a weithiau dim ond dyddiau. Dyddiau o ddim ond bodoli. Dim mwynhau ond dim casáu bywyd chwaith. Dwi’n meddwl yn ôl ac yn pendroni os oedd y dyddiau hynny yn waeth na’r dyddiau ble roeddwn i’n casau bywyd a casau fi’n hun. Oedd, mi oedd y dyddiau hynny yn anodd. Teimlad o gasineb tuag at fy hun. A casineb mor gryf at fywyd, doeddwn i ddim isio parhau efo’r bywyd hwnnw. Ond mi oedd ‘na deimlad. Roedd y dyddiau o ddim ond bodoli yn rai hir, unig a thywyll. Doeddwn i’n teimlo dim. Dim teimlad a dim emosiwn. Swnio’n oeraidd dydi?

Masiwr ei fod yn oeraidd i rhai pobl. Ond i eraill, mi fydd yn gyfarwydd iawn. Er bod iselder yn wahanol i bawb, dwi’n meddwl bod ‘na dal rhyw lefel o debygrwydd ymysg teimladau y rhai sy’n dioddef.

Dwi’n cofio’r caethineb o fewn fy mhen yn fy rhwystro rhag mwynhau ac yn fy nghwthio i ble doeddwn i ddim isio bod.

Ond, dwy flynedd yn ddiweddarach a dwi mewn lle llawer gwell. Mae’n syndod faint sydd wedi newid heb i mi sylweddoli. Doedd ‘na ddim arwyddion bob hyn a hyn yn fy hysbysu o unrhyw gynnydd. Doedd ‘na ddim gwobr am oroesi wythnos heb deimladau hynllefus. Yr unig wobr ydi medru edrych yn ôl a diolch bod pethau ddim fel yr oeddwn nhw dwy flynedd yn ôl.

Dau fis yn ôl nes i sgwennu’r darn uchod. Wythnos yma, allan o nunlla, mae’r pen yn teimlo’n dywyll a thrwm a’r corff yn teimlo’n flinedig. Mae’r iselder yn rhedeg cylchoedd o fy nghwmpas yn aros am y foment cywir i grebachu.

tornado-head

Dwi ‘di methu mynd i’n ngwaith un diwrnod wythnos yma. Nes i ddim golchi ngwallt am bedwar diwrnod. Dwi heb llnau’r ty ers bron i bythefnos. Dwi heb fynd a’r biniau ail-gylchu allan. Mae popeth yn teimlo fel ymdrech anferthol. Dwi heb ddeud hyn wrth fy ffrindiau na nheulu oherwydd cywilydd, euogrwydd ac ofn o gael fy marnu o fod yn ddiog. Ofn i rhywun ofyn ‘Pam?’.

‘Pam es di ddim i dy waith?’

‘Pam wti’n teimlo fel hyn?’

Pam. Un gair bychan sy’n dod a gymaint o bryder ac ystyr cudd i mi. Dwi methu ateb ‘pam’. Does gennai ddim yr atebion. Dwi ddim yn gwybod pam dwi’n teimlo fel hyn. Dwi ddim yn gwybod pam dwi methu gwneud yr hyn, llall a’r arall. Dwi ‘mond yn gwybod ‘mod i methu. Dwi’n gwybod pan mae pethau yn dod yn anodd. Dwi’n gwybod pan mae’r teimladau cyfarwydd yn dod yn gaethineb a pan mae waliau’r carchar yn fy mhen yn dod yn agosach ac yn uwch i’n rhwystro fi rhag dianc.

Er bod gen i bobl o fy nghwmpas, a chefnogaeth a chymorth petawn i’n gofyn amdano, dwi’n teimlo’n unig. Dwi’n teimlo fy hun yn pellhau oddi wrth pawb a phopeth. Dim o ddewis, ond o reidrwydd. Rheidrwydd i gloi fy hun yn nyfnder y teimladau dwys a thywyll gan obeithio y bydd y cyfnod yn pasio heb i mi ormod ei rannu efo neb.

Dwi’n gwybod mai cyfnod ydi o. Mi neith o basio. Rhywbryd. Mae o wedi pasio o’r blaen a mi wneith y tro hwn. Neith ‘na gyfnod tebyg ymddangos eto? Posibl iawn. Dwi bron yn sicr y gwneith. Dwi yn sicr.

Ond am rwan dwi’n canolbwyntio ar y rwan hyn. Diwrnod fesul diwrnod. Cam fesul cam. Awr fesul awr.

Hanner colon (;) sydd yn fy mrawddeg bywyd, nid atalnod llawn (.).

  ;

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb