Bywyd ar ôl colli plentyn

20 mlynedd ers y mileniwm

Ugain mlynedd yn ôl ro’n i’n feichiog. Pwy fuasai’n gwybod pa mor greulon allai’r mileniwm fod wedi bod i ni? Fi oedd un o’r rhai lwcus oedd yn cael babi mileniwm, roedd cymaint o froliant am y peth…ond yn anffodus fe gollon ni ein mab lawer yn rhy fuan.

Dwi ddim yn difaru unrhywbeth. Roedd e gyda ni am 6 wythnos. Ro’n i’n ei garu, ac er i ni gael amser mor fyr gydag ef, mae gen i atgofion arbennig. Dwi ddim yn cofio llawer am y blynyddoedd canlynol, ond dwi ddim yn difaru unrhyw beth oherwydd dyna’r unig ffordd oeddwn i’n gwybod sut i oroesi.

20 mlynedd yn ddiweddarach…dwi wedi gwneud yn dda. Dwi’n fam i ddau o blant hyfryd ac yn rhiant maeth. Dwi’n llwyddiannus, yn feddylgar ac yn ddoeth. Dwi fel teigr ac yn gwisgo fy streipiau’n falch.

Derbyn

Allai ddim bwysleisio pwysigrwydd derbyn y golled yn ddigonol. Allwch chi ddim galaru tan eich bod yn ei dderbyn, allwch chi ddim brosesu heb ei dderbyn, allwch chi ddim dechrau heb dderbyn ‘closure’. Does dim ots beth yw eich profiad, pe bai’n golled, yn newid arwyddocaol yn eich bywyd, unrhyw beth a dweud y gwir. Yr allwedd i ddechreuad newydd a’r daith i barhau â’ch bywyd newydd yw derbyn.

Dwi’n derbyn ein bod ni wedi colli’n mab. Dyw hynny ddim yn golygu mod i wedi dod dros y peth, fydda i byth, ond dwi’n ei dderbyn. Dwi’n derbyn na fydda i byth yr un person ag oeddwn i cyn i ni ei golli, ond bydda i’n cofleidio’r fersiwn newydd ohona i. Byddaf yn derbyn fy mod yn teimlo pethau’n ddyfnach, yn poeni’n fwy a bod gen i ddiffyg hyder.

Dwi ond wedi cael ugain mlynedd i ddod i adnabod fy hun, a hoffwn i anghofio 4-5 ohonyn nhw; dwi ddim yn cofio llawer ohono. Dwi’n derbyn fy mod wedi dioddef ag iselder am flynyddoedd. Mae derbyn yn golygu fy mod hefyd yn gallu derbyn fy mod mewn lle gwell o lawer bellach.

Parhewch i siarad

Peidiwch â dal popeth tu fewn, mae’n gwneud pethau gymaint yn waeth. Byddwch chi’n gorfeddwl, yn gorliwio pethau, a byddwch yn teimlo’r pwysau yn eich meddwl mwy nag erioed. Parhewch i siarad, bydd yn dod yn haws, ac efallai bydd modd rhannu’r baich ag eraill. Mae angen i mi fod yn gryf nawr. Dyw hynny ddim yn hawdd ond dwi’n gwybod y bydd fy nghryfder yn gwneud gwahaniaeth i eraill yn y dyfodol.

Dwi’n falch o allu helpu eraill, oherwydd dwi’n gwybod sut beth yw bod mewn poen a dwi ddim eisiau gweld unrhyw un arall yn yr un sefyllfa. Byddwch yn garedig i eraill, ond peidiwch ag anghofio eich hun yn y broses. Byddwch y person gorau allwch chi fod.

Gwrando

Ambell waith mae angen i chi wrando ar yr hyn mae eraill yn dweud wrthoch, geiriau o gyngor, gwerthfawrogiad o’ch ymdrech, neu un dwi’n ei glywed yn eithaf aml…. “Dwi ddim yn gwbod sut wyt ti’n ymdopi”. Dwi’n ei wneud oherwydd fy mod wedi dod o hyd i’r cryfder ynof i. Fe wnes i dderbyn beth ddigwyddod, a dewis i barhau bywyd fel fersiwn newydd ohona i, dwi ddim yn berffaith ond dwi’n gwneud fy ngorau.

Sut dwi’n ymdopi

Dwi jyst yn cadw’n brysur. Dwi’n fam, yn rhiant maeth, yn fyfyrwraig, yn gweithio’n rhan-amser, yn wirfoddolwr a llawer mwy…

Does dim rheolau gyda galar. Efallai byddwch chi’n teimlo fel peidio â gwneud unrhyw beth, neu eich bod am gadw’n brysur neu gymryd bywyd un cam ar y tro.

Dwi wastad wedi cadw’n brysur, ond pan gollais fy mab, roeddwn yn cael trafferth am gyfnod hir, a doeddwn i ddim yn teimlo fel gwneud lot o gwbl oherwydd bod cymaint wedi newid.

Dwi wedi adeiladu fy hun o ddarnau mân, ac er bod un darn wastad ar goll, dwi’n ceisio bod y gorau alla i fod.

Gallwch ddarllen mwy gan Delyth Jones-Williams ar ei blog.