BLOG: ‘Mesur Fy Ngwerth’

 

Rhybudd: Mae’r blog hwn yn cyfeirio at ddelwedd corff.

Ers i mi weld y llun yma dros sawl platfform cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf, a’r ymateb mae wedi ei gael, mae wedi mynnu lle yn fy meddwl ac yn gwrthod gadael. ‘Dw i felly wedi penderfynu ei gydnabod. 

Mae ‘na gymaint o ferched wedi teimlo mor ddiwerth, neu mewn geiriau eraill, wedi teimlo fel cachu ar ôl gweld y llun, am y rheswm syml nad ydyn nhw yn edrych fel hyn. ‘Dw i’n un o’r merched hynny. ‘Dw i’n casáu fy mod i’n mesur fy ngwerth yn ôl siâp a maint fy nghorff. PAM! Pam na alla i beidio? Pam na allwn ni gyd jyst, peidio?

Bob un diwrnod, ‘da ni’n mewnoli’r feddylfryd bod rhaid i ni edrych ryw ffordd benodol er mwyn cyrraedd ryw lefel o fod yn ‘ddymunol’ a ‘deniadol’. Pa mor hir eto fydd rhaid i mi deimlo’r siom, a’r tristwch, a’r gwylltineb nad ydw i’n medru edrych fel y ferch yn y llun, er gwaetha pob ymdrech? Pa mor hir eto, fydd rhaid i ni gyd deimlo fel hyn? Mae’r negeseuon sy’n cael eu trosglwyddo i ferched (a rhai dynion) drwy ddelweddau ‘delfrydol’ fel y llun yma, yn toxic.

Llun arall yn fy arwain, yet again, i godi nhop i asesu ratio fy waistline yn erbyn fy hips. Llun arall i fy atgoffa i fonitro’r gap, neu’r diffyg gap rhwng fy nghoesa’. Llun arall sy’n fy ysgogi i lapio fy mysidd o gwmpas fy ngarddwn, cyn bellad â sydd bosib. Mae’r holl beth yn drist, yn wirioneddol ddigalon.

Nid ‘bai’ y ferch yn y llun ydy hyn. Bai yr holl negeseuon ‘da ni’n ei dderbyn bob dydd drwy sawl cyfrwng ydy hyn. Negeseuon anweledig, cyfrwys, isymwybodol, sy’n gwneud i ni obsesio yn llwyr efo’r ffordd ‘da ni’n edrych, a chymharu ein hunain gydag eraill byth a beunydd. Mae’n anodd peidio gwneud hyn pan mae popeth o’n cwmpas yn ein hudo i ddymuno delwedd sbesiffig, y look “perffaith”. ‘Dw i’n sicr fod sawl merch ‘dw i’n ‘nabod yn rhoi canran llawer rhy uchel o’u capasiti meddyliol i’r ffordd maent yn edrych. Petawn i’n cyfri’r munudau ‘dw i’n treulio mewn diwrnod jest yn meddwl am fy edrychiad, fy mhwysau, fy neiet, fy mhryd nesaf, fy sesiwn ymarfer corff nesaf – mi fysa’r cyfanswm yn ddychrynllyd. ‘Dw i’n meddwl weithiau am yr holl bethau faswn i wedi llwyddo i wireddu wrth ddefnyddio’r capasiti meddyliol ‘na mewn ffordd amgen, heb yr holl distractions.

Mae’r byd i gyd yn edrych ar y ferch yn y llun yma, ac yn beirniadu dim byd ond ei hedrychiad. Hi a’i chwiorydd. Nid hi, fel unigolyn, a’i ‘holl nodweddion anhygoel fel merch ifanc’ sy’n mynd trwy feddwl neb. Nid ei huchelgeisiau, ei diddordebau, ei dyheadau…

Mae’r merched yma yn y llun yn gwybod hyn. Maent yn gwybod fod eu hedrychiad yn cael ei ddefnyddio gan ffynonellau o bŵer i fwydo meddylfryd byd-eang o’r “edrychiad delfrydol”. Mae’r rhannu’r neges yma yn union fel tasgu gwreichion o asid poeth dros hyder, hunan barch a hunan werth miloedd ar filoedd o ferched dros y byd i gyd. Ond mae ‘na bobl yn elwa o weld hyn yn digwydd. Mae system fawr bwerus yn elwa o’r pwll diddiwedd o ansicrwydd mae merched yn ei deimlo yn yr oes hon. ‘Da ni’n gwario arian, yn treulio amser, ac yn lladd ein hunain jest er mwyn ceisio trwsio’r ffordd ‘da ni’n edrych. Pa mor boncyrs ydy hynny mewn difri calon?! Tra ydym fel merched yn parhau gyda’r ymdrechu niweidiol, ddinistriol, ddiflino honno i “wella” ein hunain trwy’r amser, mae nifer fach iawn o bobl bwerus yn parhau i elwa ar raddfa ddifrifol.

Mae’n rhaid i ni roi gorau i fesur ein gwerth yn ôl siâp a maint ein cyrff. Mae’n rhaid i ni beidio â suddo’n ddyfnach i fôr o bryder ynglŷn â be welwn ni wrth gamu o flaen y drych. Mae angen caru’r adlewyrchiad yma, ac mae hynny yn broses yn ei hun. Ond – ‘da ni’n gymaint mwy na’r gragen sydd wedi lapio o gwmpas ein horganau. ‘Da ni’n fodau byw, lliwgar, digri, unigryw, a does neb yn y byd yr un fath. Pan fydda i, fel un, wedi datrys sut yn union mae dathlu hyn, mi ddof yn ôl atoch.

Rhannu

Gadael Ymateb