Tu ôl i’r wên – Meleri Haf Roberts Hicks

Sut ydych chi’n disgrifio i bobl pam eich bod chi’n teimlo’n drist, pan nad ydych chi hyd yn oed yn gwybod eich hun?

Sut allwch chi ddweud eich bod chi ar bwynt mor isel – heb reswm amlwg? Oeddwn i’n hunanol? Ydw i’n berson drwg am deimlo fel hyn – pan yn wirioneddol dwi’n gwybod nad oes unrhyw beth o’i le ar fy mywyd i? Odi pobl eraill yn teimlo yr un teimladau? Ydyn ni’n ddramatig, neu ydyn ni wir ‘ddim yn iawn’?

Rhaid i mi ddechrau drwy ddweud fy mod i wedi cael bywyd anhygoel. Mae gen i ffrindiau, teulu, bywyd cymdeithasol a bywyd gwaith ffantastig. Dydw i ddim yn berffaith, ac yn bell oddi wrtho. Roeddwn i’n gwybod hyn – ac roedd pawb a oedd yn fy adnabod yn ymwybodol o hynny hefyd.

Yr wyf wedi bod yn awyddus i weithio yn y diwydiant iechyd meddwl ers blynyddoedd, ond yr oeddwn am gael cymaint o brofiad bywyd ag y bo modd. Roeddwn wedi teithio i nifer o wledydd y byd, ac yn ffodus dros ben o fod wedi cwrdd â’r bobl fwyaf anhygoel a chael profiad o ddiwylliannau eraill drwy gydol y blynyddoedd diwethaf. Rwyf bob amser yn rhoi 100% i bopeth. Rwy’n berson hyderus – sydd yn hoff o chwaraeon, ac yn mwynhau bod yn egnïol.  Dwi’n gallu bod braidd yn wallgof – pwy sydd ddim?! Dyna pam ei bod hi hyd yn oed yn anoddach i gyfaddef fy mod i’n dechrau casáu fy hun yn araf bach. Codi diffygion nad oeddwn wedi sylwi arnynt o’r blaen. Roeddwn i’n gwisgo masg anweledig y tu ôl i’r wên. Roeddwn i’n smalio bod yn rhywun arall er mwyn cael fy nerbyn. A chael eu derbyn gan bwy? Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod fy hun.

Rwy’n ei weld bob dydd – pobl sydd â’r wên fwyaf sy’n teimlo’r mwyaf anniogel. Rydych chi’n clywed straeon am ansicrwydd, heb wybod y gallai ddigwydd i chi. Doedd gen i ddim byd gwirioneddol o’i le ar fy mywyd i rywun o’r tu allan. Oes, mae gan bawb broblemau. Does neb yn cael bywyd hawdd. Ond, yn araf bach – dechreuodd y teimladau, emosiynau negyddol cymryd drosto. Dechreuodd gyda rhywbeth bychain fel ddim yn hoffi fy ngwallt. Cymharu fy hun â phobl eraill. Cenfigen. Pam na alla i fod cystal â nhw? Pam na alla i edrych fel nhw? Pam nad wyf yn ddigon da? Doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i’r da ynof o gwbl. Roeddwn i mewn perthynas nad oeddwn i’n teimlo’n ddigon da ar ei gyfer. Roeddwn yn unig ac yn glawstroffobig mewn ystafell yn llawn o bobl. ‘Dim ond gwenu a chwerthin sydd angen’ meddyliais. Ro ni eisiau cau popeth allan. Roeddwn i’n gwybod fy mod yn gwthio pobl i ffwrdd, yn enwedig fy mhartner. Doedden nhw ddim yn deall – ac mae hynny’n iawn. Byddai rhai pobl byth yn medru delio gyda’r person fel oeddwn i – dyna ydi bywyd. Roedd y teimlad hwn yn tyfu at bwynt lle roedd angen i mi ddweud wrth rywun. Roedd gen i gywilydd. Pam ar y ddaear oeddwn i’n bod mor hunanol? Roeddwn i’n berson gwbl wahanol.

Un o’r eiliadau mwyaf poenus i mi oedd cyfaddef nad oeddwn i’n iawn. Roeddwn i’n ysgwyd. Roeddwn i’n teimlo poen yn yr ystyr o ddatgelu sut roeddwn i wir yn teimlo dros y misoedd diwethaf. Roeddwn i’n 24, ac roedd gen i gymaint i edrych ymlaen ato. Pam na allwn i deimlo’n ddigon da? Pam wnes i deimlo’r angen i deimlo derbyniad? Pam roedd pawb yn well na fi ym mhob dim? Cefais yr ymatebion gwaethaf. ‘Rwyt ti’n hunanol ‘. ‘Mae llawer o bobl yn mynd drwy lawer gwaeth na ti’. Ac i bod yn deg, yr oedd hyn yn hollol wir. Roeddwn i’n casáu fy hun fwy byth. Pam oeddwn i mor anhapus? Ydw i’n normal?

Es i allan o reolaeth. Doeddwn i ddim eisiau gweithio, gweld fy ffrindiau, a bod mewn perthynas. Roeddwn i’n gwthio pawb a phopeth i ffwrdd. Ar y foment honno roeddwn i’n ddieithr i mi fy hun. Daeth y berthynas i ben ac nid oedd gen i neb i droi ato. Roeddwn i wir ar fy mhen fy hun. Collais fy hun ym mhob un ffordd.

Roeddwn i’n gwybod bod angen i mi ddarganfod fy hun eto – rwy’n gwybod bod hynny yn ‘cheesy’ tu hwnt! Fe wnes i bopeth o fewn fy ngallu i geisio newid fy hun – lliwio fy ngwallt, tattoos, colli pwysau, parhau i deithio. Popeth. Ond sylweddolais y wers bywyd fwyaf. Roeddwn i’n gorfodi fy hun i fod y ‘person perffaith’ i brofi fy hun i bobl eraill. Am beth? Roeddwn i’n meddwl bod yn rhaid i mi ‘ffitio’ i mewn, a plesio pawb. Darllenais gymaint o erthyglau, a siaradais â llawer o bobl ar-lein am sut roeddwn i’n teimlo, a wnaeth i mi deimlo’n ‘normal’. Doeddwn i ddim yn hunanol. Ni fyddwch byth yn plesio pawb, a beth sydd o’i le ar hynny?

Rwy’n ysgrifennu hwn flwyddyn yn ddiweddarach. Mae’n drist i feddwl am y person yr oeddwn i bryd hynny. Trueni na allwn siarad gyda hi, a dweud wrthi y bydd popeth yn iawn. Mae’r byd yn chwalu nawr, ond dwyt ti ddim yn berson drwg. Ti mynd i ddod drost hyn. Mae angen i ti ddarganfod beth sy’n dy wneud di yn hapus. Cymera gamau bach. Paid â gyrru dy hun yn wallgof yn ceisio profi dy werth i’r bobl anghywir.

Mae gan bawb bwyntiau isel mewn bywyd, a rwyn siŵr y bydd gennyf her arall i’w oresgyn mae’n siwr. Ond fydda i byth yn gadael i fy hun deimlo mor isel amdanaf fy hun eto. Heddiw, rwyf yn falch o’r meddyliau hynny gan ei fod wedi wneud i mi sylweddoli rhywbeth a oedd o le yn fy mywyd. Efallai roedd yn arwydd i rywbeth newid? Pwy â ŵyr! Rwyf wedi bod ar sioe S4C ‘Am Dro’ yn trafod yn agored ar blatfform enfawr ar sut yr oeddwn i yn teimlo, ac roedd yn anhygoel gweld yr ymateb. Byddaf yn dechrau fy nghwrs ym mis Medi ym Mhrifysgol Abertawe i astudio ‘Nyrsio Iechyd Meddwl’ ac ni allaf fod yn hapusach. Mae’r ymennydd yn beth rhyfeddol. Mae delio â salwch y meddwl yr un mor berthnasol yng nghymdeithas heddiw ag y mae hi i delio a salwch ‘cyffredinol’. Rwy’n gobeithio defnyddio fy ngwybodaeth, arweiniad, a’m profiadau perthnasol i fod y nyrs orau bosibl y gallaf fod.

I unrhyw un sydd angen unrhyw fath o help, cyngor neu arweiniad – peidiwch â bod ofn estyn allan am help. Cofiwch eich gwerth.

Rhannu

Gadael Ymateb