Y Gwen Tu Ôl i’r Wên – Gwen Rees

Dwi’n teimlo’n ofnadwy o unig, eisiau cwmni, ond eisiau bod ar ben fy hun.

Dwi’n teimlo’n flin efo pawb, ond does ‘na neb wedi gwneud dim byd o’i le.

Dwi isio cysgu drwy’r dydd, achos does ‘na ddim pleser g’neud dim byd arall.

Dwi isio cysgu achos dyna’r unig ddihangfa dwi’n gael o fywyd pob dydd. 

Deffro efo fy ngalon yn rasio, fel petawn newydd redeg marathon. 

Dwi’n poeni am bopeth; os ydi pethau’n mynd yn dda, dwi’n stopio a meddwl ‘Dydi hyn ddim yn iawn’. A wedyn mae’r pen yn meddwl am unrhyw beth i wneud imi boeni. 

Iselder a gorbryder. Dau beth fyswn i byth wedi ei ddychmygu y byse’n rhaid imi wynebu, yn enwedig mor gynnar yn fy mywyd. Cofiwch, tydi rhain ddim yn deimladau bob dydd imi, a dydi pawb sy’n dioddef ddim yn teimlo yr union r’un peth.

Mae pawb yn dioddef mewn ffyrdd gwahanol, ac mae pawb yn delio gydag o mewn ffyrdd gwahanol. 

Dim ond dechrau derbyn hyn ydw i, y ffaith y bydd rhaid imi fwy neu lai byw gyda salwch meddwl am weddill fy oes. Mae llyncu’r tabled ‘hapus’ fel dwi’n ei alw, yn fy atgoffa pob dydd o ba mor wan ydw i mewn ffordd. Pam ‘mod i’n dibynnu ar dabled i gadw fy meddwl yn wastad? Ond eto, tydi’r dabledi ddim yn gwneud y gwaith i gyd. Dwi’n cofio rhywun yn dweud wrtha i, meddylia amdanyn nhw fel ‘crutch’ – dim ond help llaw maen nhw’n ei roi, rhoi help i’r ymenydd greu mwy o gemegion hapus yn y corff. Dwi’n cofio’r diwrnod yn iawn pan dduododd athrawes yn yr ysgol wrtha i, ‘Gwen, ti’n dioddef o iselder ofnadwy’, a dyna pryd wnaeth o fy hitio i, a dim ond pymtheg oed oeddwn i. Er fy mod yn edrych ar y tabledi fel rhywbeth negyddol, mae’n fy atgoffa o ba mor bell rwyf wedi dod. Mae’n anodd credu fy mod wedi bod ar yr anti depressants ers fy mod yn 16 – bron i 7 mlynedd. Dros y 7 mlynedd yna dwi wedi gwneud fy arholiadau TGAU, Lefel A, graddio a chael swydd dda. Rwyf  wedi graddio fel Nyrs a mae’n rhoi boddhad mawr i mi fedru helpu pobl yn fy swydd pob dydd. Os fedrai helpu rhywun mewn unrhyw ffordd a rhoi gwên ar eu hwynebau, mae’n rhoi hwb mawr i mi.Mae genna i gymaint i fod yn falch ohono; cartref, teulu, cariad, ffrindiau, swydd……ond eto dydi’r iselder a’r gorbryder byth yn diflannu’n llwyr.

Mae rhai yn datblygu symptomau iselder a gorbryder ar ôl profiadau anodd mewn bywyd, ond rhai heb unrhyw reswm o gwbl, sydd mewn ffordd yn reit anodd. Beth bynnag yw eich amgylchiadau, dydi byw efo iselder a gorbryder ddim yn neis o gwbl. Un funud, mae’r gorbryder yn gwneud ichi boeni gormod am bethau, a’r munud nesa’, mae’r iselder yn gwneud ichi deimlo dim byd.

Dwi’n mynd i deimlo’n rhwystredig iawn efo fi fy hun yn aml a deud y gwir. Fedrai fod yn teimlo’n ofnadwy o isel, ond unwaith dwi allan o’r tŷ ac yn fy ngwaith, dwi’n gallu rhoi mwgwd dychmygol ymlaen fel pe tawn i y person hapusaf yn y byd! A wedyn dwi’n cyrraedd adre a tynnu’r mwgwd dychmygol i ffwrdd a dwi’n hollol nacyrd ar ol yr actio hapus dwi wedi bod yn ei wneud drwy’r dydd. 

Mae’n salwch dryslyd a blinedig iawn. Er ei fod yn anodd iawn ei sylwi ar bobl, yn enwedig pan maen nhw’n actio fel petai popeth yn bril, cofiwch y gall un cwestiwn fel ‘sut wyt ti dyddie yma?” wneud gwahaniaeth mawr. Nid yw hi bob amser yn hawdd darllen tu ôl i fwgwd rhywun, ond gall cychwyn sgwrs a gofyn cwestiwn syml helpu rhywun fwy nag ydych yn ei feddwl. Dydi dioddef efo iselder ddim yn golygu eich bod yn crio bob dydd a dydi gorbryder ddim yn golygu bod person yn methu gadel y tŷ. Mae’n ofnadwy o anodd i’w adnabod mewn rhai pobl yn anffodus. 

Mewn cyfnod o ansicrwydd ofnadwy, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn estyn allan at ein gilydd. Dwi wedi dysgu dros y blynyddoedd nad oes pwynt ei guddio dim mwy. Dwi’n dechrau dysgu deud ‘Na’ i bethau yn lle trio plesio pawb. Mae hyn yn anodd achos dwi’n casau gadel pobl i lawr a wedyn dwi’n mynd yn flin efo fi fy hun. Ond rhaid meddwl, os byddech yn deud eich bod yn methu cyfarfod ffrindiau gan eich bod efo migraine ofnadwy, fydde chi ddim yn teimlo mor euog gan mae migraine dio. Ond pan dech chi’n deud ‘na’ i gyfarfod ffrindiau achos dech chi‘n cael diwrnod isel a ddim isio gadael y tŷ, mae’n anodd esbonio hynny. Wedi dweud hynny, weithiau mae cyfarfod ffrindiau a gwneud rhywbeth pan dech chi’n cael diwrnod isel yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. 

Dim ond chi eich hun sydd yn nabod eich hunan orau – rhaid ichi fod ‘in control’. Dwi’n ‘expert’ mewn edrych ar ôl pawb arall heblaw fi fy hun yn aml iawn. Ond gyda profiad, dwi’n dechrau rhoi fy hun yn gyntaf (wel rhan fwyaf o’r amser). Byddwch yn garedig ac yn amyneddgar efo chi eich hun ac eraill. Dydych chi byth yn gwybod be mae rhywun wedi bod drwyddo neu beth maent yn gorfod ei wynebu bob dydd. Edrychwch ar ôl eich hunain a’ch gilydd a chadwch yn bositif. 

Rhannu

Gadael Ymateb