BLOG: ‘Anhwylder bwyta, iselder a hunan ynysu’

Rhybudd: Mae’r blog hwn yn trafod anhwylder bwyta.

Dwi’n sgwennu hwn o’r conservatory. Y conservatory sy ddim wir yn conservatory, ond bay window fy ‘stafell wely sydd bellach yn le saff i fi. Lle sy’n gweld yr haul (pan ddaw allan) o tua 1 tan 6 y pnawn. Dyma fydd gwraidd bob dydd o hyn allan am yr wythnosau neu misoedd i ddod dwi’n meddwl. Fama, dwi’n gallu gweld teuluoedd yn mynd am dro unwaith y dydd, y gyrrwr ‘Deliveroo’ ar ei feic yn delifro bwyd i’r boi cyferbyn, y ferch bach efo gwallt oren yn dysgu sut i reidio beic hefo stabilisers lawr ganol y ffordd gan bo’ cyn lleied o geir ar lôn gyda’i Thad. Ma gwên y tad yn fy nharo ac yn gwneud i fi deimlo’n gynnes am eiliadau.

Dwi’n iste ‘ma’n meddwl ‘sgennai fawr i ddeud. Dim i ddeud wrth neb, ond ma fy mhen yn llawn ac yn troi ac yn chwerw. Chwerw efo’r byd yma am fod yn lle mor greulon weithie. Heddiw, mae’r byd yn le distaw, oer ac yn gorbryderu am cymaint o bethau gwahanol. Yn poeni am aelodau o’r teulu, ffrindiau, gwaith, arian, eu plant, y gymdeithas, iechyd, iechyd meddwl a phobl yn gyffredinol. Mae’n syndod beth sy’n digwydd o fewn pedair wal, unwaith i’r ddrws ffrynt ‘na gau. Mae hefyd yn syndod be sy’n digwydd tu fewn i ben rhywun pan ma’ pob ffor’ o oroesi’n cael ei dynnu ffwrdd. Mae’r firws corona ma ‘di lledaenu i bob rhan o’n bywydau. Un peth sydd gan bawb yn gyffredin ar hyn o bryd ydy diffyg atebion, diffyg rheolaeth a diffyg gweld dyfodol.

Ers yn bedwar ar ddeg mlwydd oed, dwi wedi diodde efo anhwylder bwyta (er ‘mond yn ddiweddar iawn dwi ‘di medru cyfadde a dweud y geiriau yma) a dros y deuddeg mlynedd diwethaf mae bywyd wedi bod yn un efo digon o ‘ups and downs’ i ddweud y lleia. Rhwng apwyntiadau doctor, sbyty, therapi, cwnsela, meddygyniaeth, deiategwyr a dilyn cynlluniau mae pawb arall yn eu greu, ma’ bywyd wedi bod yn her. Wedi dweud hynna, nes i ddal i gymdeithasu ac wrth i flynyddoedd fynd yn ei flaen daeth hunan edrychiad a’r rheolaeth yma oedd mor bwysig yn rym oedd yn fy nhynnu i lawr mwy a mwy. Fysech yn medru clywed fi mewn parti cyn fy ngweld, a se ti’n ffindo fi wrth y bar ble bynnag oedden ni. Cyn pen dim, mi oedd alcohol yn ffordd hynod hawdd o guddio’r hyn oedd yn mynd ‘mlaen. Roedd diod yn fy ngwneud i’n wirion, i chwerthin, i ddawnsio a canu a dyna’r person o’n i isho bod.

Fel disgybl yn ysgol fe ddechreuodd y broblem. Roedd bywyd yn un arferol. Teulu, ffrindiau da a cariad odd yn neud fi’n ddigon hapus. Mi o’n i’n mynd i’r ysgol ac yn mwynhau ysgol bob dydd, yn mwynhau gweithio ac yn mwynhau cymdeithasu gyda’n ffrindiau. Mi oeddwn i’n berson cerddorol ac felly yn ymfalchio wrth berfformio gyda’r piano a’r delyn a chanu efo’r côr. Doedd hunan edrychiad byth wir yn rhywbeth nes i feddwl amdano. Un diwrnod, jest cyn mynd i fy ngwers piano ym Mhorthcawl, ces i wy ar dost frown a gwydred o sudd oren. Dyna o’dd y tro cynta i fi chwydu’n fwriadol ac o hynny ‘mlaen fe aeth pethau o ddrwg i waeth.

I dorri hwn yn fyr, dros y blynyddoedd mae cyfnodau da a chyfnodau drwg wedi bod. Dwi ofn, gyda’r feirws a’r hunan ynysu yma taw cyfnod gwael iawn sydd ar y gweill. Mae’n anodd iawn derbyn ffordd da o ddelio efo hwn. Dwi’n llwyr ymwybodol bod pobl mewn sefyllfaoedd llawer gwaeth na fi, a ‘sen i’n dwli medru neud swap neu helpu nhw yn hytrach na fod yn sownd ym mhen fy hun yn ystod yr adeg yma, yn unig ac yn gwneud y gwrthwyneb llwyr i be dwi fod yn neud.

Un strygl fawr sydd gen i ar hyn o bryd ydy sut ydw i’n llwyddo i hunan ynysu yn fwy nag ydw i’n ynysu fy hun yn barod. Dwi nawr efo caniatâd i fod ar fy mhen fy hun, i ofalu amdana i fy hun, i beidio gweld na chwrdd a phobl. Nawr ma genai bob dydd, trwy’r dydd i neud be fynnwn i, a byta cyn lleied neu gymaint a dwi isho. Genai’r dewis o yfed dwr ne yfed can ar ol can o Diet Coke, potel neu ddwy o win coch ne mwynhau un neu ddau pink gin heb fod gan neb unrhyw syniad a s’gennai ddim byd arall i’w wneud.

Dwi’n gweithio mewn ysgol uwchradd, felly ma’ cynllunio gofalus yn gorfod digwydd cyn fy mod i’n gwneud dim gan bod angen ystyried pryd dwi’n dysgu a phryd ma gennai gyfarfodydd (pryd dwi’n gallu defnyddio’r ty bach). Nawr does dim byd. Dim. Heblaw am gegin, bathroom, ac ymenydd llawn meddyliau am fwyd. Dyna’i gyd sy’n troi a throi.

Does gen i ddim apwyntiadau ar y gweill ar hyn o bryd – mae hynny yn deimlad annifyr. Mae fel bod yn wch yng nghanol y môr heb rwyfau. Dwi wastad wedi cymharu’r ffordd dwi’n gweld bywyd fel edrych trwy gwydr sydd ‘di beintio. Pawb arall yn hapus, clud a chyfforddus ei byd yw’r ochr golau, a fi’n edrych trwyddi ac yn gweld ac ysu i fod gyda nhw. I fod yn rhan o’r bwrlwm. I fod yn rhan o’r ochr normal. Ond yn lle, dwi’r ochr dywyll, unig a swn i ddim ishe i neb fod yr un ochr â fi.

Ma’ ne bobl gwaeth off na fi. Ma’ ne bobl sydd mewn sefyllfaoedd gwaeth. Ma ne bobl sy’n mwynhau’r cyfnod yma. A lleill ddim. Un peth dwi’n erfyn ar bawb yw i godi’r ffôn. Checiwch bo’ch ffrindiau’n iawn. Tecstiwch, Facetime, gyrrwch luniau. Achos, un peth sy’n sicr, dwi’n gwybod fe wnewn nhw ei werthfawrogi. Falle gewch chi ddim ateb am sbel, neu ddim o gwbl, ond o leia ma’ nhw’n gwbod bo chi yno ac yn meddwl amdanynt. Mae hynny’n ddigon i newid diwrnod rhywun o fod yn un ddiwerth, unig ac isel uffernol i rhywbeth positif, yn rheswm i wenu ac yn rhoi pwrpas unwaith eto. Fe ddaw haul ar fryn, bobl, dwi’n siwr.

Rhannu

Gadael Ymateb