Beth yn y byd yw galar patholegol (neu galar cymhleth/hirfaeth)?

Beth yn y byd yw galar patholegol (neu galar cymhleth/hirfaeth) a sut mae’n effeithio ar unigolion?

Yn Saesneg, fe’i elwir yn ‘Complicated Grief’ neu’n ‘Complicated Bereavment Disorder’. Cyn eleni nagon i erioed wedi clywed am y math yma o alaru. A dweud y gwir doeddwn i ddim wedi meddwl rhyw lawer am y broses o alaru, nac ychwaith wedi ystyried bod marwolaeth yn medru arwain at gymhlethdodau (weithiau’n ddifrifol) iechyd meddwl.  Wrth reswm, gwyddwn fod colli rhywun annwyl yn medru achosi poen difrifol a hiraeth ofnadwy, ond doedd dim cliw gyda fi y byddai’n cael effaith fel hyn arnaf. Er nad yw profedigaeth yn syml o bell ffordd ac mae galaru’n broses hollol unigol, ni feddyliais bod proses naturiol fel galaru (sy’n digwydd i bawb) yn medru arwain at salwch. Er bod Freud a Kubler-Ross a nifer eraill wedi ymchwilio a chwestiynu’r broses o alaru, does dim digon o astudiaethau seicolegol wedi eu cyflwyno ar y pwnc penodol o alaru’n ddifrifol neu’n batholegol.  Does dim digon o gydnabyddiaeth meddygol i’r diagnosis, felly mae’r triniaethau’n brin ac yn medru arwain felly at niwed swyddogaeth difrifol.

Pan gafodd mam y diagnosis o gancr ym mis Ionawr 2018, daeth fy myd, a byd fy nheulu i ben.  Yn hytrach na delio gyda’r ffaith bod ei salwch yn derfynol, fe wnes i daflu fy hun i mewn i ofalu amdani, ynghyd â gweithio a pharhau i fynychu’r brifysgol i ymgymryd â gwaith ymchwil.  Wrth edrych nôl roeddwn i’n osgoi pethe ac yn gwrthod wynebu’r ffaith bod dim modd iddi wella ac y byddwn i’n ei cholli yn y dyfodol agos.  Cafodd mam driniaeth cemotherapi, ac er y cyfnodau anodd, mi wnaeth y driniaeth olygu bod hi’n cael byw am rai misoedd yn ychwanegol.  Yn y diwedd roedd ei chorff yn wan wedi’r holl ymladd, a bu farw ym mis Ebrill eleni. Dwi’n cofio ei gweld yn dioddef ond yn brwydro hyd at y diwedd, a finne’n erfyn arni i beidio a’m gadael.  Roedd yr wythnosau a’r misoedd wedyn yn hunllef, yn ‘blur’, yn ofnadwy o drist a phoenus, ac yn y diwedd mi wnes i ildio, gan bo pethau ddim yn teimlo cweit yn ‘normal’, ac fe wnes i apwyntiad i fynd i weld y meddyg teulu.  The rest is history fel petai!

 

Galar patholegol (neu galar cymhleth) yn syml, yw’r ymateb i brofedigaeth lle mae galaru aciwt a dwys yn para am gyfnod hirach na’r arfer, oherwydd cymhlethdodau yn y broses naturiol o iachau a gwella.

Mae tipyn o anghytuno ymysg meddygon ac arbenigwyr oherwydd cymhlethdod galar yn gyffredinol, ac i raddau mae person sy’n galaru’n ‘normal’ a’r unigolion hynny sydd yn galaru’n ‘gymhleth’ yn dangos yr un symptomau. Un gwahaniaeth efallai yw pan ydych chi’n galaru’n batholegol rydych chi’n styc yn y galar ac yn methu dygymod na gweithio trwy’r broses mewn modd naturiol.  Mae’r ystadegau’n dangos bod galar cymhleth yn fwy cyffredin na’r disgwyl, ond mae angen cryn dipyn mwy o ymchwil i mewn i’r salwch.  Problem arall yw’r ffaith bod cysylltiad cyson ac amlwg rhwng galar cymhleth a salwch meddyliol e.e. gorbryder (anxiety), anhwylder iselder dwys (MDD) ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Mae amser yn gysyniad rhyfedd iawn i fi erbyn nawr – weithiau mae treigl amser yn pasio’n gyflym ond eto yn llusgo. I mi, mae’n teimlo fel megis ddoe bu farw mam ond wedyn, dwi’n teimlo bod oes a mwy wedi pasio ers i mi siarad gyda hi a’i chlywed yn chwerthin neu’n rhoi cyngor. Mae galaru’n sleifio lan arnoch yn ara’ bach ond mae’n gwneud yn siŵr ei fod yn gafael yn dynn, lle nad yw’n ildio nac yn gollwng yn rhydd, gyda’i grafangau yn gwrthod rhyddhau’i grip .  Nes i ddim rhagweld na pharatoi o gwbl y bydden i’n teimlo fel hyn 6 mis wedi iddi farw, er dwi’n ymwybodol yn nhermau amser profediagaeth, bod 6 mis dal yn ddyddie cynnar. Golyga’r ffaith taw fi oedd prif ofalwr mam fy mod i’n fwy tebygol i fethu ymdopi gyda galaru’n normal ac felly’n fwy agored efallai i ddioddef gyda galar cymhleth. Teimladau o rwystredigaeth, dicter, tristwch llethol, siom, hiraeth ac o golled sydd dal mor ffresh heddiw ag yr oeddynt y noson y bu hi farw. Dyw treigl amser ddim yn stopio i neb, er fy mod i’n teimlo’n styc mewn byd sydd dal yn troi, a bod amser rywsut wedi fy mharlysu. Dwi’n ofni colli rhywun arall ac yn ofni marwolaeth, ond eto ar adegau, dwi’n gweld hi’n anodd deall pwrpas bywyd hebddi ac mae ymladd yr iselder a’r galar yma bron yn teimlo’n amhosib, ac yn hynod o flinedig a gwanychol.

Marwolaeth a phrofedigaeth yw dau o eiriau mwyaf brawychus ac ofnus yng ngeiriaduron pawb, ac yn gyffredinol mae cymdeithas yn osgoi trafod y mater.  Dwi’n meddwl ein bod ni fel pobl yn gwrthod trafod marwolaeth ac mae angen tipyn mwy o godi ymwybyddiaeth, trafod galar yn agored a sicrhau bod digon o gefnogaeth yna i’r rhai sydd angen. Credaf fod angen mwy o drafodaethau agored ynglyn â marwolaeth, yn ogystal â mynediad i therapiau amrywiol. Gwn bod profedigaeth yn anochel a bod pawb yn mynd i orfod wynebu galar yn eu bywydau, felly mae eisiau i ni gyd fod yn fwy parod i dderbyn galar a’r boen emosiynol sy’n rhan anochel ohono, yn hytrach na’i wadu a bod yn gyndyn i’w drafod.

Mae bywyd wedi troi wyneb i waered.

Does dim byd yr un peth ac mae dynameg y teulu wedi newid yn ddramatig. Rydw i’n amrwd, yn gandryll o grac tuag at bawb a ddim lot o hwyl i fod o amgylch. Dwi wedi cau fy hun i ffwrdd oddi wrth fy ffrindiau i gyd a does gyda fi ddim amynedd tuag at ddim. Mae colli mam wedi bod yn ergyd drom a gwyddwn bod cyfnodau tywyll a du dal o’m blaen i. Mae’r unigrwydd weithiau’n uffernol o ofnus, a’r siwrne’n un anodd ac afiach, a finne’n teimlo popeth i’r briw, wrth i mi ymdrechu i ennill y frwydr. Does dim cymhelliant gyda fi, dim awydd cyflawni dim ac mae fy sgiliau canolbwyntio a fy holl awydd cyffredinol wedi diflannu. Dwi’n poeni’n ormodol am bopeth ac yn gorfod brwydro bron yn ddyddiol i fynd allan o’r tŷ oherwydd diffyg hyder.  Mae’r problemau cysgu difrifol yn parhau i amharu ar rediad bywyd ac mae’r hunllefau a’r ôl-fflachiadau mor realistig, lle dwi’n ail chwarae y noson bu mam farw drosodd a throsodd nes fy mod i’n teimlo bo fi’n mynd off y mhen!  Teimlaf ar goll mewn byd sy’n greulon ac unig. Er bo’ na ddigon o bobl o fy amgylch, dwi’n chwilio am mam ym mhob man, oherwydd taw hi yw’r un dwi ishe fwy na dim.  Mae’n gysyniad rhyfedd taw’r unig un a fyddai’n medru gwneud popeth yn iawn unwaith eto yw’r un sydd ddim yma.  Dwi dal methu bwyta’n iawn (the grief diet!) ac mae naill gyda fi ormod o egni neu ddim digon.  Cyn i mam farw bydden i wedi hen sgwennu’r darn yma, ond mae wedi cymryd wythnose i fi jyst i gofnodi pytiau o feddyliau ar bapur.

Byddai mam yn torri’i chalon petai’n gweld fi’n dioddef fel hyn, felly rhaid i mi barhau i ymladd nes bo fi’n gwella neu o leia’n troi cornel, er mwyn ceisio curo hwn. Dwi’n gweld ei heisiau’n arw ac fe nelen i rwbeth i fod yn ei chwmni unwaith eto.

Dyma rai symptomau posib galar patholegol yn ôl Psychology Today (2013):

  • Problemau difrifol gyda derbyn y farwolaeth
  • Ffocysu’n eithafol ar y golled a meddwl am yr atgofion mewn modd dwys (bron yn obsesiwn)
  • Dyheu difrifol ac ysu cyson am y meirw
  • Iselder a thristwch llethol
  • Diffyg ymddiried ym mhobl eraill
  • Teimlo’n ddideimlad neu’n ddadgysylltiedig
  • Anallu i fwynhau unrhyw agwedd o fywyd
  • Hydeimledd neu gynnwrf
  • Synfyfyrio cyson a galaru’n afiach
  • Chwerwedd ynglyn â’r brofedigaeth
  • Teimladau bod bywyd yn ddiwerth ac yn ddi-bwrpas
  • Eithrio eich hun o agweddau a gweithgareddau cyhoeddus
  • Trafferth ymgymryd â bywyd bob dydd

Er bod yr uchod i gyd yn negyddol a thrist, dwi’n anelu ac yn gweithio’n galed i drechu’r tostrwydd yma wrth ymgymryd â therapiau amrywiol a pharhau i gymryd meddyginiaeth. Rhai pethau sy’n helpu yw darllen, ysgrifennu, bod allan yn yr awyr agored a meddylgarwch emosiynol a hypnosis, ynghyd ag amynedd ag empathi fy nheulu a ffrindiau agos. Er y cyfnodau anodd a’r teimladau o dristwch a phoen emosiynol a chorfforol anioddefol, dwi’n benderfynol o wella ag ail-ymgymryd yn fy ngradd meistr Seicoleg a fy ngwaith dysgu. Gwn yn iawn na fydd modd i mi ddianc rhag y galar yma (ni fyddai’n deilwng petai na ddim galaru a hiraethu) ac y bydd yn rhan ohonof tra byddaf byw.

Mae fy ngalar yn dyst i’r cariad, i’r gofal ac yn brawf o’r agosatrwydd a’r berthgynas glos oedd rhwng mam a finne.

Bethan Thomas

Medi 2019


Darllen rhagor:

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb