Be ydi iselder ym meddwl eraill?

Dwi’n meddwl bod lot o bobl sydd ddim yn deall beth ydi iselder ac heb gael profiad ohono yn meddwl bod pobl sy’n dioddef gydag o yn gwneud dim ond crio. Yn eistedd ar y llawr mewn ystafell dywyll yn siglo nôl ac ymlaen am oriau. Oce, gall hyn fod yn wir am rhai pobl ac am rhai gyfnodau o iselder falle, ond dim drwy’r amser.

Gallai person fod yn cael diwrnod hunllefus o fod yn crio, heb fod am gawod a ddim isio gwneud dim. Ond yn dal i fedru ateb neges text, medru gwisgo dillad lliwgar, mynd allan am dro neu hyd yn oed gwneud jôc ysgafn a chwerthin. Gall bobl roi gwyneb neu act ymlaen a pharhau i ymddangos o’r tu allan fel rhywun sydd ddim yn dioddef o salwch meddwl. Mae hyn yn sgil gan nifer o bobl sy’n dioddef o wahanol achosion o salwch meddwl. Er y cynnydd diweddar mewn cyhoeddusrwydd am salwch meddwl, mae rhai pobl yn parhau i gysylltu’r peth gydag ysbytai a phobl yn ymddwyn mewn ffordd “gwahanol” yn y stryd – dydyn nhw wirioneddol ddim yn deall sut beth ydi o.

Mae ‘na gymaint o bobl yn parhau i wneud jôc a defnyddio geiriau sy’n gysylltiedig â salwch meddwl yn rhy ysgafn.

Yn aml iawn byddai’n clywed pobl yn dweud eu bod nhw’n depressed ond does ganddyn nhw ddim syniad beth ydi ystyr y gair. Mae ‘na gymaint o bobl yn camddehongli iselder efo teimlo ychydig yn isel. Mae rhai eraill yn ei ddefnyddio fel cyfeiriad mewn jôc – “Os byddai’n aros yn fama llawar hirach byddai’n depressed”. Dwi’n gwybod nad ydi rhan fwyaf ohonynt yn meddwl dim drwg wrth wneud cyfeiriad o’r fath ond mae defnyddio’r geiriau yn y fath ystyr yn brifo ac yn medru gwneud niwed i’r rhai sydd wirioneddol yn dioddef.

Mae agwedd ac ymddygiad fel hyn yn ei gwneud hi’n gymaint anoddach i’r rhai sydd wir yn dioddef gyfaddef wrth eraill ac agor fyny am y ffordd maen nhw’n teimlo. Mae bobl yn dal i gael ymateb fel “Chdi? Pam dy fod di’n isel?” neu “Fyddi di’n iawn, cael diwrnod isel wyt ti” neu “Dwyt ti ddim yn edrych fel dy fod yn dioddef o iselder”. Mae ymatebion neu sylwadau fel hyn yn gwneud i’r sawl sy’n sâl gwestiynnu ei hun a gwneud iddynt boeni na fydd pobl eisiau bod yn eu cwmni rŵan eu bod yn gwybod y gwir amdanynt. Mae’n gwneud iddyn nhw deimlo mor dywyll a’r teimlad sydd tu mewn i’w pen. Mae’n gwneud iddyn nhw feddwl bod rhaid iddyn nhw fod yn drist, isel neu crio yn aml gan mai dyna mae pobl yn ddisgwl ei weld gan rhywun sy’n dioddef o iselder. Os nad ydyn nhw’n gweld hyn, gallen nhw feddwl bod y sawl sy’n sâl yn dweud celwydd am eu cyflwr neu wedi gwella’n sydyn.

Mae’n anodd.

Mae’n anodd i’r sawl sy’n dioddef ddygymod â’r hyn sy’n mynd ymlaen yn eu pen, sut i weithredu arno a wedyn sut i geisio adrodd ar hynny ac egluro wrth bobl eraill. Mae fel teimlad cyson o ofni y byddent yn cael eu barnu gan bobl eraill. Weithiau fedrith rhywun sy’n dioddef fod yn wirioneddol oce – cael hwyl, chwerthin a mwynhau. Ond ymysg y chwerthin mae ‘na o hyd ddarn o iselder yn y canol. Dydi o byth yn diflannu yn gyfan gwbl. Weithiau mae ond yn ddarn bychan ac ar adegau eraill gall fod yn ddarn mawr. Ond, er gwaetha’r maint, mae’r person o hyd yn ei deimlo er nad yw’n ei rannu gyda’r bywyd tu allan. Mae yno o hyd er nad yw o hyd yn weladwy i eraill ei weld.

Er mor anodd ydi byw efo iselder, dydi pob diwrnod ddim yn ddrwg. Efallai fod na ddrwg ymhob diwrnod ond gall fod da mewn pob diwrnod drwg hefyd, dim ond bod angen gwneud gwaith caled i ddod o hyd iddo. Mae ‘na nifer o bobl sy’n dioddef o iselder wedi dysgu sut i fyw efo fo a wedi dod i arfer iddo fod yn “normal” – mae’r bobl yma wedi gwneud yn ardderchog.


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb