Artaith: bod yn garcharor yn dy feddwl dy hun – Sara Manchipp

Mae bod yn garcharor caeth yn dy feddwl dy hun yn artaith creulon. A dyma yw’r teimlad sydd wedi fy llethu i dros ddeg mlynedd, a’r gofid y bydd fy meddyliau yn cymryd drosodd ac y byddaf wedi fy nghaethiwo y tu fewn i fy mhen am byth.

Hyd yn oed pan oeddwn yn blentyn saith mlwydd oed, rwy’n cofio’r teimlad fod yn rhaid i mi wneud rhyw weithred arbennig neu byddai rhywbeth erchyll yn digwydd i rywun annwyl i mi. Ar ôl diffodd swits y golau er enghraifft, byddai’r teimlad yn cymryd drosodd fy meddwl fod yn rhaid i mi fynd nôl a throi y swits ymlaen a bant nifer arbennig o weithiau neu byddai fy mam yn cael ei lladd mewn tân yn y tŷ. Gallwn fod yno am ugain munud yn troi’r golau ymlaen a bant yn fy ystafell wely nes i rhywun ddod ataf a gofyn beth yn y byd oeddwn i’n gwneud. Yn y gwasanaeth boreol yn yr ysgol byddwn yn gorfod llyncu a chau ac agor fy llygaid drosodd a throsodd hyd nes y gallwn deimlo fod y bygythiad o niwed i fy anwyliaid wedi cael ei drechu. Wrth gerdded lawr y stryd byddwn yn gorfod osgoi y craciau yn y palmant neu byddai fy mam-gu a thad-cu yn marw. Roeddwn y gwbl gaeth i’r clefyd hwn yn fy meddwl a oedd yn bygwth fy ngormesu yn llwyr.

Doedd fy ffrindiau ddim yn deall, na chwaith fy nheulu, na fi fy hun. Derbyniwyd fy ymddygiad fel un o’r pethau “od” yna mae plant yn gwneud. Gallwn i, fel plentyn, ddim amgyffred y peth na’i brosesu; gan fod y ‘meddyliau’ yma yn fy mhen fy hun, mae’n rhaid eu bod yn wir: iawn?

Dyma oedd cychwyn ar frwydr hir-dymor sy’n parhau hyd y dydd heddiw, fy mrwydr gyda Obsessive Compulsive Disorder neu OCD.

Gyda threigl amser, mae fy OCD wedi morffio i wahanol ffurfiau. Pan oeddwn i’n chwech a saith byddwn yn gorfod cyffwrdd pethau nifer arbennig o weithiau, camu ar bethau a chyfrif drosodd a throsodd yn fy mhen. Yna, wedi cyrraedd wyth roedd amddiffyn rhag heintiau yn obsesiwn i mi. Argyhoeddais fy hun fod popeth roeddwn i’n cyffwrdd wedi’i heintio. Byddwn yn sgwrio fy nwylo mor galed nes i’r croen gael ei dynnu i ffwrdd gan adael briwiau agored gwaedlyd y byddwn yn eu sgwrio bob dydd. Aeth impetigo i mewn i un o’r clwyfau a gorfu i’m llaw gael ei fandio i rwystro heintio pellach. Gan na allwn obsesio am fy nwylo, argyhoeddais fy hun fod y rhaglenni roeddwn i’n eu gwylio ar y teledu yn gallu fy heintio. Rwy’n cofio gweld rhaglen am ddyn a oedd yn diodde o diwmor ar yr ymennydd a des yn argyhoeddedig fod tiwmor arnaf innau hefyd. Byddwn y llefain a’n pryderu yn ormodol ‘mod i’n diodde o rhyw glefyd erchyll. Wnes i ddim cyffesu wrth neb am yr hyn oedd yn digwydd y tu fewn i fy mhen.

Gyda’r blynyddoedd, wrth i mi dyfu i fod yn oedolyn fe dawelodd yr OCD, gan ddiflannu’n llwyr am nifer o flynyddoedd. Pan gyrhaeddais 20 mlwydd oed, fe ddechreuodd y cyfan eto. Y tro hwn, roeddwn ar wyliau ym Majorca gyda fy mam, ac fe’m llethwyd gan y meddyliau mwyaf treisiol, erchyll a dinistriol na wydden i fod yn bosibl i mi eu profi. Fe ddaethon nhw ar fy nhraws yn ddi-rybudd. Roeddwn i’n eistedd yn bwyta pryd gyda’r hwyr pan ddaeth teimlad poeth a chwydlyd drosof, a llenwodd fy mhen â meddyliau a delweddau atgas a oedd fel dwrn yn fy wyneb nes achosi i mi neidio ar fy nhraed a rhedeg drwy’r bwyty mewn dryswch llwyr gan chwydu i mewn i bot planhigyn yn y dderbynfa. Doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd i mi, a meddyliais mai falle’r bwyd oedd yn gyfrifol ac es i’r gwely. Ond roedd y meddyliau’n parhau i ddod, delweddau o fi yn trywanu fy mam drosodd a throsodd gyda chyllell cegin.

Ro’n i wedi dychryn i’r byw ac yn meddwl ‘mod i’n mynd yn wallgo.

Dros yr wythnosau dilynol, roeddwn yn profi’r delweddau treisiol yn fflachio drwy fy meddwl a phob tro bydden nhw’n digwydd byddwn i’n chwydu hyd nes bod dim nerth ynof i sefyll a byddwn y cwympo’n ffladach i’r llawr. Parodd y meddyliau gymaint o ofn nes i mi stopio bwyta a byddwn yn ofni deffro yn y bore; pan oeddwn yn cysgu, roedd y meddyliau’n dawel. Roedd byw o ddydd i ddydd yn ymdrech anferth a finnau’n llawn ofn am pryd y deuai’r meddwl dinistriol nesaf. Llanwyd fi â’r teimlad ‘mod i’n berson drwg a byddwn yn llefain am oriau bob nos. Ni ddywedais am fy ngofid wrth neb, gan ‘mod i’n ofni y byddwn yn mynd i ysbyty meddwl tasen i’n dweud wrth rywun a chael fy nghymryd oddi wrth fy nheulu.

Byddai’r meddyliau bob amser yn ymwneud â’r bobl agosaf ataf i. Byddwn yn meddwl am ladd fy nhad-cu a mam-gu wrth iddynt gysgu, neu mogi fy nghi, niweidio fy mrawd, fy ffrindiau neu’n olaf fi fy hun. Parhaodd y profiadau erchyll am fisoedd, yn gaeth yn fy meddwl fy hun a byth yn teimlo’n ddiogel, yn amau ‘mod i’n colli ‘mhwyll. Un diwrnod, wedi disgyn i 7 stôn 10 oherwydd gofid fy salwch, penderfynais bod yn rhaid i mi weld fy meddyg gan nad oedd gobaith i mi wella.

Bellach mae 8 mlynedd wedi mynd heibio ers i mi ofyn am help achos yr OCD – 8 mlynedd ers i mi gyffesu wrth rhywun am fy nheimladau. Dyna’r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Cefais y diagnosis o “Harm OCD” neu “Pure OCD” a nifer o sesiynau cwnsela  a meddyginiaeth addas. Rwyf bellach wedi deall nad yw’r meddyliau holl-bresennol a’r OCD yn rhan o’r person wyf i, ond yn hytrach mai clefyd gorbryder ydyw ac nad yw’n adlewyrchu dim o’r math o berson wyf i.

Rwy’n dal i ddioddef o orbryder ac yn cael y teimladau gwael pan fydd stress. Rwy’n gwybod hefyd na fyddaf fyth yn rhydd yn llwyr o’r OCD a’r gorbryder, ond nawr mae gennyf y wybodaeth a’r offer i reoli’r teimladau. Rwy’n dal i gael dyddiau gwael iawn pan fyddai’n teimlo fod y salwch yn fy llethu, ond nawr ‘mod i wedi siarad yn agored ac wedi cael cymorth, dw’i ddim yn teimlo mor unig gyda fy meddyliau; rwy’n gwybod fod pobl dirifedi wedi cael yr un profiadau a fi a’u bod yn brwydro ac yn ennill yn erbyn y salwch hwn bob dydd.

Hoffwn, felly, godi ymwybyddiaeth am y gwahanol fathau o OCD sy’n bodoli – nid cyflwr syml sy’n gwneud i chi fod yn berffeithydd yw hwn yn unig. Y mwya’ o bobol sy’n siarad yn agored amdano y lleia’ o stigma fydd yn perthyn i’r pwnc, a’r mwya’ o bobol fydd yn gofyn am help ac yn teimlo fod eraill yn deall eu sefyllfa.

Sara Manchipp


Darllen rhagor:

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb