Ar goll

Dwi’m cweit yn siwr be sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd.

Dwi’n temlo’n blanc ac yn ddi-deimlad. Dwi’n teimlo dim byd. Dwi ddim isio gwneud dim a dwi ddim isio gweld neb. Ond mae’n deimlad gwahanol i be dwi wedi bod yn ei deimlo. Dio ddim y teimlad o fod yn styc mewn twll tywyll a methu dianc allan. Dio ddim mod i’n crio ar y llawr am oriau a methu stopio. Dio ddim mod i’n gorfforol methu mynd allan i’r siop. Does gen i jysd ddim yr egni na’r nerth i ‘neud yr un o’r pethau hynny. Ac i fod yn onest, dwi ddim isio eu gwneud nhw chwaith. Dwi digon bodlon i fod yn y tŷ trwy’r dydd yn gwneud dim.

Dydi o ddim yn deimlad eithafol lle dwi’n teimlo na fedra’i gario mlaen ddim mwy – dwi wedi cael hynny a dio ddim yn le braf i fod ynddo. Mae’r teimlad yma’n wahanol. Dwi’n gwybod hefyd ei fod yn fwy o deimlad na dim ond “sgenai ddim awydd” – mae pawb yn cael rheiny o dro i dro. Mae’n fwy na hynny. Pan mae dyddiau o’r fath yn taro rhywun mae pobl fel arfer yn medru ei luchio i’r ochr a mynd ymlaen efo’u bywyd dydd i ddydd. Dwi methu gwneud hynny. Dwi’n teimlo’n drwm.

Mae’r ochr yma o’r iselder yn newydd i mi a dwi ddim yn gwybod sut i ddelio ag o.

Dwi’n teimlo ar goll ac yn ddryslyd. Dwi ddim yn gwybod be sy’n digwydd a dwi ddim yn gwybod be i neud. Dwi wedi rhywfath o ddod i delerau efo’r symptomau hynny dwi ‘di arfer â nhw. Dwi’n gwybod pryd mae nhw’n dod ac mae gen i ambell i beth y medra’i ‘neud i wneud fy hun deimlo yn well pan fyddai’n cael fy nharo. Er mod i wedi dechrau dod i delerau â’r peth, dydi hynny ddim i ddweud eu bod nhw wedi dod yn haws i’w trin – mae nhw dal yr un mor anodd ond efallai nad ydynt yn digwydd mor aml, ac mae’n gymaint o gysur mod i’n medru delio â nhw’n well na’r oeddwn i. Ond dwi ddim yn gwybod sut i ddelio efo’r teimladau newydd ‘ma. Dwi ddim yn eu ystyried fel cam yn ôl achos dydyn nhw ddim. Mae nhw yn gam gwahanol, dyna’r oll. Cam yn ôl fyddai bod yn nyfnder fy nheimladau a’n emosiynau eto a methu canfod ffordd allan. Dydw i ddim yn fanno. Dwi wedi gwella o hynny, dwi’n gwybod mod i. Ond dwi rŵan ar gam arall o’r siwrne a dwi ddim yn gweld y llwybr o mlaen.

Dwi ddim yn gwybod ond dwi’n cymryd mai effaith y meddyginiaeth newydd dwi arnyn nhw ydi’r rheswm dros y newid yn y ffordd dwi’n teimlo. Mi welas i seiciatrydd ychydig o wythnosau yn ôl ac mae bellach wedi newid fy meddyginiaeth i rai y mae’n teimlo y bydd yn gweithio yn well i mi. Mae gen i ffydd ynddo. Mi wnaeth i mi deimlo fel bod rhywun yn gwrando arnai, mod i wirioneddol yn sâl a mod i angen help a chymorth i wella. Dim mod i’n dweud mod i heb gael hynny gan fy noctor ond mae cael rhywun proffesiynol yn y maes iechyd meddwl yn gwrando arnoch chi, yn cydnabod eich symptomau a’ch teimladau a’ch cysuro bod rhywbeth y medrir ei wneud i’ch gwella chi yn gysur mawr a cefais hwb bach o hynny. Dwi felly’n trio dweud wrth fy hun mai’r teimladau newydd ‘ma dwi’n eu cael ydi ffordd fy mhen a nghorff o ddod i arfer efo effaith y meddyginiaeth newydd. Mae’n debyg bod yr hen feddyginiaeth yn parhau i fod yn fy nghorff hefyd a bod gen i gymysgedd ohonynt erbyn hyn yn trio gweithio’n erbyn ei gilydd. Mae gen i ffydd y byddai’n well eto mewn ychydig wythnosau. Dwi’n gobeithio erbyn hynny y bydd y teimladau dryslyd wedi cilhau a bydd pethau yn gliriach yn fy mhen. Efallai y byddai angen cynyddu’r meddyginiaeth erbyn y tro nesaf i mi weld y seiciatrydd neu efallai y byddai angen meddyginiaeth newydd eto.

Ar y funud dwi’n canolbwyntio ar y foment bresennol a chymryd pob awr fel mae’n dod. Dyna’r oll fedra’i neud. Sgenai ddim y nerth i wneud dim mwy. Dwi’n trio mor galed ag y medra’i a dwi’n ddiolchgar nad ydw i yn y tywyllwch dwi wedi bod ynddo.


Ymwadiad: Mae pob meddyginiaeth yn effeithio ar bawb yn wahanol. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol cyn cychwyn neu roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth.


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb