Annerbyniol, eilradd, peryglus: gwasanaeth iechyd meddwl mewn ail iaith

Bob hyn a hyn mae rhywun yn gweld neu’n clywed rhywbeth sy’n creu argraff, sy’n gymysgedd o ysgytwad ac ysbrydoliaeth, ac sy’n ei wneud yn fwy penderfynol nag erioed i weithredu er mwyn gwella pethau.

Profiad o’r fath ges i un prynhawn Gwener gwlyb yn ddiweddar. Y lleoliad oedd y tu allan i stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd a’r pwnc dan sylw oedd pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.

Criw bychan ohonom oedd yno – â phawb, rwy’n tybio, yn rhannu’r un farn ynglŷn â phwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg. Er hynny, roedd clywed y siaradwyr yn dweud eu stori yn brofiad dirdynnol. Gadawodd gadernid a dewrder y bobl hyn, sawl un ohonyn nhw’n bobl ifanc, argraff ddofn arna i, a bydd eu geiriau yn aros gyda fi.

Roedd y cyflyrau a’r salwch yn amrywio, ond roedd y profiadau’n gyson. Methu â chael gwasanaeth iechyd meddwl yn y Gymraeg.

Dyw salwch meddwl ddim yn rhywbeth y gallwch ei weld; mae’n rhaid siarad, ac esbonio a disgrifio’r teimladau a’r meddyliau tywyllaf a’r mwyaf personol. Mae pobl yn gweld siarad am broblemau iechyd meddwl yn anodd beth bynnag y sefyllfa. Ychwanegwch at hyn y boen a’r straen ychwanegol o orfod gwneud hynny yn eich ail iaith; iaith efallai nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn ei siarad, neu iaith nad ydych chi’n teimlo sy’n disgrifio eich teimladau’n iawn.

Pan fo rhywun wedi cyrraedd y sefyllfa lle mae angen gwasanaeth iechyd meddwl arno, nid dyna’r amser i bwyso am wasanaeth Cymraeg. Fel clywsom ni, mae’r claf ar y pwynt hwnnw yn aml – os nad yn ddieithriad, – mewn sefyllfa rhy fregus i fod yn ymgyrchu am wasanaeth Cymraeg. Mae’n cael ei roi mewn sefyllfa amhosibl, o dderbyn gwasanaeth yn ei ail iaith neu aros yn hir am wasanaeth Cymraeg.

Fel Comisiynydd y Gymraeg, mae gen i rôl o ddylanwadu ar y bobl sy’n llunio polisïau a gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Dyma dair neges yr wyf am iddynt eu clywed:

  • Mae disgwyl i glaf bwyso am wasanaeth Cymraeg yn annerbyniol.
  • Mae gwasanaeth mewn ail iaith yn wasanaeth eilradd.
  • Mae gwneud i glaf aros yn hirach am wasanaeth Cymraeg yn gallu bod yn beryglus.

Mae gen i rôl hefyd o osod safonau ar sefydliadau, eu rheoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth â nhw. Y safonau hyn sy’n creu hawliau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a bydden i’n dadlau nad oes dim sy’n bwysicach nag yn fwy allweddol na hawliau claf i wasanaeth yn ei famiaith.

Serch hynny, alla i ddim cyflawni’r swyddogaeth hon ar hyn o bryd, gan nad yw’r rheoliadau safonau iechyd (sef cynnwys y safonau) wedi eu cyhoeddi. Y Llywodraeth sy’n gyfrifol am eu drafftio a’u llywio drwy’r Cynulliad. Bydd yr holl Aelodau Cynulliad yna yn pleidleisio i’w pasio neu eu gwrthod, a dim ond wedi iddynt gael eu pasio y gallaf fi fwrw ymlaen â’r broses o’u gosod ar sefydliadau.

Fe gynhaliodd y Llywodraeth ymgynghoriad i beth ddylai cynnwys y safonau fod  yn ystod yr haf diwethaf. Ers i’r ymgynghoriad gau, mae gwaith wedi bod yn mynd ymlaen tu ôl i’r llenni i ddatblygu’r rheoliadau, ond rydym dal yn aros iddynt weld golau dydd.  Mae cyflwyno’r rheoliadau hyn yn allweddol er mwyn creu hawliau i gleifion sy’n defnyddio’r Gymraeg ac mae’n bwysig ei bod yn cael eu cyflwyno mor fuan â phosibl.

Fel dywedais i, cynulleidfa fechan ddaeth i wrando ar y sesiwn yn Eisteddfod yr Urdd. Roedd y profiadau a’r anerchiadau mor gryf ac mor effeithiol, fel fy mod yn teimlo ei bod hi’n hanfodol bod y sawl sy’n gwneud y penderfyniadau hefyd yn eu clywed. Rwy’n awyddus iawn i gefnogi golygyddion y wefan hon, Cymdeithas yr Iaith ac eraill i rannu’r neges, drwy gael trafodaeth ehangach ar y pwnc.

Wrth gau, carwn ddiolch i meddwl.org, Cymdeithas yr Iaith a’r siaradwyr, am ddigwyddiad arbennig; ac am yr ysgytwad a’r ysbrydoliaeth a gefais i. Gyda’n gilydd fe allwn weithio gyda’n gilydd i wella pethau.

Meri Huws
Comisiynydd y Gymraeg