Adferiad: Stori mewn 3 rhan

Rhybudd: Mae’r blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at hunan-niweidio ac hunanladdiad.

Llun: Google Images.

Darn byr yw hwn; does dim angen manylion, a beth bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r atgofion ar goll, yng nghol amser trugarog. Mae yna dri rhan i’r stori: plentyndod, angau’r arddegau, a thyfu lan.

Plentyndod

Gefeiliau daeth a fi ymaith i’r byd. Cleisiau a chrio. Poen i fi a mam, a bu mam yn atgoffa fi yn gyson am ei phoen hi. Gadawodd i fi grio tan i fi ddistawi, a sefyll yn ddistaw gwnes i yn blentyn. Merch dawel, merch dda, merch od meddau mam.

Roedd bywyd yn yr ysgol yn dda, ro’n i’n hoffi darllen ac yn dda mewn mathemateg, darlunio a dringo coed. Chwarae gyda ffrindiau, nofio, rhedeg, ac roedd croeso a gwres ar gael yng nghartrefi fy ffrindiau, ond doedd neb yn cael dod adre i fy nhŷ i. Roedd mam a thad yn bobol gwynad, a doedd fawr o gymorth, dim siarad, dim cyffwrdd, dim gofyn, dim canmol – dim. Bron dim byd. Curiad ambell waith a mam yn pinsio yn dawel, ond y peth gwaethaf oedd yr esgeulustod emosiynol, yr anwybyddu a oedd y gwenwyn ag aeth i graidd a gwraidd fy enaid bach.

Diolch am fam-gu a hen fenywod eraill. Yn nhŷ mam-gu roedd chwerthin, gwres a rhyddid i fod – i fod fy hun.  Mae gen i atgofion tenau am blentyndod yn fy nghartref; dwy wedi ceisio cofio, ond does fawr o ddim yn dod ‘nôl.  Bu farw mam-gu pan oeddwn yn saith mlwydd oed ac aeth y byd yn dawel ac yn flin.  Bu rhyw gyfrinach ynglyn ag wncwl agos a ddaeth a newidiadau arall, ond stori arall yw hon.

O’r tu allan roedd popeth i weld yn ei le. Wedi gwisgo’n dda, yn lan; ond doedd neb yn gwybod beth aeth ymlaen tu ôl i’r llenni, o dan y wyneb a welodd y byd.

 Angau’r arddegau

Unigrwydd dwys sy’n diffinio blynyddoedd cynnar f’arddegau.  Ysgol Newydd, ffrindiau ysgol gynradd wedi mynd i’r ysgol Saesneg, a theimlais yn wahanol i bawb arall, teimlad fy mod i ddim yn ffitio i mewn unrhyw le. Roeddwn yn hoffi mathemateg a ffiseg a theimlais ryw gyswllt gyda’r bechgyn oedd yn ymfalchïo yng ngwyddoniaeth a miwsig cyfoes. Ond, ar ôl tair blynedd yn disgleirio yn y pynciau es i eistedd yng nghefn y dosbarth gyda’r merched a cheisio siarad am Donny Osmond.

Bûm yn dioddef o anhunedd – methu cysgu ar ben yr unigrwydd, a’r pethau oedd yn helpu lleddfu’r poen oedd miwsig, llyfrau a chael marciau da yn yr ysgol. Aeth y marciau’n waeth – dim yn ffôl ond nid cant y cant. Hormonau, bachgen hŷn, perthynas anaddas a theimlo ar goll heb neb yn y byd. Ble oedd fy rhieni? Doedd dim byd yno, dim byd.  Mae hyn yn anodd dychmygu os ydych wedi tyfu mewn teulu cariadus. Doedd mam a dad ddim yn hoff ohonof, roedd hyn yn amlwg, a dywedodd mam hyn yn glir i mi sawl dro.

Gwacter a chywilydd oedd yn llanw fy mywyd. Dechreuais hunan niweidio. Llyncais dabledi dad – ysbyty, pwmp stwmog. Mam a dad yn ddig – fwy o dywyllwch ac anobaith. Cri am help fi’n siŵr oedd hyn, ond daeth dim help. Gofynnodd neb i mi beth oedd yn bod; dim braich o’m cwmpas, dim anwes. Ar ôl ymgeisio hunan lladdiad falle tair gwaith, ceisiais gymryd fy mywyd o ddifri – roedd y tywyllwch yn ormod ac yn ymestyn i bob cyfeiriad am dragwyddoldeb. Buais bron a marw, niwmonia dwbl ac ysgyfaint wedi cwympo, anymwybodol am ddeg diwrnod ond goroesais. Ar ôl adfer, es i ysbyty am rhai misoedd, yna i ysgol arall a hefyd i’r brifysgol, ond doedd y clwyfau mewnol heb wella, a bu nifer o berthnasau gyda phobl oedd yn fy ngham-drin, bûm yn yfed gormod a cheisio lleddfu a ffoi oddiar y teimladau o fod yn ddi-werth, y cywilydd dwys, a rhyw ofn o dan bopeth.

Tyfu lan – dod adre i gariad

Heddiw. Eistedd yn y gwely yn ystod y cyfnod clo, yn gwenu wrth ysgrifennu. Blynyddoedd yn ôl roedd ferch drist, ferch ar goll, a bu niwl o boen yn llifo mewn i lanw’r bylchau yn ei enaid. Heddiw, mae yna deimlad bodlon ac mae hapusrwydd yn dawnsio o’m cwmpas yn fwy a fwy aml.

Sut ddigwyddodd y trawsnewidiad, yr adnewyddiad? Beth wnes i oedd creu newidiadau bach a fu’n cynyddu o ddydd i ddydd fel eu bod yn adeiladu fframwaith o sicrwydd a chymorth, digon i ganiatáu fwy o newid a thyfiant. Ar ôl penderfyniad i newid o ddifi yn sgil chwalu perthynas, dilynodd blynyddoedd o waith – llefain, ysgrifennu, bod yn onest, gollwng, dysgu, gwynebu poen, fwy o lefain, darllen, gwaith corfforol, cwnsela, myfyrio, dysgu i ymddiried, ymarfer hunan dosturi, a mwy. Yn araf deg gollyngais y patrymau a’r arfwisg oedd yn wrthwyneb ac yn rhwystr i gariad. Camau bach, camau gwerthfawr er mwyn fy hun ac er mwyn eraill yn fy mywyd.

Yn ystod y blynyddoedd bu digon o lanast, cilio i waelod botel a dinistrio pethau gwerthfawr, heb fod yn gallu stopio cerdded i lawr yr yn ffordd a chwympo i lawr i dwll tywyll. Dringais allan pob tro, ac yn awr rwy’n byw mewn … wel, dwy jyst yn byw ac mae bywyd yn dda. Mae anawsterau, galar, colled, ond yn y bôn dwy o hyd yn teimlo yn gadarn ac yn fodlon. Bod yn llon – ac yn fodlon i fywyd fy nghario, yn lle brwydro yn ei erbyn. Ar ôl blynyddoedd o feddwl fy mod i’n ddrwg – fel afal pwdr mewn byd o ffrwyth ffres a blasus – mae eglurdeb wedi dod, ac yn dal i ddod.

Mae anwybyddu a gwadu yn rhan o ‘anhwylder straen wedi trawma cymhleth’ (Complex post-traumatic stress disorder), ac mae hyn wedi rhwystro f’adferiad am flynyddoedd. Roedd gymaint yn ddirgel i mi. Mae’r ymwybyddiaeth o’r cyflwr sydd gennyf wedi fy helpu i ddeall ac i dderbyn, ac wedi galluogi a chefnogi fwy ac adfer. Mae siarad am yr hyn sydd wedi ein cloi mewn cywilydd ac ofn yn bwysig – mae’r carchar o gywilydd ac ofn yn fwy unig na unrhyw gyfnod cloi, a dwi’n ddiolchgar o waelod  fy nghalon fy mod yn gallu ysgrifennu am hyn heddiw a dweud bod gobaith a chariad yn y byd; peidiwch roi i fynnu, un cam ar y tro.

Rhannu

Gadael Ymateb