Mae gan bawb Iechyd Meddwl: Animeiddiad a Phecyn Cymorth i Athrawon

Animeiddiad

Anelir yr animeiddiad ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’ a’r pecyn cymorth cysylltiedig at ddisgyblion uwchradd Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9). Fe’u datblygwyd gan Ganolfan Anna Freud mewn cydweithrediad â phobl ifanc, athrawon ac arbenigwyr iechyd meddwl, ac fe’u haddaswyd i’r Gymraeg gan griw meddwl.org. Gallwch wylio’r animeiddiad isod.

Nod yr animeiddiad yw sicrhau fod gan pobl ifanc o’r oedran yma:

  • Iaith gyson a hygyrch er mwyn trafod iechyd meddwl
  • Ddealltwriaeth well o hunanofal iechyd meddwl
  • Wybodaeth am bwy i ofyn am gefnogaeth pan fo’i angen

Mae’r Pecyn Cymorth ar gyfer staff ysgol sydd i’w ddefnyddio ochr yn ochr â’r animeiddiad uchod yn cynnwys:

  • Cynllun Gwers a Chyflwyniad Powerpoint
  • Cynllun Gwasanaeth a Chyflwyniad Powerpoint
  • Adnoddau ac ymarferion dosbarth amrywiol

Ffeiliau i’w Lawrlwytho

Canolfan Anna Freud

Adborth

Ydych chi wedi defnyddio’r animeiddiad a/neu’r adnoddau? Hoffem glywed eich adborth. E-bostiwch post@meddwl.org a rhowch wybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl! Byddwn yn anfon unrhyw sylwadau ymlaen at Ganolfan Anna Freud.


Byddwn yn anfon copi o’r pecyn cymorth Cymraeg i athrawon at bob ysgol Cymraeg a dwyieithog. Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad tuag at y costau.


Rhagor o wybodaeth