Ymgyrchu
Campaigning
Mae bod yn ymgyrchydd yn waith caled: mae’r heriau’n fawr ac mae’r byd yn newid ar raddfa gyflym.
O ddadlau ar Twitter, canfasio a mynychu ralïau i drefnu deisebau, ysgrifennu erthyglau a chysylltu â gwleidyddion a sefydliadau – mae’r cyfan yn flinedig iawn. Mae hyd yn oed yn fwy blinedig pan fydd ein hymdrechion yn teimlo’n ofer.
Ni allwn frwydro popeth, a hyd yn oed pan fyddwn ni’n brwydro, ni allwn ennill bob tro. Nid ein bai ni yw hynny, ac nid yw hynny’n ein gwneud ni’n ddiffygiol, yn wan nac yn fethiant.
Mae’n hawdd credu bod rhaid bod yn gynhyrchiol yn gyson er mwyn bod yn llwyddiannus. Ond yn aml nid yw enillion ymgyrchu’n digwydd dros nos; mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau mwyaf yn digwydd mewn camau bychain dros gyfnod hir.
Hunan-ofal i ymgyrchwyr
Dyna pam fod hunanofal mor bwysig. Nid yn unig oherwydd bod gofalu am ein hunain yn bwysig, ond oherwydd na allwn ni barhau i newid y byd os ydyn ni wedi ymlâdd ac wedi colli’n sbarc.
Rydyn ni’n cael ein dysgu o oed ifanc nad yw bod yn hunanol yn iawn, ond nid yw bod yn gwbl anhunanol yn iawn chwaith. Mae’n bosib rhoi cymaint o amser ac egni i bobl eraill fel ein bod ni’n colli golwg ar bwy ydyn ni yn y pen draw.
Mae’n hanfodol ein bod ni ymgyrchwyr yn gofalu amdanom ni’n hunain fel bod gennym ni ddigon o egni a gwytnwch i fod yn effeithiol yn ein hymgyrchoedd. Wrth gwrs, haws dweud na gwneud. Ond mae’n bwysig siarad am yr heriau a bod yn onest pan rydyn ni’n cael trafferth.
Isod mae rhai syniadau hunanofal yn benodol ar gyfer ymgyrchwyr.
Gwnewch amser i gysylltu â phobl wyneb yn wyneb
Does dim dwywaith amdani, gall technoleg a dulliau cyfathrebu newydd wneud bywyd yn haws. Ond ni all unrhyw beth ddisodli sgwrs wyneb-yn-wyneb hen-ffasiwn dda.
Mewn oes o sianeli cyfathrebu lluosog, mae’r cyswllt dynol hwn yn dod yn brinnach ac yn fwy pwerus. Pan fyddwch chi yng nghwmni rhywun, p’un ai yw’n ffrind neu’n gydweithiwr, diffoddwch eich ffôn a byddwch yn bresennol; gwrandewch yn astud a gwerthfawrogwch yr hyn mae’r person yn ei ddweud.
Mae’n iawn peidio â gwybod yr atebion i gyd
Waeth i ni gyfaddef nawr, does gan neb yr holl atebion. Yn aml, nid oes un ateb “cywir”. Y ffordd orau ymlaen yw gweithio gyda’n gilydd i rannu ein syniadau a’n problemau a thrafod atebion posib. Gall pethau gwych ddigwydd pan ollyngwn ni’r angen i fod yn “gywir” neu’r pwysau i gael yr holl atebion.
Gwnewch rywbeth creadigol
Paentio, darlunio, gwneud crochenwaith, canu, gwnïo, dawnsio, perfformio – beth bynnag sy’n addas i chi! Mae rhai o’r ymgyrchoedd gorau, a’r mwyaf creadigol, yn gyfuniad o gelf a gwleidyddiaeth. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr, gwnewch beth bynnag ‘rydych chi’n ei fwynhau. Gall gweithgareddau creadigol hefyd ein helpu i gysylltu wyneb yn wyneb â phobl newydd.
Gwnewch rywbeth nad yw’n gysylltiedig ag ymgyrchu
Mae llawer o bobl yn treulio pob eiliad effro yn gweithredu, ac er bod hynny’n bwysig gall hefyd fod yn iach gwneud rhywbeth nad yw’n gysylltiedig â newid y byd.
Sicrhewch fod gyda chi rywbeth yn eich bywyd nad yw’n canolbwyntio ar ymgyrchu. Cymerwch amser i ffwrdd ar ôl cyfnod dwys o ymgyrchu. Mae hyn yn hanfodol i’n helpu i ail-wefru, i ganiatáu i ni ystyried gwahanol safbwyntiau ac i weithio allan pa weithgareddau sy’n gwneud gwahaniaeth.
Ewch oddi ar-lein
Mae mor hawdd colli ein hegni fel ymgyrchydd pan fyddwn ni wedi ein dal mewn cylch newyddion 24/7. Bob tro rydyn ni’n agor Twitter, rydyn ni’n gweld popeth ofnadwy sydd wedi digwydd dros y 24 awr ddiwethaf ar unwaith. Er bod aros yn wybodus yn bwysig, gall cael ein peledu yn gyson â digwyddiadau ofnadwy’r byd heb seibiant fod yn flinedig iawn.
Felly, beth am gymryd seibiant digidol – neu o leiaf ddileu Twitter o’ch ffôn fel na allwch dreulio pob munud effro yn gwirio’r newyddion?
Os nad ydych chi am fod allan o gysylltiad yn llwyr â’r newyddion, ystyriwch wylio bwletinau’r newyddion yn lle, neu ddarllen y newyddion yn ystod eich amser cinio. Drwy wneud hynny gallwch reoli faint o wybodaeth rydych chi’n ei weld.
Dewch o hyd i’ch cymuned
Y ffordd orau i ni ymgyrchwyr edrych ar ôl ein hunain yw amgylchynu’n hunain gyda phobl sy’n cadarnhau’n profiadau ac sy’n barod i’n derbyn ni am bwy ydyn ni. Ymunwch â chymunedau sydd yr un mor frwd dros gynhwysiant a chyfiawnder ag yr ydych chi.
Cyfyngwch y pethau sy’n dwyn eich egni
Pan fyddwn ni’n ymgyrchu, mae disgwyl y byddwn ni bob amser yn gweithio ac yn gweithredu. Gall brys y materion rydyn ni’n ceisio eu datrys wneud iddo ymddangos fel nad oes amser i orffwys. Ond, gall ymgyrchwyr sy’n gweithio’n rhy galed ac yn rhy gyflym orflino yn fuan oni bai eu bod yn cymryd seibiannau i ailwefru eu batris.
Byddwch yn ymwybodol o’r gweithgareddau, y bobl a’r pethau sy’n defnyddio’ch egni mewn ffyrdd anffrwythlon. Crëwch berthnasoedd sy’n eich maethu ac yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi. Gwnewch amser i orffwys ac ymlacio. Neilltuwch amser i fod ar ben eich hun hefyd.
Gofynnwch am help pan fydd ei angen arnoch
Pan ddaw argyfwng i’r amlwg yn eich bywyd, gofynnwch am help gan eich ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned. Peidiwch â bod â chywilydd i geisio cymorth proffesiynol.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd, ond gobeithio bydd hwn yn dechrau’r sgwrs am sut y gallwn ni ofalu amdanom ni’n hunain, cefnogi ein gilydd, ac adeiladu ymgyrchoedd cryfach. Os oes gyda chi syniadau am hunanofal wrth ymgyrchu, byddem wrth ein bodd yn eu clywed.
Dolenni allanol
[Ffynonellau: bond.org.uk, thenopebook.com a liveyourdream.org]