Bywyd Prifysgol

Gall myfyrwyr wynebu nifer o heriau iechyd meddwl yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Yn ystod prysurdeb a bywyd prifysgol mae’n hawdd anghofio edrych ar ôl eich hun, yn gorfforol ac yn feddyliol.

Dechrau yn y brifysgol

Gall dechrau yn y brifysgol fod yn brofiad arbennig a chyffrous, ond gall hefyd ddod â’i heriau unigryw.

Mae’n naturiol i deimlo’n nerfus neu wedi eich llethu yn ystod yr wythnosau cyntaf yn y brifysgol, a gall gymryd dipyn o amser i ddod i arfer.

Y cyngor gorau yw: edrychwch ar ôl eich hun.

Mae poeni na fyddwch yn gwneud ffrindiau yn gyffredin iawn. Fodd bynnag, bydd pawb yn yr un sefyllfa â chi. Prin iawn yw’r glas-fyfyrwyr sy’n adnabod unrhyw un arall yn y brifysgol, felly byddan nhw yr un mor bryderus ac awyddus i wneud ffrindiau â chi.

Mae symud o adref yn newid a all fod yn bryderus ond mae’n newid sy’n effeithio ar bawb ar ryw adeg yn eu bywydau. Dydych chi ddim ar ben eich hun! Gall fyw i ffwrdd oddi wrth eich teulu ymddangos yn anodd, ond mae ffonau symudol a’r we yn gwneud byd o wahaniaeth.

I lawer o bobl mae wythnos y glas yn brofiad gwych – ond peidiwch â phoeni os nad dyma ydy wythnos orau eich bywyd! Mae’n iawn i deimlo sut bynnag ‘rydych chi’n teimlo am wythnos y glas.

Peth arall i’w gofio ydy eich bod yn mynd i mewn i gymuned gefnogol lle mae myfyrwyr a staff yn gweithio i sicrhau bod pethau’n mynd yn esmwyth. Ni fydd rhaid i chi gofio’r holl gynghorion byddwch yn eu darllen ar y we – os ydych chi’n cael trafferthion, cofiwch fod llawer o bobl yno i’ch cefnogi – o swyddog lles Undeb y Myfyrwyr a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, i gyd-fyfyrwyr a all eich cyfeirio at ble i gael cymorth.

Darllen rhagor am ddechrau yn y brifysgol

Myf.Cymru

Mae myf.cymru yn brosiect iechyd meddwl a llesiant trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr, sydd wedi creu gwefan o’r un enw. Mae’r adnoddau wedi ei greu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Grŵp Llandrillo Menai. Ar y wefan, cewch gynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi’u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae myf.cymru wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’r rhaglen MOIMR i gyfieithu eu ap i’r Gymraeg. Yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i’ch cefnogi ar eich adferiad, a bydd o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd. Yn ogystal, ceir podlediad o’r enw ‘Sgwrs?’ sydd yn trafod materion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr heddiw.

Dolenni allanol